Agenda item

Gosod a gweithredu fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y tir ar 6.9 hectar o dir amaethyddol ynghyd â chyfarpar cyswllt, ffens dioglewch, camerau cylch cyfyng, thoilet compostio, strwythurau/cabannau trawsnewid, storio, isorsaf a rheoli a chreu trac newydd.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Aled Ll. Evans

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Gosod a gweithredu fferm solar ffotofoltaidd (pv) ar y tir ar 6.9 hectar o dir amaethyddol ynghyd a chyfarpar cyswllt, ffens diogelwch, camerâu cylch cyfyng, thoilet compostio, strwythurau/cabannau trawsnewid, storio, is-orsaf a rheoli a chreu trac newydd.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle yn mesur oddeutu 6.9 hectar ac yn cynnwys tir porfa sydd wedi ei leoli ar lwyfandir eithaf gwastad.  Ategwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored o fewn tirwedd tonnog rhwng ucheldiroedd canol Llŷn a Bae Ceredigion gyda chloddiau a gwrychoedd aeddfed o‘i amgylch. Nodwyd bod y safle yn weladwy o ambell i dŷ preifat ond bod bwriad i atgyfnerthu’r gwrychoedd ac i blannu mwy o goed i sicrhau na fydd effaith niweidiol arwyddocaol ar dirwedd yr ardal. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi codi rhai pryderon ynghylch effaith posib y datblygiad ar gynefinoedd a rhywogaethau a’u hamddiffynnir yn statudol, fodd bynnag credid y gellid goresgyn hyn drwy sicrhau mesurau lliniaru a rheolaethol ar gyfer y safle - ategwyd bod trafodaethau yn parhau rhwng yr Uned a’r datblygwyr.

 

O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn groes i bolisïau perthnasol ac yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd  y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol

·         Bod y safle wedi ei sgrinio yn dda gyda bwriad i blannu mwy o wrychoedd, gweirgloddiau llawn blodau gwyllt a gosod bocys nythod i adar ac ystlumod

·         Trafodaethau ynglŷn â chynlluniau bioamrywiaeth yn cael eu cynnal

·         Bod defnydd pori yn parhau ar y safle ac ar ddiwedd cyfnod y cais bydd y tir yn dychwelyd yn ôl i ddefnydd amaethyddol llawn.

·         Bod mynediad addas i’r safle

·         Llawer o wybodaeth wedi ei rannu gyda’r gymuned leol

·         Ynni glan yn adnodd gwerthfawr sydd i’w groesawu.

 

(c)      Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

         Pleidleisiwyd ac fe syrthiodd y cynnig

 

         Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu yn unol â’r argymhelliad

 

(ch)   Nodwyd y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad:

·      Bod patrymau cynnal cefn gwlad yn newid - nid parc yw Gwynedd, rhaid derbyn mai bywoliaeth ydy hyn i drigolion cefn gwlad sydd yn sicrhau eu dyfodol.

·      Pwysig cadw ‘tirwedd del’ ond hefyd rhaid sicrhau bod tirwedd ar gyfer cynnal bywoliaeth.

 

(d)    Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r argymhelliad:

·         Annog ymweliad safle gan fod tai preifat gerllaw

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan y cyhoedd i’r cais

 

PENDERFYNWYD

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gytuno ar fesurau lliniaru priodol er amddiffyn nodweddion bioamrywiaeth ac er cytuno ar y llwybr ffordd fwyaf priodol i gyrraedd y safle ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.            Amser cychwyn y datblygiad

2.            Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau

3.            Rhaid lleoli’r paneli yn y lleoliadau a ddangosir ar y cynlluniau neu fel y cytunwyd mewn ysgrifen gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.            Cytuno deunyddiau/lliwiau'r fframiau a’r gorchudd di-llacharedd.

5.            Cytuno ar ddeunyddiau/lliwiau'r ffens a’r polion camerâu

6.            Cytuno a chwblhau cynllun tirlunio a chynllun rheolaeth tirlunio

7.            Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Dŵr Wyneb a Chynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

8.            Cytuno a gweithredu Cynllun Rheolaeth Bioamrywiaeth.

9.            Cytuno a gweithredu Rhaglen Waith Archeolegol

10.          Dim gwaith adeiladu yn ystod y tymor nythu adar

11.          Cynllun Rheolaeth Priddoedd

12.          Dylid gosod unrhyw geblau trydan o’r datblygiad i’r cysylltiad trydanol o dan ddaear, a’i gytuno yn gyntaf gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

13.          O fewn 30 mlynedd a 6 mis i gwblhau'r datblygiad neu o fewn 12 mis i'r paneli solar a ganiateir drwy hyn beidio cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu trydan, rhaid eu tynnu’n barhaol oddi ar y tir ac adfer y safle yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol.

14.          Amodau safonol Dŵr Cymru

15.          Cytuno deunyddiau allanol yr holl adeiladau

16.          Amodau Priffyrdd

17.          Cytuno cynllun goleuo

Dogfennau ategol: