Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

 

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd ei fod yn annog aelodau, os ydynt yn dymuno derbyn gwybodaeth yn unig, i gysylltu yn uniongyrchol gydag adrannau.

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

(Eglurodd yr aelod fod pwyllgor o Unllais Cymru wedi gofyn iddo gyflwyno’r cwestiwn oherwydd eu bod wedi methu cael gwybodaeth gan y Cyngor.)

 

“Ydi’r Awdurdod Priffyrdd wedi sylweddoli beth yw effaith eu polisi newydd o ofyn i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd a / neu dalu am lenwi’r biniau halen yn eu wardiau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Gan fod y cynghorydd wedi egluro pam mae’n gofyn y cwestiwn, mi fuaswn yn awgrymu iddo y gallai fod wedi cysylltu â’r adran a byddai wedi cael yr un esboniad ag sydd yn yr ateb ysgrifenedig.

 

Mae hyn yn rhan o’r arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd yn Rhagfyr 2014 ac mae hynny’n rhywbeth i ni ei ystyried.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

“Wnewch chi ail ystyried hyn a chael trafodaeth iawn hefo’r cynghorau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“’Rydym ni fel Adran wedi gyrru llythyr at bob cyngor cymuned, tref a phlwy, ac wedi gofyn iddynt ystyried hyn a dod yn ôl atom.  Mae hynny’n rhywbeth y gallent wneud o hyd ac mae hynny yn agored o hyd ac ‘rwy’n falch o ddweud bod llawer o gynghorau cymuned wedi manteisio ar hyn ac wedi dod yn ôl atom ac mae ‘na drafodaeth wedi digwydd.  Felly byddwn yn annog pob aelod sydd yma sy’n aelod o gyngor cymuned i wneud yr un peth, fel eu bod yn mynd yn ôl at yr Adran Briffyrdd ac yn mynegi eu barn.  Mae rhai wedi gwneud hynny’n barod ac wedi ei drafod yn ddwys.  Mae hynny’n golygu ein bod yn mynd i arbed £100,000 y flwyddyn sy’n swm nid ansylweddol ac mi fuaswn yn awgrymu mai dyna’r ffordd i gario ‘mlaen.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Be yw'r sefyllfa bresennol o gadw Pont Aber, Caernarfon yn agored?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Fedrwch chi gadarnhau i mi, os ydi’r bont yma’n mynd drosodd i Ymddiriedolaeth yr Harbwr, bod yr amodau yn aros yr un fath, bod y staff yn saff yn eu gwaith ac na fydd yr Ymddiriedolaeth yn codi toll ar y bont?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Yn anffodus, mae’r trafodaethau yn mynd ymlaen, ac ar hyn o bryd ni allaf roi unrhyw warant i’r aelod o gwbl.  Yr unig beth fedraf ddweud yw bod hwn yn un o hyd at hanner cant o bethau sydd dan ystyriaeth hefo Her Gwynedd.  ‘Rwy’n falch ofnadwy ei fod yn dangos digon o ddiddordeb yn Her Gwynedd ac yn y mater yma ac ‘rwy’n gobeithio y bydd yn dangos yr un diddordeb yn y bron i hanner cant arall o bethau da ni’n ceisio dod i benderfyniad call arnynt.  Ond bydd raid iddo sylweddoli na allaf drafod mewn Cyngor agored fel hwn beth yw’r trafodaethau sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd.”

 

(3)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

(Eglurodd yr aelod ei fod wedi dod â’r cwestiwn gerbron yn hytrach na mynd drwy’r adran berthnasol oherwydd bod cymaint o addewidion wedi’u gwneud gan yr adran berthnasol i unigolion yn Rhostryfan a ddim wedi eu gwireddu.)

 

“Pa waith mae’r Cyngor Sir wedi’i wneud yn Rhostryfan i atal llifogydd rhag digwydd?”

 

(Gofynnodd hefyd i’r Aelod Cabinet roi’r ateb ar lafar gan nad oedd yr aelodau o’r cyhoedd oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi gweld yr ateb ysgrifenedig.)

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae hwn yn fater lleol iawn, os caf awgrymu.  Mae’r ateb sydd wedi’i ysgrifennu yn ymwneud â dau safle ac ‘rwy’n ddigon bodlon rhannu’r ateb yna gydag unrhyw aelod o’r cyhoedd, os ydynt yn dymuno.  Ni chredaf ei bod yn fuddiol i 75 ohonom fod yn trafod materion mor lleol ac ‘rwy’n awgrymu mai gwaith sydd ar ei hanner ydi hwn a’n bod yn symud ymlaen.  ‘Roeddwn yn trafod y sefyllfa ddoe gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd, sy’n gweithredu.  ‘Rwyf hefyd wedi cael cyfarfod y pnawn yma gyda’r cyfeillion yn y cefn yn yr oriel ac wedi trafod y sefyllfa yn ddirfawr gyda hwy.  ‘Rydw i yn pryderu ynglŷn â beth sy’n digwydd yna, ond ‘rydym yn gweithio’n galed i drio cael datrysiad i’r sefyllfa ac ‘rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd mor fuan â phosib’ o dan yr amgylchiadau presennol.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“A gaf addewid cadarn gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod y ddau leoliad yma am gael eu datrys cyn gynted â phosib’ a chael dyddiad penodol a hefyd ydi o’n fodlon dod gyda mi i weld y safleoedd yma i weld y problemau drosto’i hun?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“’Rwy’n ddigon bodlon unrhyw adeg i fynd allan gyda chyfeillion i weld be’ sy’n bosib’, ond lleugwr ydw i.  Mae’n well o lawer i chi drafod hefo’r Adran a gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i weld be’ yn union ydi’r gwaith sy’n cael ei awgrymu ac sy’n cael ei raglennu i’r broblem yma, ac ‘rwy’n ymwybodol, ers ddoe, dwi’n cytuno, ond ‘roedd fy rhagflaenydd yn hollol ymwybodol o hyn ac wedi bod yn ymweld â’r safleoedd cyn hynny ac felly, ‘rydw i’n gwarantu y bydd yna gymaint o ymdrech â phosib’ i ddatrys y broblem yma yn y dyfodol agos.”

 

Nododd y Cadeirydd y byddai’r Aelod Cabinet yn awyddus iawn i gael unrhyw dystiolaeth sydd gan yr aelod o unrhyw addewidion gwag sydd wedi’u gwneud.