Adeiladu 5 tŷ deulawr ynghyd a ffordd ystâd ac addasiadau i fynedfa bresennol.
Aelod Lleol: Cynghorydd Linda A. W. Jones
Cofnod:
Adeiladu 5 tŷ deulawr ynghyd a ffordd ystâd ac addasiadau i’r fynedfa bresennol.
(a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ
fforddiadwy ar gyfer angen lleol)
ynghyd a ffordd ‘stad a newidiadau i fynedfa bresennol.
Nodwyd y byddai tri o’r tai yn rhai
ar wahân a’r ddau arall
ar ffurf tai par. Amlygwyd bod y safle wedi ei ddynodi
ar gyfer tai ac mae Briff Datblygu
wedi ei ddatblygu
ar ei gyfer
sydd yn nodi
bod y safle wedi ei ddynodi ar
gyfer 18. Er hynny, mae rheswm
cynllunio yn bodoli dros beidio
cynnig 18 tŷ a hynny oherwydd natur a statws y tir fel safle
bywyd gwyllt. Nid yw’r safle yn unffurf nac yn wastad ac mae
cyfyngiadau o safbwynt lefelau tir, presenoldeb nant yn rhedeg drwy’r safle yn golygu nad yw yn rhesymol bosib datblygu’r
holl dir.
Nodwyd bod y safle yn dir
agored gydag un tŷ eisoes wedi ei adeiladu
arno. Mae’r safle wedi ei
adnabod fel glaswelltir asidaidd gyda thir sydd
yn rhan ffen,
cors a chors siglennaidd sydd tu allan ac yn
gyfochrog i’r cais. Nodwyd bod yr hyn
sydd wedi ei gynnig yn
dderbyniol gan yr Uned Bioamrywiaeth.
O ran materion trafnidiaeth a mynediad amlygwyd bod
nifer o bryderon ynglŷn â defnydd ychwanegol tebygol o gyffordd y safle
gyda’r A470. Er hynny, nid oedd gan yr
Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad a bod argymhelliad wedi ei wneud i
wella’r mynediad yn gyffredinol. O ran materion llifogydd, amlygwyd bod y cais
yn cynnwys mesurau o reoli llif dŵr wyneb o’r safle ac o ran materion
ieithyddol bod y cais yn cwrdd â’r gofynion priodol.
Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda’r holl bolisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol a nodwyd yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd
·
Bod y cais wedi ei liniaru ac wedi ei addasu i
ymateb i bryderon
·
Bod adeiladu tai gyda phedair llofft yn
adlewyrchu’r gofynion lleol
·
Ei fod yn ymateb i ofynion tai fforddiadwy
·
Bod
llefydd parcio digonol wedi eu cynnwys
·
Ei
fod wedi ei eni a'i fagu yn yr ardal ac felly addasrwydd y safle yn bwysig iddo
(c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
(ch) Mewn ymateb i ymholiad gan aelod a oedd yn
pryderu ynglŷn â’r posibilrwydd i gais pellach
gael ei gyflwyno am 13 o dai, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu byddai yn
rhaid cyflwyno cais cynllunio o’r newydd a fyddai’n debygol o gael ei wrthod
oherwydd bod gwarchodaeth i’r gwlybtir sydd yn gyfochrog i safle’r datblygiad.
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb 106 yn ymwneud gyda
sicrhau fod 2 o’r 5 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol
ac amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:
1. Amser cychwyn y datblygiad
2. Deunyddiau i’w cytuno
3. Llechi to
4. Dŵr / Carthffosiaeth / Draeniad
5. Amodau priffyrdd
6. Amod tirlunio
7. Tynnu hawliau datblygu
cyffredinol oddi ar y tai
fforddiadwy
8. Amodau bioamrywiaeth/gabions/trefniadau gweithio
Dogfennau ategol: