Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio
AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD SION JONES
Cofnod:
Lleoli 18 unedau
gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r
unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu
llwybrau troed a thirlunio
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais gan nodi bod yr hawl cynllunio presennol yn caniatáu lleoli
63 carafán deithiol, 6 o fodiau gwersylla a 2 lain ar gyfer unedau a fyddai yn
cyrraedd yn hwyr yn y safle. Eglurwyd bod y cais gerbron yn gais llawn ar gyfer
ymestyn y safle carafanau teithiol presennol i leoli 18 uned deithiol
(carafanau, carafanau modur, pebyll a phebyll trelar) ychwanegol. Esboniwyd
bydd yr unedau teithiol yn cael eu symud i safle storio o fewn y maes carafanau
presennol tu allan i’r tymor gwyliau.
Pwysleisiwyd
bod y safle wedi ei leoli mewn cae sy’n weddol guddiedig oherwydd presenoldeb
coed a gwrychoedd ar hyd ei derfynau. Mae gorweddiad y dirwedd ynghyd a
thirlunio presennol ar y terfynau hefyd yn creu safle sy’n guddiedig o fannau
cyhoeddus. Mae’r cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bwriad i gryfhau’r
gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol a byddai hynny yn lleihau unrhyw
effaith ar y tirlun, a nodwyd na fyddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad
a naws cefn gwlad y tirlun lleol. Nodwyd hefyd nad yw’r safle na’r ardal
gyfagos wedi eu cydnabod na’u dynodi fel tirlun o unrhyw ddiddordeb arbennig,
ac felly nad oes cymaint o bwyslais ar warchod y tirlun. Pwysleisiwyd bod y
safle caeedig yn golygu nad yw’r safle’n weladwy o dŷ’r cymydog agosaf ac
na fyddai’r cais gerbron yn cael effaith niweidiol sylweddol ychwanegol ar
fwynderau’r tai yn y cyffiniau.
Eglurwyd bod y
safle wedi ei wasanaethu gan fynedfa bresennol i ffordd sirol dosbarth 2 ac nid
oes bwriad i altro’r fynedfa. Nodwyd nad oes gan yr uned drafnidiaeth bryderon
ynglŷn ag effaith y bwriad ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig a gan
ystyried graddfa’r datblygiad nid oes disgwyl y bydd cynnydd sylweddol mewn
lefel trafnidiaeth. Pwysleisiwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran materion
diogelwch ffyrdd.
Eglurwyd bod y
bwriad yn cydymffurfio gyda holl ofynion y polisïau perthnasol ac yn dderbyniol
ar sail ei leoliad, gosodiad, graddfa a’i effaith ar fwynderau gweledol yr
ardal leol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y
cais yn unol â’r argymhelliad.
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
bod diffiniad carafanau “teithiol” yn aneglur oherwydd
eu bod i bob pwrpas yn garafanau statig heb law am y ffaith eu bod yn cael eu
symud yn y gaeaf i’w storio.
·
Nodwyd, gan gyfeirio at yr hanes cynllunio
perthnasol o fewn y cais, bod y safle hwn yn y gorffennol wedi ymestyn o 35 i
50 o garafanau teithiol ac mae’n parhau i ymestyn. Mynegwyd pryder am y llanast
sydd yn gallu cael ei greu yng nghefn gwlad heb rwystr ar faint nac edrychiad
carafanau a meysydd carafanau.
·
Mewn ymateb i sylw’r aelod am y tarmac, nododd
y Rheolwr Cynllunio mai’r argymhelliad fydd lliw meddalach na tharmac
cyffredin.
·
Mewn ymateb i sylw’r aelod am y cynllun atal
llygredd, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio y bydd y cynllun atal llygredd yn
cael ei gytuno cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.
PENDERFYNWYD caniatáu y cais;
Amodau
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r
cynlluniau diwygiedig.
3.
Tirlunio.
4.
Cyfyngu’r niferoedd i 18 uned deithiol
5.
Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.
6.
Cyfyngu’r tymor
gwyliau.
7.
Cadw cofrestr.
8.
Cadw'r unedau ar safle storio pan nad ydynt yn cael
eu defnyddio/tu allan i’r tymor gwyliau
9.
Gweithredu yn unol ag argymhellion yr asesiad
ecolegol.
10.
Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o
fewn tymor nythu.
11.
Cytuno lliw y tarmac ar gyfer y ffordd gwasanaethu.
12.
Rheoli goleuo.
Dogfennau ategol: