I ystyried yr
adroddiadau
Penderfyniad:
Nodi a derbyn
yr adroddiad.
Cofnod:
Croesawyd
Brigitte Evans (Cymhorthydd Harbwr Abermaw) i’w chyfarfod cyntaf. Diolchwyd i’r
swyddogion ac i staff yr harbwr am eu holl waith yn cynnal y gwasanaeth yn
ystod blwyddyn eithriadol o anodd.
(a) Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar
faterion yr Harbwr am y cyfnod yn diweddu Mawrth 2021
Angorfeydd
Adroddwyd bod
gostyngiad sylweddol yn nifer yr angorfeydd o ganlyniad i gyfyngiadau yn
gysylltiedig â covid 19. Nodwyd bod nifer o berchnogion cychod wedi dewis
peidio defnyddio eu cychod yn 2020 - patrwm a welwyd yn gyffredinol ar draws
Harbyrau Gwynedd.
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chydymffurfio gyda’r cod ac os oedd hyn yn rhywbeth anodd ei weithredu, nodwyd
mai’r agweddau diogelwch oedd y prif heriau ynghyd a chynnal asesiadau risg ac
archwiliad allanol. Ategwyd bod y broses o ‘adeiladu’r’ cod yn un oedd yn datblygu yn raddol. Adroddwyd y byddai llythyr y
cael ei anfon gan y Gwasanaeth i’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ar ôl
cynnal yr archwiliad allanol blynyddol o’r system rheoli diogelwch.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chawelli pysgotwyr yn
cael eu gadael ar yr harbwr, nodwyd mai trefniant dros dro yn unig ydoedd ac
fel bydd y tymor pysgota yn agosáu bydd y cawelli yn cael eu hail leoli.
Materion Staffio
Adroddwyd bod
amryw o newidiadau staffio wedi digwydd yn ystod y flwyddyn gyda Mr Glyn Jones
yr Harbwrfeistr wedi gadael i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Amlygwyd
bod Bergitte Evans a Jordan Hewlett wedi eu penodi i gyflawni dyletswyddau yr
Harbwr a’u bod yn parhau i gael eu hyfforddi a’u
datblygu.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag adnoddau digonol i ymdopi
gydag ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr Haf, nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi
amlygu pryder o’r sefyllfa a’r mater wedi ei drafod yn y Grŵp Twristiaid,
o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Uned
Forwrol, a chynllun effeithiol ar gyfer y gwaith wedi ei gytuno, awgrymwyd y
byddai’r lefel staffio yn ddigonol ar gyfer yr Harbwr a’r traeth. Bydd staff o
adrannau eraill hefyd ar gael i reoli materion yn y
dref.
Materion Ariannol
Cyflwynwyd
cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Mawrth
2021. Amcangyfrifwyd gorwariant o £8,061.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddigolledu lleihad mewn
incwm, adroddwyd bod £4,500 wedi ei dderbyn ac wedi ei gynnwys yn y gyllideb.
Nodwyd y byddai ffioedd angorfeydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant (2%) ond na fyddai cynnydd mewn ffioedd lansio, cofrestru ac
ailgofrestru.
Gwaith Atgyweirio Traphont Abermaw
Cafwyd cyflwyniad
gan Steve Richardson (Griffiths Engineering) ar y gwaith atgyweirio fydd yn
cael ei wneud i draphont Abermaw dros y ddwy flynedd nesaf. Cyfeiriwyd at
amserlen y gwaith oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad yr Harbwr Feistr.
Prif bwyntiau yn
codi o’r drafodaeth:
·
Ni
fydd y bont yn agor – nid yw wedi cael ei ddylunio i agor
·
Nid
oes cynllun i godi lefel y tywod
·
Ni
fydd y gwaith yn cyfyngu defnydd o’r ardal mordwyo
·
Bydd
yr hen bren a’r hen haearn ar gael i artistiaid lleol
·
Bydd
maint y coed newydd yn rhy fawr ac felly bydd angen eu llifio i’r maint cywir –
bydd y darnau ‘gwastraff’ ar gael am bris rhesymol
gyda’r arian i’w gyfrannu at yr RNLI ac elusennau lleol eraill. Awgrymiadau i’w cyfeirio at SR
·
Bydd
rhai darnau o’r coed yn cael eu hail ddefnyddio i atgyweirio llwybrau
·
Petai'r
angen am waith atgyweirio i’r harbwr, mynegwyd bod adnoddau ar gael - y cwmni yn
agored i drafodaethau
·
Er
y bwriad o agor siop safle i rannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd, nid yw hyn wedi
bod yn bosib o dan gyfyngiadau /
canllawiau covid 19
·
Bydd
yr hen olwyn fecanyddol yn aros yn ei hunfan ac nid ar gael fel ‘addurn’ i’r gerddi - hwn yn benderfyniad gan CADW
·
Manylion Steve Richardson i’w dosbarthu i'r Aelodau
(b) Adroddiad
yr Harbwr Feistr
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cymhorthydd Harbwr yn
manylu ar faterion mordwyo, gweithredol
a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:
·
Bod
cwrs y sianel fordwyo wrth ddynesu at Harbwr Abermaw wedi aros yn eithaf cyson
dros y flwyddyn ddiwethaf. Er hynny, yn
dilyn cais gan Dŷ'r Drindod i newid safle'r Bwi Fairway (marc dŵr
diogel), i gyd-fynd yn well â'r sianel fordwyo sydd â bwiau rhoddwyd caniatâd
i’w leoli ar safle 52° 42.815 N. 004° 04.887 W.
·
Epidemig
y Coronafeirws a chyfyngiadau cysylltiedig Llywodraeth Cymru, wedi cael effaith
fawr ar weithrediad yr Harbwr yn ystod 2020.
·
Er
y caniatawyd i gychod pysgota barhau i weithredu drwy gydol y cyfnod, cafodd
symudiadau twristiaeth a hamdden yn yr harbwr eu cyfyngu yn sylfaenol gyda
llawer o berchnogion yn penderfynu gadael eu cychod ar y lan
am y flwyddyn.
·
Yn
anterth tymor yr haf 2020 pan roedd rhai cyfyngiadau Coronafeirws wedi eu codi,
daeth blaen yr harbwr yn le prysur iawn – nid oedd llawer o sylw yn cael ei roi
i'r mesurau pellter cymdeithasol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, o ran y
Coronafeirws gan ymwelwyr
·
Cafodd
angorfeydd ymwelwyr a leolir yn yr harbwr eu harchwiliad blynyddol a'u
gwasanaethu yn 2020. Gwnaed hyn gan gontractwr allanol. Gyda symudiadau'r sianel y gellir ei mordwyo
yn cael ei hadolygu, mae'n bosib iawn y bydd rhaid ail-leoli'r angorfeydd hyn
ar gyfer y tymor a ddaw fel bod modd iddynt barhau i fod mewn dŵr
dwfn.
·
Yn
ystod y cyfnod dan sylw, mae'r gwaith o gynnal a chadw'r cymhorthion mordwyo
wedi ei ymgymryd gan gontractwr allanol ar gost net i'r Gwasanaeth o
£2600.
·
Bod
difrod wedi ei wneud i'r ddwy ysgol newydd a osodwyd
ar wal yr harbwr y llynedd. Achoswyd y
difrod gan gychod oedd wedi angori ger wal y cei. Bydd y Gwasanaeth yn ceisio ymgymryd â gwaith
i atgyweirio'r ysgolion ar y cyd gyda pherchnogion y cychod dan sylw ynghyd a
cheisio adennill y costau gan berchnogion y cychod
·
Mae
ymsuddiant yn parhau o amgylch isadeiledd yr harbwr. Arweiniodd dymchweliad y wal fôr o dan
Gerddi'r Traphont at osod cerrig amddiffyn yn y cyffiniau i atal difrod
pellach. Mae ymsuddiant tir yr harbwr ger
y rhesel dingis hefyd wedi gwaethygu.
Mae YGC wedi cael gwybod am yr ymsuddiant - cynhaliwyd gwaith archwilio
yn yr ardal i benderfynu ar y camau nesaf priodol.
·
Yn
dilyn proses o ymgynghori rhwng y Gwasanaeth a rhan-ddeiliaid yr harbwr,
paratowyd adroddiad a'i gyflwyno i'r Grŵp Gweithredu Lleol ar Bysgodfeydd
(FLAG) i sicrhau arian mewn cysylltiad â strategaeth
ddatblygu leol Llywodraeth Cymru, ar gyfer astudiaeth dichonoldeb i'r gwaith
carthu arfaethedig yn yr harbwr.
Adroddwyd bod YGC yn llunio pecyn tendr ar gyfer y gwaith - diweddariad
ar y sefyllfa Hydref 2021. Diolchwyd i FLAG am yr arian
i gynnal arolwg ac astudiaeth dichonoldeb.
·
Bod
safleoedd parcio ar Ffordd y Compownd wedi cael eu marcio i helpu Gweithwyr
Masnachol gyda cwch yn yr harbwr i ddal ati gyda'u gweithgareddau mewn
amgylchedd harbwr prysur, yn arbennig yn ystod yr haf. Yn anffodus, ers gosod bolardiau i atal
parcio di-drefn, difrodwyd sawl bolard gan unigolion heb awdurdod. Ni all y Gwasanaeth barhau i ysgwyddo cost
atgyweirio difrod o'r fath. Mae'r mater bellach yn destun adolygiad. Y bwriad
yw ystyried cynlluniau amgen i’r dyfodol - nid oes bwriad rhoi gorchymyn parcio
ar yr ardal - blaenoriaeth yn cael ei
roi i safleoedd proffil uwch yn y Sir
·
Bod
hi’n hanfodol, wrth drefnu unrhyw ddigwyddiad, i gydymffurfio gyda'r Rheoliadau
Coronafeirws sy'n bodoli ar y pryd a'r cyngor a gynhyrchwyd gan Lywodraeth
Cymru gan gysylltu gydag Awdurdod yr Harbwr neu Grŵp Digwyddiadau Gwynedd.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a chamau
ymgysylltu gyda’r gymuned leol ynglŷn â chynnal y digwyddiadau.
Anogwyd yr Aelodau i fod yn realistig yn yr hyn y gellid ei wneud o ystyried y
sefyllfa. Pwysleisiwyd yr angen i ymgynghori gyda’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth
yn amserol.
11:00am – munud i feddwl, i oedi a myfyrio ar
brofiad y flwyddyn ddiwethaf. Nodi blwyddyn ers dechrau'r
cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf mewn ymateb i bandemig Covid-19.
Cynlluniau Amddiffynfeydd Môr - diweddariad
Cynllun Prom y Gogledd a Chynllun Gerddi’r Draphont gan Rob Williams ac Osian
Richards YGC.
Adroddwyd bod
cyfarfod wedi ei gynnal 6ed o Ionawr 2021 - y cofnodion wedi eu rhannu gyda’r
Aelodau.
Prif bwyntiau yn codi o’r drafodaeth:
Cynllun
Prom y Gogledd:
·
Gwaith
geoffisegol wedi ei wneud i ymchwilio i gyflwr strwythur y gwagle
·
Dylunio
manwl i fodelu’r traeth
·
Achos
busnes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
·
Ni
fydd twyni tywod yn cael eu creu gan nad yw’n caniatáu
amser digonol i’r gwair maram gydiad. Angen ystyried opsiynau posib sydd yn
cynnwys sefydlogi’r gwair sydd eisoes yn bodoli. Trafodaethau pellach i’w
cynnal.
Cynllun
Gerddi Traphont:
·
Gwaith
diweddaru achos busnes yn cael ei gwblhau
·
Arolwg
o wal y cei yn ei gyfanrwydd wedi ei gwblhau - adroddiad o’r darganfyddiadau
heb ei derbyn
·
Cam
nesaf - dylunio manwl ar gyfer y gwath – arian cyfatebol ar gael ar gyfer y
gwaith drwy gynllun asedau’r Cyngor
·
Gwaith
gwella draenio i’w gwblhau yn y lôn –
·
Angen
gwella safon amddiffyn llifogydd o’r môr. Y bwriad yw ymgynghori gyda’r cyhoedd
- yr ardal yn un sensitif - angen ystyried edrychiad
gorffenedig ynghyd a lefel briodol o amddiffyn.
·
Cynlluniau
mynediad i’w hymgorffori gyda chynlluniau amddiffynfeydd - syniadau i’w
cyfeirio ymlaen i’r Adran Economi
·
Wal
y Cei - yn dilyn arolwg cychwynnol, y wal wedi sefydlogi ond angen arolwg pellach
cyn agor i’r cyhoedd. Trafodaethau pellach i’w cynnal gyda YGC - os bydd angen
‘pwysau ychwanegol,’ gellid ymgorffori hyn i’r Cynllun Gerddi Traphont.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: