Agenda item

Cais ôl-weithredol i gadw pontwn o fewn y cei.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Sian Gwenllian

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i gadw pontŵn o fewn y cei.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi  mai cais llawn, olweithredol ydoedd i gadw pontŵn o fewn y cei (gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor 19.10.15 oherwydd gweithrediad y drefn siarad). Ategwyd bod y pontŵn wedi ei leoli ar y wal ogleddol ac yn mesur 30m o hyd a 2m o led fydd wedi ei gysylltu â wal yr harbwr mewn 3 lleoliad gyda braced haearn a fydd yn gadael i’r pontŵn godi gyda’r llanw. Ychwanegwyd bod wal yr harbwr wedi ei restru fel adeilad rhestredig gradd II. Nodwyd bod y pontŵn newydd yn gweddu i’r ardal o agwedd dyluniad ac edrychiad ac ei fod mewn marina gweithredol. Nid oedd oblygiadau ar edrychiad na chymeriad y strwythur rhestredig na mwynderau’r ardal na thrigolion cyfagos, ac ystyriwyd bod yr adroddiad peirianyddol a gyflwynwyd yn datgan cryfder y wal i allu cynnal y pontŵn.  Ystyriwyd felly bod y bwriad yn dderbyniol ac yn unol â pholisïau B2, B3, B22, B23, B24 a B25 CDUG.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod yr harbwr yn un hanesyddol

·         Bod pontwnau wedi eu hadeiladu yn 2001 heb ganiatâd cynllunio

·         Bod y morglawdd wedi ei chwalu yn 2008 gyda difrod i erddi trigolion cyfagos. Y trigolion rannodd y costau atgyweirio.

·         Pontŵn wedi ei adeiladu Mawrth 2015 - eto heb ganiatâd

·         Pryder, gan mai cais ôl-weithredol ydyw, y bydd cwymp arall a bydd trigolion cyfagos yn erlyn y Cyngor am y difrod.

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant  i’r cais y pwyntiau canlynol:

·           Bod ardal y doc yn Felinheli  yn un llwyddiannus

·           Bod basn y doc wedi ei ddylunio ar gyfer gwaith diwydiannol trwm a llongau masnachol

·           Bod y pontŵn efallai wedi cael effaith ar gwymp y wal

·           Bod y doc o fudd i’r economi leol ac i’r gymuned

·           Bod y wal dan sylw mewn cyflwr da heb unrhyw arwydd o ddirwasgu

·           Bydd cynllun rheoli gorfodaeth yn ei le

·           Dim tystiolaeth i wrthod y cais

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu ar ran yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a oedd yn gwrthwynebu’r cais:

·         Ei fod wedi cyfarfod gyda thrigolion cyfagos a’u bod yn bryderus i ddigwyddiad tebyg i’r un a ddigwyddodd yn 2008 - hynny yw bod y pontŵn yn rhyddhau'r wal ac yn achosi difrod fydd yn gostus i’r trigolion.

·         Bod y pontŵn dan sylw yn agosach i’r tai ac felly'r pryder yn fwy

·         Bod crac difrifol yn y wal a bod y wal yn eithaf bregus.

·         Ei fod yn anghytuno gyda’r adroddiad peirianyddol a gyflwynwyd gyda’r cais oedd yn nodi nad oedd gosod pontŵn yn debygol o gael effaith andwyol o safbwynt strwythur peirianyddol.

·         Bod angen adroddiad peirianyddol mwy cynhwysfawr er mwyn lleddfu ofnau’r trigolion

·         Os caniatáu, dylid cynnwys amod clir am arolwg peirianyddol trylwyr.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod rhaid cydymdeimlo gyda thrigolion lleol o ran difrod i’r wal yn y gorffennol. Er hynny amlygwyd yr angen i ystyried y cais yn ei gyd-destun. Ar sail y dystiolaeth oedd i law, ni ystyriwyd bod y pontŵn yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd  y wal.

 

         Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(d)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·            Bod sylwadau'r aelod lleol yn amlygu pryderon

·            Os cwymp y wal, pwy fydd yn gyfrifol am ei hadnewyddu? Oes lle yma i dystiolaethu bod y Cyngor yn ddiffygiol yn eu cyfrifoldebau?

·            Nad oedd y dystiolaeth yn ddigonol - cynnig yr angen am adroddiad mwy cynhwysfawr, technegol a manwl i osgoi erlyniad

·            Nad oedd y dystiolaeth fecanyddol yn ddigonol

 

(dd)  Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio'r penderfyniad ar sail nad oedd y dystiolaeth beirianyddol sydd wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn ddigonol i gyfiawnhau caniatáu y cais.

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod y gwelliant yn briodol gan fod ceisio gwybodaeth yn briodol ac yn dderbyniol. Ategwyd, os byddai unrhyw ddifrod yn digwydd i’r wal, mai mater sifil fuasai hynny tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor Cynllunio.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y buasai’n briodol gofyn am ragor o wybodaeth peirianyddol a chael barn yr Uned Rheolaeth Adeiladu ar ei gynnwys er mwyn derbyn cadarnhad os yw’r adroddiad sydd wedi ei dderbyn yn briodol ac yn ddigonol.

         PENDERFYNWYD

 

Gohirio'r penderfyniad a gwybyddu’r ymgeisydd fod angen cyflwyno diweddariad i’r asesiad strwythurol/peirianyddol er mwyn cyfeirio at y crac yn y wal. Wedi derbyn hyn bydd angen ymgynghori gyda’r Uned  Rheolaeth Adeiladu er mwyn derbyn cadarnhad os yw’r adroddiad strwythurol/gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn ddigonol a derbyniol.

Dogfennau ategol: