Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

·         Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·         Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

·         Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£198k) o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

¾     (£75k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     (£500k) o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.

¾     (£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn 2020/21.

¾      y gweddill sef (£502k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas 

            PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau a fydd yn gorwario a trafodwyd yr adrannau yma yn unigol.

Adran Oedolion Iechyd a Llesiant – mynegwyd fod yr rhagolygon diweddaraf yn awgrymu dros £1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y gorwariant yn cael ei leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a defnydd o gyllid un tro.

Adran Plan a Cefnogi Teuluoedd – nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr adran wedi dwysau ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau, gyda cyfran sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol. Ychwanegwyd fod tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yr adran a nodwyd nad oedd y sefyllfa hon yn anghyffredin os yn edrych ar draws Cymru.

Adran Priffyrdd – mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a gwaredu gwastraff eleni, gan nodi mae costau trosiannol cyn symud i drefniadau newydd sydd wedi arwain at y gorwariant.

Tynnwyd sylw at tanwariant yn maes corfforaethol gyda rhagolygon ffafriol o gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a Premiwm Treth Cyngor er hyn amlygwyd fod parhad yn y tueddiad i ôl ddyddio trosglwyddiadau o Dreth Cyngor i Drethi Annomestig. Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio gostyngiadau Treth Cyngor ar ei lefel isaf am y bedwaredd blynedd yn olynol. Ychwanegwyd fod  tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol, ac nad yw’r pwysau ar nife ro o gyllidebau mor ddwys â’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o’r gwaith oedd yn mynd ymlaen i ymchwilio i’r gorwariant ym meysydd Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Adran Oedolion. Byddai dod i gasgliad a darganfod y cyfleoedd neillog yn y maes Plant   yn cymryd yn hirach na’r hyn a ragwelir ar gyfer maes Oedolion, ond ‘roedd y Pennaeth Cyllid yn gwneud darpariaeth briodol wrth lunio cyllideb 2020/21.

Adroddodd ymhellach nad oedd yn poeni yn ormodol am or wariant yn yr Adran Briffyrdd ar hyn o bryd gan fod cynllun yn ei le yn barod i sicrhau y bydd y maes gwastraff yn gweithio mor effeithlon a phosib er mwyn dod a’r gorwariant yma dan reolaeth.

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: