Agenda item

Gosod paneli solar pv ar gyfer creu parc solar ynghyd â gwaith atodol sy'n cynnwys ffens diogelwch a strwythurau.

 

Aelod Lleol:  Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r Dogfennau Perthnasol

Cofnod:

Gosod paneli solar pv ar gyfer creu parc solar ynghyd a gwaith atodol sy'n cynnwys ffens diogelwch a strwythurau

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer gosod rhesi o baneli solar er mwyn creu parc solar wedi ei leoli i’r Gorllewin o Cilgwyn. Amlygwyd bod y safle yn mesur 12 acer mewn arwynebedd ac yn cynnwys 3 cae sydd yn cael eu defnyddio yn rhannol at ddiben pori defaid. Disgrifiwyd y lleoliad fel safle o fewn Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Nantlle fel y’i cynhwysir o fewn Rhan 2, Cofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig gyda nifer helaeth o adeiladau rhestredig yn gyfagos ynghyd â nifer o henebion wedi eu lleoli o fewn 2km i safle y cais

 

Eglurwyd yng nghyd destun y polisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol sy’n ymwneud a datblygiadau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a chynaliadwy ei bod yn hanfodol cloriannu’r angen am ddatblygiadau o’r fath yn erbyn eu heffaith bosibl ar ansawdd y dirwedd ac ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol eraill.

 

Yng nghyd-destun y cais yma amlygwyd nad oedd y safle yn dir rhesymol i osod paneli solar arno oherwydd ei natur anwastad ac agored - nid oedd modd lliniaru'r datblygiad na chuddio'r safle a rhagwelwyd y buasai gosod 9000 o baneli solar yn dirywio gwerth gweledol yr ardal ac y byddai’n ddatblygiad estron ac amlwg iawn. Credwyd hefyd bod y bwriad, oherwydd ei faint a’i natur yn debygol o gael effaith andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos ac effaith ar fwynderau cyffredinol cerddwyr sy’n defnyddio llwybrau cyhoeddus poblogaidd cyfagos gyda golygfeydd agored a chlir o’r ardal.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y canllawiau yn mynegi tir gwastad ar gyfer datblygiad o’r fath

·         Bod cynllun yn amlygu ffens 3m i’w hadeiladau tu ôl i waliau traddodiadol

·         Bydd y paneli solar yn amlwg i'w gweld ymysg y grug ac yn elfen estronol i’r tirlun

·         Y safle wedi ei leoli o fewn tirwedd hanesyddol

·         Adnewyddu hen fythynnod i’w gymeradwyo, ond y paneli solar yn amlwg am anharddu'r ardal agored

·         Y paneli solar yn gorchuddio llwybrau cyhoeddus

·         Teledu cylch cyfyng ar y datblygiad yn atal preifatrwydd trigolion cyfagos

·         Damcaniaeth yn unig yw ynni glan

 

(c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Datgan siom bod swyddogion yn gwrthod y cais

·         Yn gynllun da ac yn gyfle teg i’r tirfeddiannwr arallgyfeirio

·         Gall defaid barhau i bori’r tir

·         Effaith gyfyngedig ar y rhostir

·         Bod y cynllun yn annog bioamrywiaeth a bod bwriad i wella’r llwybrau cyhoeddus

·         Sawl ymgais wedi ei wneud i liniaru’r sefyllfa gyda thrigolion cyfagos

·         Nifer o lythyrau cefnogi’r cais wedi eu derbyn

·         Y tirfeddianwyr yn gefnogol i’r gymuned leol

 

(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd ganddo wrthwynebiad i ynni gwyrdd, ond nid oedd y lleoliad dan sylw yn addas

·         Cefnogwyr a gwrthwynebwyr i’r cais - braf fuasai cytuno, ond polisïau Cyngor Gwynedd yn argymell gwrthod y cais

·         Pryder y byddai’r paneli solar yn amlwg a gweladwy

·         Rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yn mynd drwy’r safle

·         Llawer o dai traddodiadol yn yr ardal - y datblygiad yn ddolur llygad

·         Dyffryn Nantlle wedi gwneud cais am Safle Treftadaeth y Byd - y datblygiad yn groes i’r egwyddor yma.

 

Cynigwyd a eiliwyd i wrthod y cais yn unol ar argymhelliad

 

(d)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Cefnogol i ynni adnewyddol, ond y datblygiad yma yn weladwy ac yn creu effaith andwyol ar y tirlun

·         Angen cysondeb wrth drafod ceisiadau. Angen cysondeb ar draws Cymru gyfan. Rhaid sicrhau bod aelodau yn derbyn gwybodaeth o bolisïau pwrpasol ac nid rhai sydd bellach wedi dyddio.

·         Awgrym i gysylltu gyda’r Aelodau Seneddol i brysuro proses o bolisïau pendant i sicrhau arweiniad clir ar y mater

·         Cyfoeth Naturiol Cymru yn gefnogol i’r cais – a fuasai modd ystyried safle datblygiad sydd yn llai o ran maint?

·         Angen sicrhau bod llefydd hardd yn cael eu gwarchod ynghyd a’r economi leol.

 

(dd)  Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn rhoi argymhelliad clir a chyfredol. Eglurwyd bod asesiad tirlun diweddar wedi ei gwblhau a oedd yn asesu tirlun sydd â chapasiti i dderbyn datblygiadau o’r fath. O ran polisïau, Cynllun Unedol Gwynedd yw’r cynllun mabwysiedig ar hyn o bryd.  O ran effeithiau, bydd rhain yn sicr o amrywio o gais i gais yn ddibynnol ar y safleoedd. Ategwyd ymhellach y byddai hyfforddiant am ddatblygiadau paneli solar yn cael ei drefnu ar gyfer yr aelodau yn fuan yn 2016.

 

         Mewn ymateb i ystyried cais llai o faint, nodwyd bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o bryderon swyddogion ond nid oedd unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i’r argymhellion / sylwadau hyn. Cadarnhawyd y buasai cais am safle llai o faint yn destun cais o’r newydd.

 

PENDERFYNWYD

 

          Gwrthodrhesymau :-

 

1.            Mae’r bwriad yn annerbyniol o ystyried ei leoliad, graddfa a’i amlygrwydd yn y tirlun lleol, ei effaith andwyol ar fwynderau gweledol trigolion cyfagos ynghyd a’r cyhoedd hynny sy’n cerdded y mannau tramwy cyhoeddus cyfagos at ddibenion hamdden a mwynderol. O’r herwydd, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion Polisi Strategol 1, 2, 4 a 9, Polisi A1, A3, B14, B22, B23, B25 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Nodyn Cyngor Technegol 8 a 12, Canllawiau Cynllunio Atodol: Cymeriad y Dirwedd (2009) a’r Arweiniad Ymarferol: Cynllunio ar Gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel (2011).

 

2.            Mae’r bwriad yn annerbyniol o ystyried ei leoliad, graddfa a’i amlygrwydd yn y tirlun hanesyddol pwysig ynghyd a’i effaith andwyol ar osodiad adeilad rhestredig gradd II Parc gerllaw. O’r herwydd, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion Polisi Strategol 3, Polisi B3, B7 a B12 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Cylchlythyrau 60/96 a 61/96 y Swyddfa Gymreig, Polisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 12 Dylunio (2014) a’r Arweiniad Ymarferol: Cynllunio ar Gyfer Ynni Adnewyddiadwy a Charbon Isel (2011). 

 

3.            Mae’r bwriad yn annerbyniol ar sail ei leoliad, gwneuthuriad, ffurf a’i raddfa gan y byddai’n golygu colli ac achosi difrod parhaol i rhostir sy’n gynefin o bwysigrwydd Ewropeaidd a chenedlaethol. O’r herwydd, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion Polisi Strategol 1, 2 a 9, Polisi A3, B15, B16, B17, B20 a B21 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd, Canllawiau Cynllunio Atodol: Safleoedd Bywyd Gwyllt (2010), Polisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 5 Cynllunio a Chadwraeth Natur ac  Arweiniad Ymarferol: Cynllunio ar Gyfer Ynni Adnewyddiadwy a Charbon Isel (2011).

Dogfennau ategol: