I gyflwyno Adroddiad Adolygu Blynyddol
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i’r pwyllgor.
Awdur: Debbie Anne Williams
Jones.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg ragymadrodd i’r
adroddiad gan dynnu sylw at y cyfnod heriol a wynebodd yr
ysgolion dros y cyfnodau clo. Mewn perthynas â’r Gymraeg mewn ysgolion, nododd
bod heriau i ddod wrth i blant fethu ar
fod yn rhan o awyrgylch Gymreig o’r ysgol a’r dosbarth.
Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaethau
Corfforaethol Addysg drosolwg o’r adroddiad blynyddol
ar weithrediad yr adran. Ategodd
mai ffocws yr adroddiad y tro hwn
oedd ar weithdrefnau ac nid ar ddata.
Eglurodd
bod cynnwys yr adroddiad yn cwmpasu’r dulliau a ddefnyddiwyd
er mwyn ymdopi a’r newidiadau i addysg. Nododd bod y canolfannau iaith wedi
wynebu heriau o barhau i gynnig profiad
Cymreig i’r plant, fodd bynnag bachwyd ar y cyfle i arloesi drwy ddefnyddio
sesiynau dysgu byw. Nododd yn ychwanegol bod y dulliau yma'n sicrhau bod y
Gymraeg yn cyrraedd cartrefi’r dysgwyr er mwyn cynnal eu sgiliau iaith. Yn
ogystal â chefnogi dysgwyr, nododd bod gan y
Cynllun Strategaeth Gymraeg Mewn Addysg flaenoriaeth
arall, sef
i gefnogi gweithlu hyderus yn y Gymraeg.
Ategodd
y Pennaeth
Addysg bod sicrhau
defnydd y Gymraeg yn un o brif heriau ysgolion
wrth ddychwelyd gan nodi elfen o bryder bod hyn yn dirywio.
Parhaodd
i drafod adolygiad thematig Estyn gan bwysleisio bod gweithdrefnau Gwynedd wedi
eu cydnabod fel enghraifft o arfer dda. Cyfeiriodd yn
uniongyrchol at ddulliau arloesol y canolfannau iaith o ddarparu addysg dros y
cyfnod clo a bod hyn yn cael ei adnabod fel cryfder yn genedlaethol.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-
· Llongyfarchwyd yr
adran ar y dulliau arloesol a ddefnyddir sy’n
cael eu cydnabod
fel arfer da, a phwysleisiwyd bod mwy o bwysau nag erioed ar yr iaith Gymraeg
wrth i addysgu o bell barhau.
· Gofynnwyd
a fydd camau i asesu’r niwed sydd wedi bod ar ddefnydd yr iaith Gymraeg ag i
ddiwallu’r anghenion ychwanegol fydd angen wrth ddychwelyd i’r ysgol.
· Mynegwyd bod
yr awdurdod yn amlwg wedi
cymryd camau gwerthfawr i
amddiffyn y Gymraeg mewn sefyllfa anodd.
· Atgoffwyd
yr aelodau o’u
rolau pwysig
fel llywodraethwyr ysgol a’u dylanwad hwy ar ymdrechion i gynnal y Gymraeg o
fewn y dosbarth a thu hwnt.
Mewn
ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y Rheolwr
Gwasanaethau
Corfforaethol Addysg :-
· Ei
fod yn galonogol i glywed aelodau etholedig
yn gwerthfawrogi a nodi’r gwaith amddiffyn iaith
sydd yn digwydd mewn ysgolion a chanolfannau iaith yng Ngwynedd.
· Bwriedir
sefydlu gwaelodlin i asesu’r sefyllfa iaith wedi i’r holl
ddysgwyr ddychwelyd i’r
dosbarth.
· Ategodd
y Pennaeth Addysg y gofynnwyd
i’r Adran Addysg arwain ar ddarn o waith ymchwil trawsadrannol gyda
phartneriaid megis GwE,
Mudiad Meithrin, y Gwasanaeth Iechyd a chanolfannau Addysg Bellach. Ategodd mai
bwriad y gwaith fydd adnabod meysydd lle bo gagendor lles wedi ymddangos yn
sgil Covid-19.
· Nododd
mai un o’r camau nesaf fydd creu cynllun gweithredu i adnabod cerrig milltir pendant
o beth i’w wneud i
gryfhau’r sefyllfa.
· Ategodd
y bydd deilliant y gwaith ymchwil yn
cael ei rannu gyda’r pwyllgor yma.
· Eglurodd
bod nifer o ddulliau ar waith gan ysgolion er mwyn lleihau niwed i’r iaith
Gymraeg. Rhoddodd enghreifftiau, gan
gynnwys sicrhau bod y dechnoleg gan y dysgwyr i fanteisio ar ffrydiau gwersi
byw a chynnwys arweiniad dwyieithog i rieni.
Dogfennau ategol: