Agenda item

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Gosododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y cyd-destun, gan egluro:-

 

·         Bod yr adroddiad oedd gerbron y tro hwn ychydig yn wahanol i’r arferol oherwydd bod gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif clir ar y Cyngor erbyn hyn.

·         O weithredu’r rheolau sy’n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yn llawn, byddai gan Grŵp Plaid Cymru yr hawl i gael mwyafrif ar bob pwyllgor unigol, ond cytunwyd mewn cyfarfod o’r Grŵp Busnes y dylid ceisio rhoi sylw i arbenigedd a phrofiad, yn hytrach na gweithredu’r rheolau yn haearnaidd ym mhob achos.

·         O ganlyniad, ‘roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys tri phwyllgor lle nad oedd gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif, sef y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Cyd-Bwyllgor Addysg Anghenion Arbennig.

·         Er mwyn cymeradwyo’r argymhellion, a hynny oherwydd nad oedd y rheolau’n cael eu gweithredu’n llawn, byddai’n rhaid i’r Cyngor eu cymeradwyo’n ddiwrthwynebiad.  Fel arall, byddai’n rhaid cyflwyno ffigurau diwygiedig i’r Cyngor a olygai y byddai’r grwpiau Annibynnol, Llais Gwynedd a Llafur yn colli ymhellach ar rai pwyllgorau.

 

Nododd ymhellach:-

·         Y derbyniwyd rhybudd yn ystod y cyfarfod fod y Cynghorydd Louise Hughes yn ymuno â’r Grŵp Annibynnol ac erfyniwyd ar y grwpiau i gyflwyno’r math yma o rybuddion yn llawer cynt yn y dyfodol.

·         Mai canlyniad y newid ar y cydbwysedd gwleidyddol ac argymhellion yr adroddiad oedd bod y Grŵp Annibynnol yn ennill dwy sedd, y naill ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r llall ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog, a hynny ar draul yr aelodau unigol, ond gan mai’r Cynghorydd Louise Hughes oedd yr aelod unigol ar y ddau bwyllgor dan sylw, nid olygai unrhyw newid pellach yn aelodaeth y pwyllgorau hynny.

 

Rhoddodd yr Arweinydd esboniad pellach, gan nodi:-

 

·         Bod gan bob aelod, ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol gyfraniad i’w wneud a gyda phrin 16 mis tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf, y cytunwyd y dylid parhau gyda’r diwylliant o gydweithio ac o weld cyfraniadau yn dod ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

·         Y golygai hynny fod pwysau ar yr holl aelodau i bresenoli eu hunain mewn cyfarfodydd.

·         Bod angen edrych eto ar ddyraniad y seddau ar y Pwyllgor Pensiynau gan fod yr aelod o’r Grŵp Llafur fyddai’n colli ei sedd ar y pwyllgor wedi derbyn hyfforddiant yn y maes.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid y cynnig: (58) Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Annwen Daniels, Anwen Davies, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones Evans, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W.Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, W.Roy Owen, William Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens, Glyn Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Elfed Williams, Gruffydd Williams, Hefin Williams, Owain Williams, R.H.Wyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig Wyn.

 

Atal: (0)

 

Yn erbyn: (0)

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl isod:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

  Plaid

  Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

5

2

1

1

 

Cymunedau

 

10

5

1

1

1

 

Gwasanaethau

 

10

4

2

1

 

1

Archwilio

 

10

5

2

1

 

 

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Gwasanaethau Democratiaeth

 

8

4

2

1

 

 

 

Iaith

 

8

4

2

1

 

 

 

Cynllunio

 

8

4

1

1

1

 

 

Trwyddedu Canolog

8

5

2

 

 

 

 

Apelau Cyflogaeth

 

3

1

1

1

 

1

 

Penodi Prif Swyddogion

8

4

1

1

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y seddau

82

39

16

9

4

4

154

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Pensiynau

 

4

2

0

0

1

 

 

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

2

1

2

 

 

 

Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig

3

2

1

 

 

1

 

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

4

(3 sedd ac un eilydd)

2

1

1

 

 

 

CYSAG

 

4

2

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Seddau

103

49

20

12

5

5

194

 

(newidiadau wedi’u hamlygu mewn llwyd)

 

Dogfennau ategol: