I drafod
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol
yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau gan bwysleisio
bod y pandemig wedi cael effaith ar ffigyrau ar bob
harbwr yng Ngwynedd. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd.
Parhaodd i ddiweddaru’r aelodau’r Pwyllgor
ar y pwyntiau canlynol:
-
Adroddwyd ar yr angorfeydd blynyddol a’r lleihad a welwyd
y flwyddyn 2020 sef bod 47 o gychod o gymharu â 68 yn
2019. Rhagdybiwyd bod llawer o bobl wedi penderfynu peidio defnyddio eu cychod
yn ystod y cyfnod hwn.
-
Adroddwyd ar y niferoedd o gychod
a chychod dwr personol y cofrestrwyd gan nodi bod cynnydd wedi bod yn niferoedd
cychod dwr personol.
- Cyfeiriwyd
at yr adroddiad gan nodi bod yr holl ystadegau perthnasol wedi eu nodi fan hyn,
a chroesawyd cwestiynau ar y rhain.
Trafodwyd y Cod
Diogelwch Morwrol a gofynnwyd i’r aelodau i roi gwybod i’r Gwasanaeth os bydd
unrhyw sylwadau ynghylch hyn. Parhawyd i drafod sefyllfa staff yr harbwr, gan
ddiolch iddynt am eu gwaith dros y cyfnod clog. Nodwyd eu bod wedi parhau i
weithio drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau
diogelwch y cyhoedd ag diogelwch yr harbwr.
Mewn perthynas ag
sefyllfa rheoliadau Covid-19, nodwyd bod arwyddion o amgylch yr harbwr wedi eu
gosod i helpu gyda chydymffurfiad ac i sicrhau iechyd staff.
Croeswyd yr Harbwrfeistr Cynorthwyol ar ei benodiad ar gytundeb parhaol
erbyn hyn. Parhawyd i nodi bod ei gyfraniad wedi bod yn allweddol i
gynorthwyo’r Harbwrfeistr dros y cyfnod anodd hwn. Ar
ben y penodiad hwn, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
bod bwriad i benodi 2 swyddog traeth eleni gan eu bod yn rhagweld y bydd llawer
iawn o bobl yno dros yr haf eleni.
Mewn perthynas â
materion ariannol, nodwyd nad oedd ffigyrau cyfredol ar gael gan yr uned cyllid
hyd hyn, fodd bynnag sicrhawyd y bydd y rhain ar gael i Aelodau yn fuan.
Diweddarwyd ar y sefyllfa ariannol gan nodi bod incwm yn ddifrifol o ganlyniad
i niferoedd llai o gychod a rhagwelid y bydd
ansicrwydd teithio yn cael effaith ar hyn eleni. Ategwyd at hyn gan nodi bod
aelodau’r Cyngor wedi cefnogi a gostwng targedau incwm i gymryd ystyriaeth
heriau'r diwydiant morwrol.
Diolchwyd i’r Harbwrfeistr A’r Cymhorthydd Harbyrau
am y gwaith llynedd mewn cyfnod prysur iawn er ei fod yn dymor byr.
Atgyfnerthwyd pwysigrwydd eu swyddi mewn perthynas â chadw’r harbyrau a thraethau yn saff.
Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau canlynol;
-
Diolchwyd i’r holl staff harbyrau
gan Aelodau ABC.
-
Ategwyd bod yr ardal wedi profi nifer uchel iawn o
ymwelwyr a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd eto eleni a bydd staff yr harbwr yn brysur iawn,
pwysleisiwyd eu bod angen pob cefnogaeth.
-
Cydymdeimlwyd a’r adran gan fod incwm yn amlwg wedi
lleihau oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi bod.
-
Derbyniwyd bod angen codi incwm fodd bynnag cynigwyd
byddai cadw ffioedd yr un fath yn cynyddu’r nifer fydd yn talu.
Mewn ymateb i rai
sylwadau nodwyd;
-
Bod y Cyngor yn gefnogol iawn i sefyllfa ariannol yr harbyrau a bod sawl cyfarfod wedi bod er mwyn trafod
dulliau i ymateb i’r cyfnod ôl cyfyngiadau.
-
Mai prif ffocws yr haf yma fydd sicrhau diogelwch
ymwelwyr i’r ardaloedd harbyrau a thraethau.
-
Cadarnhawyd bod y Cyngor yn gefnogol iawn gyda nifer o
gyfarfodydd yn digwydd i edrych ar sut i ymateb i agor i fyny a’r niferoedd o
ymwelwyr ym mhob rhan o Wynedd.
-
Ategwyd bod cefnogaeth dau aelod staff haf yma rhyddhau
aelod o staff i fod ar y dŵr yn fwy rheolaidd i gadw trefn
-
Nodwyd mai cyfiawnhad ar gyfer codi ffioedd oedd cynnal y
Gwasanaeth ac i annog pobl i gofrestru am y flwyddyn.
-
Ategwyd bod pobl yn cael eu hybu i dalu ar-lein neu’n
electroneg gan nad oes modd gofrestru yn y swyddfa harbwr.
Dogfennau ategol: