Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).  

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23 (Adolygiad 2020/21).

 

Nodwyd y bwriedid cychwyn y broses o adolygu’r Cynllun yn gynharach y flwyddyn nesaf.

 

Nodwyd bod yr argyfwng llifogydd diweddar wedi pwysleisio rôl y Cyngor ac aelodau lleol.  Diolchwyd am y gwaith a gyflawnwyd, a dymunwyd y gorau i’r trigolion a’r cymunedau oedd wedi dioddef llifogydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd, er y cydnabyddid bod gwireddu’r Cynllun Gweithredu Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bob un o adrannau’r Cyngor (tud 53 o’r rhaglen), bod angen penodi un person i arwain ar y gwaith ar ran y Cyngor er mwyn sicrhau dull cyson o weithredu.  Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid adrodd yn fuan i’r Cabinet ar waith yr is-grŵp sy’n edrych ar newid hinsawdd.  O bosib’ y byddai’r Cabinet yn sefydlu bwrdd gyda Chadeirydd a swyddog penodol yn gwasanaethu’r Bwrdd, fel bod y maes yn derbyn sylw ar yr un lefel â’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl.

·         Nodwyd bod uchelgais y Cyngor o weld trigolion Gwynedd yn ennill cyflog digonol i fedru cynnal eu hunain a’u teuluoedd yn ganmoladwy, ond holwyd beth oedd y diffiniad o ‘gyflog digonol’ a pha mor gyraeddadwy ydoedd?  Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun datblygu’r economi presennol yn diffinio swyddi cyflogaeth uchel fel rhai dros £26,000, ond bod y Cyngor, drwy ei waith datblygu’r economi, yn chwilio am swyddi gyda chyflogau llawer uwch na hynny.  Ychydig o gyfleoedd cyflogaeth oedd ar gael mewn ardal wledig fel Gwynedd, ac roedd yn ofynnol parhau gyda’r gwaith o ddatblygu’r economi er mwyn anelu at y nod o sicrhau cyflogaeth dda i bobl yng Ngwynedd.  Credid bod y nod yn gyraeddadwy yn y tymor hir.  Ystyrid bod y Cyngor yn mynd i’r cyfeiriad iawn er gwaethaf amgylchiadau anodd eu goresgyn, ond roedd llawer o’r hyn oedd yn effeithio ar lefel tlodi yn ein hardaloedd yn dibynnu ar yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan.

·         Holwyd a oedd y Cabinet wedi ystyried ail-gymryd tai cyngor drosodd gan fod yna arian ar gael a llog yn isel.  Mewn ymateb, eglurwyd, er bod dadl, o bosib’, dros gymryd y stoc tai yn ôl, nad oedd hynny’n flaenoriaeth i Wynedd, ac roedd gan y Cyngor rôl bwysig o ran datblygu syniadau gwahanol ac arloesol ar sut i ddarparu tai yn y llefydd iawn ac fel mae pobl eu hangen.  Roedd yna amrywiaeth o ffyrdd o wneud hynny, ac edrychid ymlaen at weld y Cynllun Gweithredu Tai yn fuan.

·         Croesawyd y Cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth (Blaenoriaeth Gwella 3) a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet ymhelaethu ar gynnydd y gwaith.  Mewn ymateb, nodwyd bod dau weithdy - un ar gyfer merched a’r llall ar gyfer dynion, wedi amlygu mai diffyg hyder, cyfrifoldebau gofalu a chydbwysedd bywyd personol a gwaith oedd y prif rwystrau i ferched ymgeisio am swyddi uwch o fewn y Cyngor.  Yn dilyn y gweithdai, datblygwyd cynllun gweithredu drafft ar y cyd, ac un o brif flaenoriaethau’r cynllun hwnnw fyddai cyflwyno rhaglen datblygu potensial i ferched.  Roedd yna fwriad hefyd i adolygu’r trefniadau recriwtio a phenodi er mwyn ystyried a oedd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r rhwystrau o ofalu am blant a pherthnasau wrth i ferched ystyried eu gyrfaoedd.  Yn ogystal â hynny, bwriedid edrych yn fanylach ar y trefniadau gweithio’n hyblyg, absenoldeb tadolaeth a mamolaeth ayb, cyfrannu at waith Grŵp Prosiect Amodau Gwaith y Cyngor a chynnig arweiniad o bersbectif merched yn y gweithlu.  Bwriedid hefyd creu Fforwm i ferched ac roedd yna rôl wleidyddol i’r Grŵp Cynghorwyr sy’n Ferched fod yn annog mwy o ferched i fod yn gynghorwyr.

·         Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at rai o’r camau a gymerwyd o fewn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd i ddod â’r argyfwng hinsawdd i mewn i Gynllun y Cyngor.  Manylwyd ar swyddogaeth statudol ac amserol Ymgynghoriaeth Gwynedd fel awdurdod llifogydd y sir.  Cydymdeimlwyd yn ddwys â’r cymunedau hynny oedd wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar a diolchwyd i weithwyr y Cyngor oedd wedi bod allan mewn amodau afiach yn ceisio sicrhau bod cymunedau’r sir yn aros yn ddiogel.  Nodwyd bod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o leihau allyriadau carbon yn y sir, megis drwy newid goleuadau stryd i oleuadau LED, edrych ar ddi-garboneiddio cerbydau, gan gynnwys ymchwilio i hydrogen fel tanwydd posib’ ac edrych i mewn i’r potensial o gynnig defnydd cymunedol o’r fflyd.  Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn debygol o gyrraedd ei darged ailgylchu o 64% erbyn diwedd y mis, a thros y flwyddyn nesaf, bwriedid datblygu strategaeth wastraff newydd fyddai’n rhoi’r pwyslais ar ail-ddefnyddio yn ogystal ag uchafu ailgylchu.  Dymunid trafod syniadau gyda’r aelodau a’r cymunedau roeddent yn gynrychioli, ac roedd yna awydd hefyd i gymryd pob cyfle i uchafu pwysigrwydd bioamrywiaeth.

·         Croesawyd dyfodiad cronfa Hunan Adeiladu Llywodraeth Cymru, ond nodwyd bod hynny’n gwrthdaro gyda’r trafferthion roedd rhai pobl ifanc yn ardal Llŷn wedi wynebu wrth fynd drwy’r broses gynllunio.  Holwyd a oedd yna fwriad i ail-edrych ar y polisïau er mwyn gweld a ellid cefnogi’r math yma o bobl i sicrhau cartrefi addas ac o safon o fewn eu cymunedau.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei adolygu’n gyson, ac y byddai yna gyfle i’r aelodau edrych ar bob polisi o fewn y cynllun hwnnw.  Er y bu cryn edrych ymlaen at ddyfodiad y gronfa hunan-adeiladu, roedd rhai o’r cyfyngiadau a osodwyd ar y gronfa gan y Llywodraeth yn golygu nad oedd mor hyblyg â hynny.  Er hynny, roedd y Cyngor yn edrych ar bob cyfle i fanteisio ar y gronfa a deellid bod modd bwrw ymlaen gydag un cynllun o bosib’.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2019-23 (Adolygiad 2020/21).

 

Dogfennau ategol: