Cais llawn ar gyfer codi adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu gwarchod gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerddwyr, a thirlunio.
Aelod Lleol: Cynghorydd D. Gwynfor Edwards
Cofnod:
Cais llawn ar gyfer codi
adeilad deulawr sy'n darparu 18 uned hunan gynhaliol
ar gyfer myfyrwyr, torri coed wedi eu gwarchod
gan orchymyn gwarchod coed, newidiadau i'r fynedfa gerbydol
bresennol ynghyd a chreu mynedfa newydd
i gerddwyr, a thirlunio
Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd gwneud y penderfyniad
ar y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 28.9.15 er mwyn galluogi ymweliad safle.
Ategwyd mai cais llawn am ganiatad cynllunio ydoedd i
godi adeilad deulawr fyddai yn darparu 18 uned hunan gynhaliol ar gyfer
myfyrwyr. Nodwyd bod y safle yn wag ac wedi gordyfu, ei fod wedi ei leoli o
fewn ardal breswyl ar gyrion y ddinas, ond tu fewn i’r ffin datblygu. Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli ar dir serth ger ffordd gyhoeddus Lon Bopty ac o
ganlyniad wedi derbyn nifer o wrthwynebiadau yn ymwneud a diogelwch ffyrdd,
mynediad a chynnydd mewn traffig o ganlyniad i’r datblygiad dan sylw. Er y
gwrthwynebiadau, amlygwyd nad oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad.
Nodwyd
na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr adeilad rhestredig gerllaw
oherwydd lefelau tir a graddfa’r bwriad. Yng nghyd-destun cynnwys torri coed
sydd wedi eu gwarchod a phlannu coed newydd yn eu lle, nodwyd bod cynllun
tirweddu wedi ei gyflwyno i gyfleu hyn. Amlygwyd hefyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi cadarnhau fod y coed sydd wedi eu gwarchod o gyflwr gwael ac
felly nid oes gwerth eu cadw ar y safle.
Ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisiau lleol
a chenedlaethol a bod y bwriad yn ddefnydd addas o dir, gwag a blêr sydd
ynghanol y ddinas.
(b)
Cynigiwyd ac
eiliwyd i wrthod y cais ar
sail y rhesymau isod:
-
Bod yr allt yn serth,
yn gul a throellog
-
Mynediad cyfyngedig
-
Bydd cynnydd sylweddol mewn
traffig ar sail cynnydd mewn myfyrwyr sydd wedi eu lleoli ar safle Santes Fair
-
Cynnydd mewn traffig yn
beryglus i gerddwyr a myfyrwyr
-
Anodd gwneud y sefyllfa yn ddiogel (yn
enwedig yn ystod misoedd yr
Hydref a’r Gaeaf)
Mewn
ymateb i’r cynnig amlygodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu nad oedd
hanes damweiniau i’r safle ac roedd yn cydnabod bod y lleoliad yn beryglus i ddreifwyr a cherddwyr. Er hynny, nodwyd bod llwybrau eraill
ar gyfer y cerddwyr a bod rhywfaint o welliannau i’r fynedfa ac i’r ffordd wedi
eu cynnig. Ategwyd hefyd bod hyd at 6 man parcio yn ddigonol. Yng nghyd-destun
cynnydd mewn traffig o ganlyniad i gynnydd mewn myfyrwyr ar safle Santes Fair, nodwyd bod y sefyllfa wedi ei hasesu yn ystod cyfnod
diwethaf yr adeiladu ac yn ystod y cyfnod roedd myfyrwyr yn symud i mewn i’r
neuaddau preswyl.
(c)
Yn
ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:
· Bod y datblygiad yn creu effaith ar y tŷ rhestredig cyfagos
· Bod
rhaid ystyried y gorchymyn coed
· Bod
y bwriad yn or-ddatblygiad
· Y dyluniad ei hun
yn dderbyniol, ond y lleoliad dan sylw yn
anaddas
· Rhaid asesu
defnydd o’r Lôn ers i
fyfyrwyr symud i neuaddau
preswyl
Santes Fair
· Nid yw
effaith o’r cynnydd mewn nifer
y myfyrwyr yn yr ardal wedi
amlygu ei hun yn llawn
· Nifer o geisiadau
blaenorol wedi eu gwrthod ar
sail mynediad i’r
safle
· Effaith niweidiol
ar drigolion cyfagos
PENDERFYNWYD gwrthod y cais ar sail gorddatblygiad
fyddai’n cael effaith ar fwynderau'r ardal.
Dogfennau ategol: