Agenda item

Codi tyrbin gwynt 24.8 i'r hwb a 36.6m i frig y llafn ynghyd a gosod bwlch rheoli a gwaith cysylltiedig.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Owain Williams

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Codi tyrbin gwynt 24.8 i'r hwb a 36.6m i frig y llafn ynghyd â gosod blwch rheoli a gwaith cysylltiedig

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi  bwriad i godi tyrbin gwynt 85kw gyda chwt i gadw peirianwaith cysylltiol ger ei waelod ynghyd a chysylltiadau grid. Byddai mynediad newydd yn cael ei greu i arwain at y tyrbin o drac mynediad chwarel presennol. Ategwyd y byddai’r tyrbin wedi ei leoli ar lwyfandir bychan mewn cae a ddefnyddi’r fel porfa a fu gynt yn rhan o chwarel Graianog, rhwng y chwarel weithredol bresennol ac iard storio / prosesu. Ar wahân i’r chwarel, mae’r tirlun yn un amaethyddol tonnog sydd yn codi yn raddol i gyfeiriad Bwlch Mawr a Pharc Cenedlaethol Eryri tua 2km i’r dwyrain.

 

(b)       Amlygwyd bod y Parc Cenedlaethol yn nodi pryder ar effaith cronnus datblygiadau gydag elfennau fertigol yn yr ardal yma a fuasai yn achosi niwed arwyddocaol i olygfeydd i mewn ac allan o’r Parc Cenedlaethol (ac yn yr un modd gydag ANHE Llŷn ac ar Osodiad Henebion Cofrestredig yn yr ardal ac ar dirwedd hanesyddol Dyffryn Nantlle). Mewn ymateb nodwyd bod asesiad diweddar yn mynegi y gall y dirwedd  ymdopi gyda’r datblygiad hwn ac nad ydyw effaith y tyrbin yn un o niwed arwyddocaol. Amlygwyd bod effaith dynol yn amlwg ar y tirwedd a nodwyd na fyddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar y tirlun yn gyffredinol.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod ganddo deulu ifanc a bod angen mentro er mwyn edrych i’r dyfodol

·         Bod y tyrbin yn bwysig o ran elfennau cynaladwyedd

·         Bod trac mynediad eisoes yn bodoli

·         Bod modd cydweithio gyda Gwyriad gerllaw

·         Bod polisïau lleol a chenedlaethol yn hyrwyddo datblygiadau o’r fath

·         Bod gosodiad y tyrbin mewn llecyn cuddiedig er mwyn lleihau effaith gweledol a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi mai cyfyngedig fuasai’r effaith oherwydd y tirlun tonnog.

·         Bod mast Nebo gerllaw a pheilonau trydan – y tyrbin dipyn llai o ran maint

·         Nifer o lythyrau wedi ei derbyn yn gefnogol i’r cais

·         Byddai caniatáu’r cais yn sicrhau hyfywdra i’r fferm deuluol

 

(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a oedd yn gwrthwynebu’r cais:

·         Bod uchder y tyrbin yn sylweddol

·         Bod y tyrbin yn creu effaith weledol ar yr ANHE a’r Parc Cenedlaethol cyfagos

·         Bydd maint y tyrbin yn creu effaith ar safle cyfagos hanesyddol Bryn Derwin

 

         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol âr argymhelliad.

        

(d)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Bod nifer o strwythurau fertigol eraill yn bodoli yn yr ardal ac felly ni fuasai’r tyrbin yn sefyll ar ben ei hun

·         Bod y tyrbin yn sicrhau hyfywdra

·         Bod hyn yn fodd i’r teulu ifanc arallgyfeirio

·         Cryfhau diwylliant ac iaith cefn gwlad

 

(dd)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phrofion anemometer, nodwyd nad oedd rheidrwydd cael y wybodaeth yma gyda chais cynllunio am dyrbin. Cais oedd hwn am dyrbin 36.6m i frig y llafnau ac felly dyna’r hyn oedd yn cael ei ystyried. O ran buddion cymunedol a chyfraniadau ariannol, pwysleisiodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd cyfraniad ariannol yn rhan o’r drefn cynllunio

 

         Gwnaed cais am bleidlais gofrestredig a cefnogwyd hyn.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:

 

O blaid y cynnig i ganiatau y cais, (11) Y Cynghorwyr: Endaf Cooke, Elwyn Edwards, Gwen Griffith, Anne T. Lloyd Jones, Dyfrig Wynn Jones, June Marshall, Tudor Owen,  John Pughe Roberts, Eirwyn Williams, Hefin Williams ac Eurig Wyn.

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatau y cais, (2) Y Cynghorwyr: Seimon Glyn a Gruffydd Williams

 

         Atal, (1) Y Cynghorydd Michael Sol Owen

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau

 

1.               dechrau gwaith o fewn 2 flynedd

2.               caniatâd am gyfnod o 25 mlynedd

3.               yn unol â’r cynlluniau

4.               lliw llwyd i’r tyrbin a’r uned rheoli i weddu

5.               sŵn

6.               dadgomisiynu

7.               cytuno manylion ac edrychiad unrhyw offer/peirianwaith ar  

           y safle ceblau tanddaearol

Dogfennau ategol: