Cais ol-weithdredol i osod 6 llwyfan
bren a gwaith
cysylltiol er mwyn lleoli 6 pabell
safari i gymeryd lle 6 safle carafan
teithiol a ganiatawyd fel rhan o ganiatad
cynllunio
cyfeirniod
C13/0873/44/LL.
Aelod Lleol: Cynghorydd E.
Selwyn Griffiths
Cofnod:
Cais ôl-weithdredol i osod 6 llwyfan
bren a gwaith cysylltiol er mwyn
lleoli 6 pabell saffari i gymryd
lle 6 safle carafán teithiol a ganiatawyd fel rhan o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C13/0873/44/LL
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais cynllunio
llawn ôl weithredol ydoedd i osod 6 llwyfan
bren a gwaith cysylltiol er mwyn
lleoli 6 ‘pabell safari’ i gymryd lle
6 safle uned teithiol a ganiatawyd fel rhan o ganiatâd
cynllunio cyfeirnod
C13/0873/44/LL, yn ogystal
â diwygiadau i’r gosodiad. Ategwyd y byddai’r pebyll yn ymestyn amrediad
o wasanaethau gwyliau'r parc.
(b)
Nodwyd y byddai rhywfaint o’r safle i’w
weld o anheddau sydd agosaf i’r safle
yn enwedig yn ystod misoedd
y gaeaf o ystyried y bydd y coed yn colli eu dail.
Er hyn, pe
caniateir y cais gellid lleihau'r effaith weledol drwy sicrhau cyfnod
aros/lleoli carfanau teithiol ar y safle i
gyfyngiad defnydd gwyliau rhwng Mawrth1af a Hydref 31ain mewn unrhyw flwyddyn a bod y pebyll, ynghyd a’r llwyfannau pren, yn cael
eu symud oddi ar y safle
tu allan i’r cyfnod hwn.
Credir, drwy amodau perthnasol i reoli’r tymor
a’r cynllun tirlunio a phlannu sydd eisoes wedi
ei weithredu, na fyddai unrhyw
ardrawiad annerbyniol yn deillio o ddefnyddio’r
safle ar gyfer y defnydd hwn. Ategwyd bod lleoliad, dyluniad, gorffeniad a ffurf y datblygiad yn dderbyniol
a bod y pebyll yn cydweddu gyda’r lleoliad.
Tynnwyd sylw
at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
(c)
Yn manteisio
ar ei hawl
i siarad, nododd asiant ar
ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Ei fod
yn cytuno gydag adroddiad y swyddogion
·
Bod y pebyll yn cynyddu’r amrywiaeth
a’r math o wasanaethau sydd gan y parc
gwyliau i’w gynnig
·
Bod
gwaith lliniaru’r tirwedd wedi ei
weithredu i safon uchel
·
Bod
symud y llwyfannau pren yn ymyrraeth
ddiangen ac felly cais i addasu’r amod
oherwydd bydd gofyn adeiladu llwyfannau newydd bob blwyddyn.
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Bod newid i’r bwriad gwreiddiol
·
Bod y parc wedi gwrthod gwrando
ar gyngor bod angen caniatad i newid defnydd
·
Bod y pebyll yn parhau ar
y safle er bod y cyfnod amser aros/tymor gwyliau wedi
dod i ben
·
Bod y cwmni, yn barhaus, yn
torri rheolau bychain
·
Angen sicrhau
bod rheolau tynn ar fodolaeth 6 pabell yn unig
·
Os bydd yr amod yn nodi
bod rhaid symud y llwyfannau pren, yna rhaid sicrhau
bod y cwmni yn cadw at hynny.
(d)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais
yn unol ar
argymhelliad.
Nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod trafodaethau wedi eu cynnal i
dynnu'r canfas a’r ffram yn
unig, ond buasai hyn yn
cadw’r platform sydd yn strwythur yn
ei le. Nodwyd bod symud llwyfannau pren ar ddatblygiadau
tebyg tu allan i gyfnod
amser aros/ tymor gwyliau yn
weithredol ar draws y Sir
ac mai cynsail peryg fuasai caniatáu
i’r llwyfannau pren hyn gael
aros yn eu
lle.
(dd) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylw canlynol:
·
Bod rhaid sicrhau cysondeb
PENDERFYNWYD
Caniatáu
Amodau
1.
Datblygiad yn unol â’r
cynlluniau.
2.
Lliw pebyll.
3.
Amod cyfyngu amser aros/tymor
gwyliau (1 Mawrth – 31 Hydref) a sicrhau fod y pebyll a llwyfannau pren yn cael eu
symud oddi ar y safle tu
allan i’r cyfnod hwnnw.
4.
Amod gwyliau yn unig.
5.
Amod rheoli cyfanswm nifer unedau ar
y safle yn ei gyfarwydd
6.
Cyfanswm o 6 pabell yn unig
i’w lleoli ar y lleiniau a ddangosir
Dogfennau ategol: