Agenda item

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn â’r eitemau canlynol:-

 

Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 (eitem 9 ar y rhaglen)

Treth Cyngor: Disgresiwn i ganiatáu disgowntiau – 2016/17 (eitem 10 ar y rhaglen)

Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 (eitem 11 ar y rhaglen)

 

Rhoddwyd arweiniad ar lafar i’r aelodau ynglŷn â’r eitem ganlynol:-

 

Dyfodol S4C (eitem 14 ar y rhaglen).

 

(1)     Datganodd y Cynghorydd Linda Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor.

 

          ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau – 2016/17, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies - oherwydd bod ei gŵr yn berchen ar eiddo gwag drwy etifeddiaeth.

·         Y Cynghorydd Wyn Williams - oherwydd ei fod yn gydberchennog eiddo sydd yn wag yn Nhalafon, Abersoch.

·         Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sy’n wag.

·         Y Cynghorydd Beth Lawton – oherwydd ei bod yn bwriadu cyflwyno cais am ddisgownt Treth Cyngor y flwyddyn nesaf gan mai hi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo erbyn hyn.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

·         Y Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd sy’n cynrychioli mudiadau sy’n ceisio disgownt treth y Cyngor am eu bod yn elusennau.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

(3)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 11 ar y rhaglen – Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd ei fod ar gorff rheoli Canolfan Porthmadog.

·         Y Cynghorydd Ioan Thomas – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr mewn adeilad sydd â thrwydded gwerthu alcohol.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Clwb Rygbi Dolgellau.

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Clwb Trwyddedig y Tŵr, Trefor.

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd Bentref Garndolbenmaen.

·         Y Cynghorydd Sion Jones – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Neuadd Bethel.

·         Y Cynghorydd Aeron Jones – oherwydd ei fod yn Aelod o Bwyllgor Neuadd Felinwnda.

·         Y Cynghorydd Eric Merfyn Jones – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Neuadd Groeslon.

·         Y Cynghorydd Jason Humphreys – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Porthmadog.

·         Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn rhedeg gwesty sy’n cael ei drwyddedu.

·         Y Cynghorydd John Brynmor Hughes – oherwydd bod ganddo dafarn yn Llanengan a’i fod hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(4)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 14 ar y rhaglen – Dyfodol S4C, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd bod ei frawd yn gweithio i Tinopolis.

·         Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams – oherwydd ei fod yn gwneud rhywfaint o waith i’r BBC ac S4C.

·         Y Cynghorydd Michael Sol Owen – oherwydd bod ei fab yn gweithio i’r BBC.

·         Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd – oherwydd bod ei fab a’i ferch yn gweithio ar raglenni S4C.

·         Y Cynghorydd Dafydd Meurig – oherwydd ei fod yn gweithio’n achlysurol i’r BBC ac yn anuniongyrchol i S4C.

·         Y Cynghorydd Simon Glyn – oherwydd bod cefnder i’w blant yn ddyn camera ar raglen ‘Heno’.

·         Y Cynghorydd Gweno Glyn – oherwydd bod perthynas agos yn gweithio yn y diwydiant a’i bod hithau yn gweithio yn y diwydiant yn achlysurol.

·         Y Cynghorydd Dilwyn Morgan – oherwydd ei fod yn derbyn gwaith achlysurol gan S4C.

·         Y Cynghorydd Siân Gwenllian – oherwydd bod ganddi gysylltiadau teuluol yn y diwydiant darlledu yn lleol.

·         Y Cynghorydd Eurig Wyn – oherwydd bod ei fab yn cyflenwi ffilmiau i S4C.

·         Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd bod ei mab yn gweithio i S4C yn achlysurol.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd bod dau o’i blant yn gweithio i’r BBC.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.