I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y
byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod cais gan Mr A i adnewyddu ei drwydded
gyrrwr hacni / hurio preifat wedi ei wrthod gan Is bwyllgor 21.11.18. Nododd Mr
A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar ei noson stag a bod ei ymddygiad allan o
gymeriad. Roedd yn edifar am yr hyn a wnaeth ac eglurodd ei fod wedi ymddiheuro
i berchennog y siop am ei ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol
bod derbyn rhybudd yn cael ei ystyried fel collfarn ac y byddai yn ymddangos ar
ei gofnod DBS. Mynegodd ei fod bellach yn gweithio ac wedi derbyn cymhwyster ymatebydd cyntaf –
cyflwynodd ddatganiad personol, tystlythyrau a geirda i gefnogi ei gais.
Nid oedd gan ei ddarpar gyflogwr (petai y cais yn cael ei ganiatáu)
unrhyw sylw ychwanegol
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
datganiad personol yr
ymgeisydd , tystlythyrau / geirda
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres o
droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu ac ildio i’r ddalfa ar
yr amser a nodwyd yn groes i ofynion adran 6 Deddf Mechnïaeth 1976. Cafodd
ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu £85 costau. Roedd yr ail drosedd o fod yn
feddw ac afreolus o dan Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967 (Ionawr 2010)
lle cafodd ddirwy o £50. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon
Wolverhampton (Chwefror 2010) am ddinistrio eiddo yn groes i adran 1 Deddf
Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £65 a gorchymyn i dalu costau o £85. Yn
Mai 2017 derbyniodd yr ymgeisydd rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru am ddefnyddio
geiriau / ymddygiad bygythiol a sarhaus / ymddygiad afreolus er mwyn achosi
braw / trallod yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Mae
paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod “materion eraill i’w hystyried” yn
cynnwys rhybuddion.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod
Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o
dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r
Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin
a /neu drosedd o dan A4 Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn
dyddiad y cais. Nodi’r hefyd, ym mharagraff 6.6, y bydd cais yn cael ei wrthod
os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd,
neu fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â hynny o fewn y 10 mlynedd
diwethaf
Rhoddodd yr Is Bwyllgor
ystyriaeth hefyd i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor
sydd yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n
bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o
ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd
heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod troseddau y cais hwn yn union yr un fath â'r rhai a gafodd eu hystyried gan
Is-bwyllgor 21 Tachwedd 2018 mewn cysylltiad â chais blaenorol a wnaed gan yr
ymgeisydd yn 2018 am drwydded yrru cerbyd hacni / hurio preifat. Er nad oedd yr
Is-bwyllgor presennol wedi'i ymrwymo'n llwyr gan ganfyddiadau Is-bwyllgor 2018,
rhoddwyd sylw dyledus iddynt.
Canfu Is-bwyllgor
2018 nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol yn y Polisi oedd yn berthnasol i’r
troseddau o fod yn methu ag ildio i fechnïaeth a bod yn feddw ac
yn afreolus. Er bod y troseddau hyn yn rhai a ystyriwyd yn ddifrifol, yng
ngoleuni eu natur hanesyddol ac yn absenoldeb unrhyw Bolisi perthnasol a oedd
yn argymell gwrthod, nid oedd y collfarnau hyn, yn unigol, yn sail i wrthod y
cais. Roedd Is-bwyllgor y cais cyfredol yn cytuno.
Wrth ystyried rhybudd 2017, canfu Is-bwyllgor 2018 fod y rhybudd mewn
perthynas â throseddau trais. Daeth Is-bwyllgor 2019 i’r un canlyniad.
Gyda'i gilydd,
roedd Is-bwyllgor 2018, yn ystyried bod collfarnau 2010 a rhybudd 2017 yn
golygu bod mwy nag un gollfarn neu fater i’w ystyried yn disgyn o fewn 10
mlynedd am drosedd o natur dreisgar, ac felly, o dan baragraff 6.6 o’r Polisi
roeddynt yn sail i wrthod y cais. Yn ychwanegol, roedd
yr Is bwyllgor o’r farn bod troseddu dro ar ôl tro gan ddangos diffyg parch at
les eraill neu am eiddo, yn berthnasol i baragraff 16.1 o’r polisi.
Blwyddyn yn ddiweddarach, ystyriwyd bod collfarn 2010
a rhybudd 2017 yn parhau i gyfrif fel ‘mwy nag un collfarn neu fater i'w
ystyried o fewn 10 mlynedd ar ôl gwneud cais’ ac y byddai hyn yn aros felly hyd
ddiwedd y cyfnod 10 mlynedd – yn yr achos yma 7 Chwefror 2020. Roedd ail
droseddu gan ddangos diystyrwch i eraill neu eiddo hefyd yn parhau o fewn 10
mlynedd ac felly, o dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor presennol yn
fodlon bod y rhagdybiaethau o blaid gwrthod o dan baragraffau 6.6 a 16.1 o'r
Polisi yn gymwys. Hyd yn oed pe bai collfarn 2010 yn cael ei diystyru, roedd
rhybudd 2017 yn parhau yn ddigonol fel sail i wrthod y cais o dan baragraff 6.5
o’r Polisi hyd ddiwedd y cyfnod tair blynedd – yn yr achos yma 29 Mai 2020.
Amlygodd y
Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r Polisi yn
orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn
cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw arbennig i baragraff 3.5 o’r adroddiad,
sydd yn cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y cafodd y
drosedd ei chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar adeg y
gollfarn, y ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn perthyn i
batrwm o droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Wedi ystyried cefndir y digwyddiad yn 2017 nid
oedd Is Bwyllgor 2018 yn fodlon, er i’r ymgeisydd
gyfaddef ei fod yn euog, bod y rhesymau dros ei ymddygiad yn ddigonol i esgusodi’r drosedd. Nodwyd bod gan yr ymgeisydd
drwydded gyrru hacni ar yr amser y derbyniodd rybudd gan Heddlu Gogledd
Cymru ond nad oedd y wybodaeth yma wedi cael
ei rannu gyda’r Adran Trwyddedu. Ymddengys bod y wybodaeth wedi ei rannu wrth gwblhau cais adnewyddu trwydded. Er
eglurhad yr ymgeisydd nad oedd yn ymwybodol bod
angen datgelu’r wybodaeth am y rhybudd nid oedd yr Is Bwyllgor yn derbyn hyn gan fod ffurflen gais am drwydded yn nodi
yn glir yr angen am wybodaeth troseddau a rhybuddion.
Fel gyrrwr, dylai fod yn ymwybodol o’r angen yma.
Ystyriodd yr Is bwyllgor nad oedd yr ymgeisydd
wedi gwneud datganiad gonest i’w gyflogwr a bod hyn yn amlygu ynddo’i hun, nad
oedd yn berson addas a phriodol.
Fodd bynnag, o
dderbyn datganiad personol, tystlythyrau a geirda oedd, ymhlith materion
eraill, yn gysylltiedig â'r digwyddiad a arweiniodd at rybudd 2017 roedd yr
Is-bwyllgor yn derbyn bod yr ymgeisydd ar delerau da â pherchennog y siop a'i
fod wedi ymddiheuro am ei ymddygiad. Er nad yw'n esgusodi'r drosedd, roedd yn
darparu cyd-destun pwysig i’r Is-bwyllgor ei ystyried o ran gwyro oddi wrth
gwrthod y cais. Yn dilyn y penderfyniad gan Is-bwyllgor 2018 nad oedd yr
ymgeisydd yn addas a phriodol oherwydd iddo beidio â datgelu manylion ei
droseddau i’w gyflogwr, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystlythyrau cymeriad
ychwanegol i gefnogi ei ail gais. Ystyriwyd hefyd waith yr ymgeisydd ynghyd a’i
gyfrifoldeb fel ymatebydd cyntaf - dwy swydd sydd yn gofyn am lefel uchel o
ymddiriedaeth.
Derbyniodd yr
Is-bwyllgor bod anonestrwydd yr ymgeisydd i ddatgelu ei droseddau i’r Adran
Trwyddedu a chyn gyflogwr bellach wedi eu gwyrdroi gan i’r ymgeisydd ddysgu o’i
gamgymeriadau a newid cyfeiriad ers penderfyniad 2018 drwy dderbyn
cyfrifoldebau ac ennill ymddiriedaeth yn ei swyddi.
Nododd Cadeirydd yr Is-bwyllgor nad oedd y cais yn un syml i'w
benderfynu, fodd bynnag, wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn
ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi wrth y Polisi a phenderfynu
bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.