Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r
flwyddyn i bwrpas gwyliau
AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD DEWI W ROBERTS
Cofnod:
Ymestyn
cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i ymestyn
y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau
gwyliau sefydlog fel bod tymor gwyliau
o 12 mis. Amlygwyd bod caniatadau presennol y parc yn cyfyngu amser
meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth
mewn un flwyddyn
a 17 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol. Byddai’r bwriad yn cynyddu’r
cyfnod meddiannu am ryw 6 wythnos
yn y flwyddyn. Pwysleisiwyd nad
oedd bwriad ychwanegu at y nifer carafanau sefydlog sydd ar y safle,
dim ond ehangu’r cyfnod meddiannu. Ategwyd bod sawl maes carafanau
eisoes wedi cael caniatâd i
ymestyn y cyfnod meddiannu ac felly bod y cynsail eisoes wedi ei
osod.
Nodwyd
bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion
i ymestyn y tymor gwyliau ar
gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos
bod y llety yn cael ei ddefnyddio
at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif
neu unig gartref y deilydd. Adroddwyd
bod gan Grŵp Haulfryn fesurau eu hunain yn
eu lle i
sicrhau fod y carafanau sefydlog yn cael eu
defnyddio i bwrpas gwyliau yn unig ac nad yw’r perchennog i ddefnyddio’r
garafán fel preswylfa barhaol. Er y mesurau
hyn, ystyriwyd os caniateir y cais y byddai’n briodol cynnwys amod bod y carafanau sefydlog at ddefnydd gwyliau yn unig
a bod cofrestr yn cael ei gadw
o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros a chyfeiriad
eu prif gartref.
Cyfeiriwyd
at y ffaith bod Grŵp Haulfryn yn berchen
ar bum Parc Gwyliau yng Ngwynedd
gan gynnwys Y Warren. Nodwyd bod y parc yn cael ei
ystyried yn ased twristiaeth werthfawr i’r ardal
ac yn darparu nifer o swyddi yn lleol. Eglurwyd
bod galw am lety gwyliau yn ystod
hanner tymor ysgol mis Chwefror
ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sant Ffolant. Ategwyd bod Grŵp Haulfryn yn cynnig gwasanaeth
gosod ar ran perchnogion y carafanau i gynorthwyo gydag
arosiadau byr yn ystod y flwyddyn. Ystyriwyd y byddai ymestyn y tymor gwyliau yn
annog ymwelwyr i wario yn
yr economi leol gan gynorthwyo
i gynnal y gymuned leol, diogelu
a chreu cyflogaeth leol fyddai’n arwain
at fuddsoddiad pellach.
Yn bresennol
mae 60 o staff rhan amser a 40 llawn amser yn
y Warren ac ystyriwyd y byddai
hyn yn newid
i 80 rhan amser a 55 llawn amser drwy fod
yn agored trwy’r flwyddyn.
Ystyriwyd
bod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau y defnyddir
y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau
yn unig ac i gadw cofrestr
yn dderbyniol ar sail polisi. Adroddwyd y byddai modd hefyd
gynnwys amodau a argymhellwyd gan
Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion
llifogydd.
b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant ar ran yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod galw am lety gwyliau yn ystod hanner tymor
ysgol mis Chwefror ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sain Ffolant.
·
Bod cynnydd yn y galw am wyliau / seibiant byr
·
Byddai’r bwriad yn cefnogi’r economi leol
·
Bod y cwmni wedi buddsoddi £8 miliwn yn ddiweddar
yn uwchraddio a gwella’r safle
·
Bod agor 12 mis y flwyddyn yn cynyddu cyfleoedd
gwaith llawn amser – y Warren yn cyflogi nifer yn lleol
·
Y byddai’r safle yn defnyddio
mesurau i sicrhau bod y carafanau sefydlog yn cael
eu defnyddio i bwrpas gwyliau
yn unig - bydd y gofrestr a manylion preswylwyr yn cael ei
gadw ar fas
data ac yn cael ei ddiweddaru yn
flynyddol
·
Bod parciau eraill yng Ngwynedd eisoes gyda
chyfnod meddiannu gwyliau 12 mis
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
· Tynnwyd sylw at
sylwadau’r Uned AHNE
· Pryder sut bydd
y sefyllfa yn cael ei reoli
· Derbyn bod
patrwm / tymor gwyliau yn newid – gwyliau bellach yn cael ei gymryd unrhyw
amser o’r flwyddyn
· Buddion i’r
economi leol – creu mwy o waith a busnes i siopau lleol
· Bod y safle
eisoes yn bodoli ac felly nid oes effaith niweidiol
· Nad oedd
sail i wrthod gan fod cynsail
eisoes wedi ei osod
· Dyletswydd i
gyfeirio unrhyw amheuon neu bryderon o dorri amodau at yr Uned Gorfodaeth
PENDERFYNWYD
1. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.
2. Cyflwyno a chytuno diweddariad i’r Cynllun Ymateb Llifogydd.
3. Sicrhau fod y carafanau
ar y tir is ar flaen y safle
wedi eu rhwymo’n
ddiogel yn eu lle.
Dogfennau ategol: