Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu. Gosodwyd gwybodaeth gefndirol yr adroddiad gan
nodi'r angen i bob awdurdod trwyddedu gyhoeddi datganiad o bolisi trwyddedu bob 5 mlynedd yn unol
ag Adran 5 Deddf trwyddedu 2003. Bydd pob awdurdod yn
adolygu eu polisi gan wneud
unrhyw ddiwygiadau a ystyrir yn briodol
o fewn y cyfnod pum mlynedd.
Yng nghyd-destun Cyngor Gwynedd, nodwyd bod y polisi presennol wedi ei gymeradwyo gan
y Cyngor Llawn ar y 16 o Ragfyr 2010 gyda’r cyfnod 5 mlynedd yn dod
i ben ar y 6ed o Ionawr
2016. Bydd cyfnod ymgynghori priodol yn cael ei
weithredu cyn penderfynu a chyhoeddi polisi newydd.
Amlygwyd,
fel rhan o’r prosiect cydweithio
Gwarchod y Cyhoedd ar draws Gogledd Cymru, sefydlwyd Grŵp Tasg i greu datganiad o bolisi trwyddedu ‘cyffredin’ ar draws Gogledd Cymru. Cytunwyd ar strwythur
‘Cynnwys’ y polisi, ond, oherwydd effaith
ffactorau economaidd a chymdeithasol ar bob awdurdod, eglurwyd bod pob datganiad wedi
ei eirio’n wahanol ac yn berthnasol
felly i ardal benodol.
O ran fformat y polisi drafft newydd, eglurwyd bod ystyriaeth fanwl wedi ei roi
i hwyluso’r darllenydd i ddod at y wybodaeth. Creuwyd adrannau ac isadrannau i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar faterion a phwerau
sydd wedi dod i rym ers
i’r polisi presennol cael ei fabwysiadu yn
2010 (enghraifft o hyn yw’r Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar ac Ardoll Hwyr y Nos).
Yn ychwanegol, amlygwyd bod geiriad y polisi wedi ei
addasu er mwyn cyfeirio at ddeddfwriaeth gyfredol (enghraifft o hyn yw bod diffiniad adloniant wedi ei rheoleiddio wedi ei addasu’n
sylweddol yn dilyn y Ddeddf Cerddoriaeth Byw 2012 a’r Ddeddf Dadreoleiddio
2015) a bod yr amcanion trwyddedu wedi ei hyrwyddo drwy’r
polisi.
O ran trefniadau ymgynghoriad ffurfiol (fydd ar agor am 21 diwrnod),
nodwyd y bydd y polisi yn cael
ei rannu gyda;
• Heddlu Gogledd Cymru
• Gwasanaeth
Tan & Achub Gogledd Cymru
• Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
• Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli
busnesau a thrigolion y sir
• Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli
deiliaid trwydded/tystysgrif gyfredol
• Cynghorwyr,
Cynghorau Cymuned ac awdurdodau cyfrifol.
• Siop
Gwynedd ac gwefan Cyngor
Gwynedd
Amlygwyd nad oedd unrhyw
faterion dadleuol yn y polisi ac felly ni ragwelir nifer
helaeth o ymatebion.
Yn dilyn trafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol:
Croesawu cydweithio da gyda swyddogion y Gogledd i sicrhau strwythur i’r datganiad
Croesawu
bod asesiad cydraddoldeb wedi ei ddosbarthu
Croesawu
bod amddiffyn plant yn cael ei gynnwys
yn y datganiad
Croesawu
bod y datganiad yn haws i’w ddarllen a bod y prif faterion wedi
eu hamlygu.
Diolchwyd
i’r Rheolwr Trwyddedu am ei gwaith o ddiweddaru a diwygio’r datganiad.
PENDERFYNWYD
CYMERADWYO'R
HAWL I BENNAETH ADRAN RHEOLEIDDIO DDECHRAU YMGYNGHORIAD STATUDOL AR Y DATGANIAD
O BOLISI TRWYDDEDU DRAFFT.
BOD
ADRODDIAD I’W GYFLWYNO I’R PWYLLGOR HWN 1AF O RAGFYR 2015, FYDD YN AMLINELLU’R YMATEBION A DDERBYNIWYD
AC I’R PWYLLGOR YSTYRIED NEWIDIADAU AR Y DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU DRAFFT YN
ÔL YR ANGEN.
YN DILYN
CYMERADWYAETH GAN Y PWYLLGOR HWN, CYFLWYNO'R DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU
NEWYDD ER YSTYRIAETH Y CYNGOR LLAWN AR 10 RHAGFYR 2015
Dogfennau ategol: