Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha hyn rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r dyfodol.”

 

 

Cofnod:

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Siân Gwenllian, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol.  Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’ o dan amgylchiadau erchyll.  Ar waetha hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r dyfodol.”

 

Cefnogwyd y cynnig.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Adnoddau at gyhoeddiad y Gweinidog y diwrnod cynt ynglŷn â setliad 2016/17 gan bwysleisio nad oedd yna unrhyw le i ymhyfrydu yn y sefyllfa gan fod y Cyngor yn wynebu 2% o doriad yn ei gyllideb yn 2016/17, ac felly’n parhau yn y sefyllfa o orfod canfod tua £7m o doriadau yn y flwyddyn nesaf.

·         I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y Gweinidog wedi datgan, er y toriadau erchyll gan Lywodraeth San Steffan, na fyddai’r setliad i gynghorau mor ddrwg ag a ragwelwyd ac y mawr hyderid na fyddai Addysg, y Gwasanaethau Cymdeithasol nac adrannau eraill ar draws y Cyngor yn wynebu cymaint o doriad.

·         Awgrymwyd nad ffigur ddoe oedd yr un pwysig, eithr y ffigur cronnus, a bod llywodraeth leol wedi derbyn toriad o 16% yn ei gyllideb ers 2009.

·         Nodwyd, yn ogystal â thoriadau, bod y Cyngor yn wynebu newidiadau mawr, megis dyfodiad y Credyd Cynhwysol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth y D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Nodwyd bod y drafodaeth wedi mynd yn eang ac y byddai’n well petai’r holl fater o effaith y setliad wedi’i godi fel mater brys o dan eitem 6 ar y rhaglen.

·         Mynegwyd y farn bod yr ychwanegiad i’r cynnig yn cymylu’r holl fater ac na ellid cyplysu’r ddau beth gyda’i gilydd mewn un cynnig.

·         Awgrymwyd bod yr ychwanegiad yn ddilys gan mai datganiad mewn egwyddor ydoedd, sy’n condemnio arfogi a gwario ar arfau rhyfel.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i addasu fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol.  Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’ o dan amgylchiadau erchyll.  Ar waetha hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r dyfodol.

 

Mae’r Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth y D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.”