Agenda item

Codi estyniad deulawr cefn i annedd.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Codi estyniad deulawr cefn i annedd     

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais ar gyfer ymestyn tŷ deulawr presennol a chodi dwy elfen dau lawr sylweddol newydd ar gefn yr eiddo. Adroddwyd bod y tŷ presennol yn dŷ tair llofft ar wahân mewn rhes o dai o wahanol faint a dyluniadau mewn ardal anheddol ar y brif ffordd allan o Griccieth. Amlygwyd bod y cais wedi dod gerbron y Pwyllgor oherwydd y derbyniwyd mwy na thri o sylwadau yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

Nodwyd mai 3m yn unig fyddai rhwng yr estyniad  a ffin gardd drws nesaf. Yn ogystal nodwyd os cwblheir y datblygiad dim ond oddeutu  5m o ardd fyddai’n weddill ym mhen y safle ac fe fyddai hyn yn debygol o leihau’r lle gwag amwynder sydd o amgylch y tŷ mewn modd annerbyniol. Fe ystyriwyd bod y datblygiad yn or-ddatblygiad o’r safle ar sail ei swmp, maint, lleoliad, ffurf, graddfa a’r effaith annerbyniol y byddai’n cael ar  fwynderau eiddo cyfagos oherwydd cysgodi a gor-edrych.

 

(b)       Yn manteisio ar ei hawl i siarad nodwyd ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i gais ei deulu

·         Bod y teulu angen llofft, a stafell ychwanegol ar gyfer gweithio / gwaith cartref

·         Barn y swyddog yn unig yw bod yr estyniad yn rhy fawr

·         Nid oes sylw  yn yr adroddiad at yr ardd  / lawnt sydd i flaen y tŷ a lle digonol i barcio pedwar car.

·         Ni fydd yr estyniad yn taflu cysgod ar dai cyfochrog

·         Y Gymraeg yw iaith yr aelwyd ac felly pwysig iawn i’r teulu gael aros o fewn eu cynefin

·         Adeiladu estyniad yw eu hymgyrch at aros yn lleol

·         Y cais wedi derbyn cefnogaeth llawn gan y gymuned leol

 

(c)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a oedd yn gefnogol i’r cais:

·         Bod y tŷ presennol yn rhy fach i deulu o chwech

·         Bod y cais wedi derbyn cefnogaeth leol

·         Bod y Cyngor tref yn unfrydol yn eu cefnogaeth i’r cais

·         Bod digon o le i godi estyniad sydd allan o olwg pawb

·         Cefnogol i’r cais er mwyn sicrhau bod y teulu lleol yn cael parhau i fyw yn lleol

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais, yn groes i’r argymhelliad, gan fod y Pwyllgor yn ystyried fod dyluniad y bwriad yn dderbyniol ac nad oedd yn groes i’r polisïau perthnasol.

 

(ch)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Nad oedd tai fforddiadwy ar gael yn lleol i’r teulu

·         Bod cadw teulu yn lleol yn cryfhau cymuned Gymraeg yng Nghricieth

·         Enghraifft o gais i gadw cymunedau yn fyw

·         Nifer o blaid y cais sydd yn arwydd o fywiogrwydd cymunedol

·         Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion

 

(d)       Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod caniatáu y cais yn gosod cynsail beryglus gan na ellid dewis a dethol os yw cais yn cael ei ganiatáu ar sail pwy yw’r ymgeisydd. Rhaid ystyried maint a dyluniad y datblygiad a pharchu mwynderau preswyl y gymdogaeth leol. Ategwyd bod yr estyniad yn sylweddol o ran maint a bod modd cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd am gynllun amgen i gwrdd â’r angen a’r polisïau cynllunio perthnasol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant drwy gynnal ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: