Addasu ac ymestyn yr adeilad presennol (i gynnwys adeiladu llawr ychwanegol) er mwyn creu 9 uned gwyliau a dwy uned adwerthu.
Aelod Lleol: Cynghorydd Gethin Glyn Williams
Cofnod:
Addasu ac ymestyn yr adeilad
presennol (i gynnwys adeiladu llawr ychwanegol) er mwyn creu
9 uned gwyliau a dwy uned adwerthu.
(a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi'r byddai’r bwriad yn
cynnwys darparu llawr ychwanegol ar yr adeilad gyda’r unedau gwyliau i’w lleoli
ar lawr cyntaf ac ail yr adeilad ar
unedau manwerthu ar y llawr cyntaf yn wynebu Stryd King Edward. Bydd gweithdy
presennol yn cael ei ddymchwel er mwyn darparu ardaloedd storio biniau a beics
ac 8 llecyn parcio. Amlygwyd bod y dyluniad yn parchu strwythur yr adeilad
gwreiddiol ac yn welliant sylweddol o ran dyluniad yr adeilad presennol sydd
erbyn hyn yn ddolur llygad. Amlygwyd fod y cais yn gofyn am lety gwyliau ac
felly bod amod wedi ei gynnwys yn sicrhau mai defnydd gwyliau yn unig fydd i’r
unedau. Yn ogystal, petai'r angen yn codi i ddiwygio’r defnydd i unedau
fforddiadwy buasai hyn yn dderbyniol gan yr ystyrir fod lleoliad canol tref yr
adeilad yn ogystal a maint yr unedau yn golygu fod yr unedau yn debygol o fod
yn fforddiadwy beth bynnag.
Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar safle sydd yn
amlwg ac ar un o brif strydoedd Abermaw a'i fod yn cydymffurfio gyda holl
bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol yn ogystal â pholisïau a
chanllawiau cynllunio Cenedlaethol.
(b)
Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
(c) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Sut
fydd defnydd yr unedau gwyliau yn cael eu monitro? A oes modd cynnwys amod llai
cyffredinol?
·
Ydi
8 llecyn parcio yn ddigonol ar gyfer defnydd gwyliau a staff y siopau?
(ch) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-
·
Yr
ymgeisydd sydd wedi gwneud cais am ddefnydd gwyliau ac felly amod wedi ei
gynnwys i gyfarch hyn.
·
Bod
cadw cofrestr defnydd gwyliau yn amod cynllunio safonol cenedlaethol ac o
ganlyniad bod gan y Cyngor hawl i weld cofrestr ar unrhyw adeg. Os bydd
amheuaeth o gam ddefnydd o’r unedau bydd hawl gan y swyddogion gorfodaeth i
ymchwilio ymhellach. Nid oes adnoddau digonol i wirio pob cofrestr / defnydd
gwyliau, ac felly bydd yr Uned Gorfodaeth yn gwneud hyn drwy sampl neu os y
derbynnir cwyn. Yn ychwanegol, nodwyd y byddai’r unedau yn dderbyniol ar gyfer
anheddau byw parhaol ac felly anodd deall y pryderon.
Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â llecynnau
parcio, nododd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod hyd at un lle ar gyfer
pob uned gwyliau a bod digon o fannau parcio derbyniol
eraill ar gael i’r staff, yn ogystal mae
mannau parcio cyhoeddus ar gael
mewn pellter hwylus o’r safle.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Caniatáu – amodau
1.
5 mlynedd;
2.
unol a chynlluniau;
3.
amod defnydd gwyliau yn
unig/cadw cofrestr;
4.
llechi ar y to;
5.
gorffeniadau allanol i
gytuno;
6.
rhaid i’r canllaw a
sgrin afloyw ar y teras/gardd do ar edrychiad gogledd
ddwyreiniol y datblygiad fod mewn lle
cyn yr anheddir y datblygiad;
7.
rhaid cwblhau'r
lle parcio ceir
yn gwbl unol
fel y dangoswyd ar y cynllun a
gyflwynwyd a cyn yr anheddir y datblygiad;
8.
wal allanol ar
edrychiad de-ddwyreiniol y datblygiad i gael ei gorffen mewn lliw golau, a’i
chynnal yn y cyflwr hynny yn barhaol wedi hynny;
Nodyn
Petai ystlumod yn cael ei darganfod yn ystod gwaith adeiladu dylid atal
gwaith pellach ar yr adeilad a chysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar
unwaith.
Dogfennau ategol: