Agenda item
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan
Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(1)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones
“Be mae'r Arweinydd yn
ei wneud i sicrhau bod contractau sero awr yn Cyngor Gwynedd yn cael ei atal?”
Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y
Cyngor
(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig
yr Arweinydd i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi
anelu at ddileu contractau dim oriau ac o fewn trwch blewyn i wneud hynny. Dyna’r peth iawn i wneud a dw i’n falch iawn bod y Cyngor
wedi gallu gweithio tuag at y nod yna.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones
“A all yr Arweinydd roi addewid mewn chwe mis y
bydd bob contract sero awr wedi mynd ac y bydd y Cyngor yn ail-edrych ar y
sefyllfa o ran gweithwyr tymhorol gyda phroblemau yn codi i rai unigolion o ran
cael morgais?”
Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y
Cyngor
“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn ddoeth i osod amserlen ar unrhyw weithredu,
byddai hynny’n gamgymeriad oherwydd mae’n cyfyngu
unrhyw bosibiliadau. Gadewch i ni edrych ar y sefyllfa, os oes ‘na broblem mae
yna ddyletswydd arnom ni fel cyflogwr i ystyried beth yw’r problemau hynny. Dw
i ddim yn ymwybodol o’r problemau hynny, mae angen gwneud ychydig bach o waith.
Mae’r Cynghorydd yn iawn i gydnabod bod gwahaniaeth rhwng contractau dim
oriau a chontractau eraill, dw i’n falch ei fod yn cydnabod hynny, rhywbeth
dydi o ddim wedi gwneud bob amser yn y gorffennol, felly mae hynny’n gam ymlaen.
Gadewch i ni fynd ati a dw i yn rhoi’r addewid yma i’r Cyngor, fe awn i ati
i ymchwilio i unrhyw anawsterau ac unrhyw broblemau sydd yn codi o’r math o
gytundebau mae’r Cynghorydd wedi cyfeirio atyn nhw ac fe adroddwn yn ôl i’r man
priodol gydag unrhyw ddatblygiadau yn y maes. Dw i’n meddwl mai dyna ydi’r
ffordd briodol ymlaen.”
(2)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron M. Jones
“Gyda nifer helaeth yng Ngwynedd sydd mewn busnes
neu’n rhedeg busnes bychain, pa mor llwyddiannus mae’r Cyngor wedi bod wrth
weithredu’r Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol o ran cadw gwariant gan y Cyngor gyda
chontractwyr lleol?”
Ateb gan y Cynghorydd Mandy
Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae o’n faes pwysig iawn, fel y gwelwch chi o’r ystadegyn 40%. Mae o’n
faes cymhleth, mi ydach chi’n gallu cael rhai cwmnïau
sydd efo pencadlys tu allan i’r Sir ond efo canghennau o fewn y Sir sydd yn
cyflogi yma ac yn gwario yma ac os ydych yn ystyried rheiny mae’n codi’r canran
i 54%.
Mi ydan ni’n cyd-weithio yn fewnol o ran newid i
sut yr ydan ni’n prynu i reolaeth categori yn hytrach
nag adrannau. Er dweud hynna, dw i yn ymwybodol mai Strwythur mewnol ydy hynna,
mae yna ddau ran i mi, mae’r pethau mewnol, ond yn allanol mae gweithio efo’r
busnesau bach yn benodol yn bwysig ac i mi yn fanno mae’r ffyniant. Mi rydan ni
wedi gwneud gwaith trwy’r Panel Cyflawni i weld sut y
medrwn ddefnyddio’r Adran Economi a Chymuned i ofyn beth yw’r rhwystrau a ydan ni’n gallu helpu pan fo cwestiynau ar sut i lenwi
ffurflenni a phethau felly.
O ran y ganran ei fod yn dda yn gymharol ond dydi hynny ddim i ddweud nad
ydyw’n flaenoriaeth a dyna pam dw i’n awyddus i’w gadw yn y Cynllun Strategol.
Dw i’n gredwr cryf yn y cymalau cymdeithasol, os
oes contract yn mynd allan bod ni’n ei gwasgu hi i
gael apprentis neu rywbeth tebyg ynghlwm â hi, mae’n
waith sydd yn parhau. Ystadegau eithaf calonogol ond dw i’n pwysleisio fy mod
eisiau gwthio hyn ymhellach.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Aeron M. Jones
“Ydi hi’n bosib i’r Adran Economi a Chymuned
weithio mwy efo busnesau lleol er mwyn cadw gwaith a chadw’r budd yn lleol?”
Ateb gan y Cynghorydd Mandy
Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi
“Ar ôl cyfarfod diwethaf y Panel Cyflawni, roedd 3 pwynt o bryder i gwmnïau
sef cael gwybodaeth ar sut i dendro, pryd a pwy. Mi rydan ni wedi cynnal
sesiynau cwrdd â’r prynwyr. Wnâi ddim siarad am dendr
penodol ond mae pethau yr ydan ni wedi gallu gwneud fel peidio bod yn rhan o
fframwaith cenedlaethol fel bod ni’n cael torri lawr.
Mae yn faes cymhleth iawn, ond yn un dw i’n awyddus i ddatblygu.
Mi ydw i hefyd yn gweithio’n eithaf agos efo’r Pwyllgor Craffu
Corfforaethol, dw i’n barod wedi cael dau sesiwn gerbron nhw ac wedi gwahodd fy
hun yn ôl am y drydedd waith a dw i’n hapus iawn i wneud y cyd-weithio yma i
ddatblygu’r maes.”
Dogfennau ategol: