Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Refeniw a Risg)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, cynnydd ar y rhaglen waith am y tair blynedd nesaf ynghyd a datblygiadau cenedlaethol yng nghyd-destun twyll yn erbyn y sector gyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau bod rhaglen waith Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth  Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd ar gyfer 2019 - 2022 wedi ei mabwysiadu gan y Pwyllgor ar y 14eg o Chwefror 2019.

 

Amlygwyd nad oedd swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd. Er hynny, ers Ebrill 1af 2019, adroddwyd bod y Gwasanaeth Budd-dal wedi cyfeirio 22 o achosion Budd-dal Tai i’r Adran Gwaith a Phensiynau (Llywodraeth DU) am ymchwiliad pellach. Nodwyd nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio i dwyll Gostyngiad Treth Cyngor, a felly fod camau pendant wedi eu cymryd i ddatblygu sgiliau yn fewnol i ymchwilio i’r twyll yma. Ategwyd bod 3 o swyddogion budd-dal a 3 o swyddogion trethi yn gweithio ar gymhwyster CIPFA Accredited Counter Fraud Technician ar hyn o bryd sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol i weithdrefnau atal twyll y Cyngor.

 

Yng nghyd-destun defnyddio data, cyfeiriwyd at y gweithrediad i asesu’r posibilrwydd o ddefnyddio data’n well er mwyn adnabod ac ymchwilio i dwyll. Ategwyd mai’r cynllun cyfredol i adnabod ac ymchwilio i dwyll yw ymarferiad y Gwasanaeth Trethi i adolygu rhai o’r disgowntiau ac eithriadau a ganiateir i gyfrifon Treth Cyngor y Sir. Amlygwyd , mewn ymchwil diweddar, mai hawliadau ffug am Ddisgownt Person Sengl yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o dwyll sydd yn cael ei weithredu gan oedolion yng Nghymru. Nodwyd bod 18,000 o gartrefi Gwynedd yn derbyn disgownt person sengl Treth Cyngor ac er mwyn sicrhau bod pob eithriad a disgownt a ganiateir yn gywir, bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda chwmni Datatank i adolygu hawlwyr disgownt. Os darganfyddi’r hawliadau anghywir bydd y Cyngor yn diweddu’r hawliadau, ysgrifennu at y trethdalwyr ac yn ceisio adennill y gostyngiad.

 

Tynnwyd sylw at adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gafodd ei gyhoeddi ym Mehefin 2019 sydd yn rhoi darlun o’r mathau o dwyll y gellid eu cyflawni yn erbyn y sector gyhoeddus yng Nghymru. Nodwyd mai cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol  oedd darparu’r adroddiad fel bod modd adrodd ar y trefniadau sydd yn ei lle o fewn y gwahanol fathau o gyrff cyhoeddus. Cymeradwywyd cynnig yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal adolygiad pellach (cam 2) i archwilio pa mor effeithiol yw trefniadau atal twyll yn ymarferol ac i wneud argymhellion ar gyfer gwella. Adroddwyd bod bwriad cyhoeddi cam 2 o’r adolygiad ym mis Mehefin 2020 gydag awgrym i adrodd i’r Pwyllgor ganlyniad y gwaith ac unrhyw faterion sydd yn benodol i Wynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a thwyll yn ymwneud â throsglwyddo eiddo hunan-ddarpar allan o’r Gyfundrefn Treth Cyngor, nodwyd mai cyfrifoldeb Asiantaeth Swyddfa’r Prisiwr yw casglu gwybodaeth a dod i benderfyniad ar faterion twyll o’r math yma. Mewn sylw ynglŷn â’r angen i wirio gwaith a phenderfyniad y prisiwr, nodwyd bod modd cysylltu gyda swyddogion y llywodraeth i wneud ymholiadau pellach.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd a nodi amserlen Swyddfa Archwilio Cymru i adrodd ar ganlyniadau cam 2 o adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: