I ystyried
adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth
ac Iaith, yn amlinellu canlyniadau adolygiad diweddar i drefniadau craffu'r Cyngor. Eglurwyd bod gweithgor wedi ei sefydlu o Aelodau a
Swyddogion i adolygu’r trefniadau craffu cyfredol yn dilyn sylwadau nad oedd
craffu yn ychwanegu gwerth, fod y trefniadau yn araf yn dwyn ffrwyth a theimlad
y gellid gwneud pethau yn well. Ategwyd bod ceisio gwelliant parhaus trwy
adolygu a herio’r drefn yn cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i bobl
Gwynedd.
Lluniwyd tri
opsiwn gan y Gweithgor yn wreiddiol, ac yn dilyn gwaith ymgynghori gydag
aelodau a’r Fforwm Craffu addaswyd yr opsiynnau hynny er ystyriaeth y
Pwyllgor.Ystyriwyd
-
Tri Pwyllgor Craffu (mân addasiadau i’r trefniadau
cyfredol)
-
Un
Prif Bwyllgor Craffu
-
Dau
Bwyllgor Craffu
Trafodwyd yr
opsiynau gan gyfeirio at fanteision ac anfanteision pob opsiwn yn unigol.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried os oedd un opsiwn yn rhagori a chyflwyno’r
opsiwn dewisol fel argymhelliad i’r Cyngor Llawn ar 19.12.19.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol:
-
Nad oes capasiti gan un Aelod i gadeirio Un
Pwyllgor – pryder bod hyn yn ormod o gyfrifoldeb i un Cadeirydd
-
Derbyn
yr angen i adolygu’r drefn
-
Pryder na fyddai materion ar bwnc penodol yn cael
eu cofnodi mewn cyfarfodydd anffurfiol / rhannu gwybodaeth
-
Bod
angen ystyried sut mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno
-
Bod angen edrych yn fwy strategol ar eitemau yn
hytrach na materion cyffredinol ar draws y Sir.
-
Pa
bynnag drefn neu opsiwn sydd yn cael ei ddewis nid yw’n golygu y bydd y craffu
yn gwella – angen miniogi trefniadau a
blaenoriaethu yn well
-
Opsiwn
Un Pwyllgor yn cau allan gormod o Aelodau
-
Opsiwn
Un Pwyllgor – yn rhoi cyfle i rai Aelodau fagu arbenigedd drwy arwain
-
A’i craffu sydd yn wallus ynteu diffyg aelodau i
adnabod eu rôl? Angen ystyried addysgu Cynghorwyr o’u cyfrifoldebau
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phwy fydd yn Cadeirio'r Pwyllgor Craffu be fyddai opsiwn Un
Pwyllgor Craffu yn rhagori, mynegodd y Swyddog Monitro bod fformiwla statudol
mewn lle i benderfynu hyn yng nghyd-destun y balans gwleidyddol. Byddai’r
fformiwla hefyd yn cael ei defnyddio
petai opsiwn Dau Bwyllgor Craffu yn rhagori.
Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 1 – Tri Pwyllgor Craffu
Gwnaed cais hefyd
i’r Pwyllgor ystyried pa bwyllgor craffu ddylai graffu materion yr Adran Tai ac
Eiddo yn dilyn ail strwythuro’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal yn y Fforwm Craffu, yng nghyfarfod anffurfiol y
Pwyllgor Craffu Gofal a gyda Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu
Cymunedau a Gofal. Daethpwyd i’r farn yn y trafodaethau hyn mai’r Pwyllgor
Craffu Gofal oedd y lle gorau i graffu materion tai ac eiddo gan fod materion
iechyd a gofal bellach yn cael eu cysylltu gyda thai.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol:
-
Bod cyswllt amlwg rhwng Tai /Ansawdd Tai ac Iechyd
-
Bod y berthynas rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Iechyd yn datblygu
-
Bod capasiti gan Pwyllgor Craffu Cymunedau i drafod
materion tai
-
Bod
cysylltiad amlwg rhwng Cynllunio (sydd yn fater craffu Cymunedau) a Tai ac
Eiddo yn nghyd-destun grantiau, adeiladu mwy o dai a Cydmeithasau Tai
Cynigiwyd trafod
Tai ac Eiddo ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau. Ni chafwyd eilydd ac felly,
oherwydd y diffyg, roedd Tai ac Eiddo i’w drafod ym Mhwyllgor Craffu Gofal.
PENDERFYNWYD,
a) Croesawu’r
adolygiad a derbyn yr adroddiad
b) Cynnig Opsiwn 1 - Tri Pwyllgor Craffu gyda rhai addasiadau, fel
argymhelliad i’r Cyngor llawn 19.12.19
c) Bod
Tai ac Eiddo ( o dan opsiwn 1) i’w drafod yn y Pwyllgor Craffu Gofal
Dogfennau ategol: