Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc yn rhoi trosolwg o’r cwynion a’r ceisiadau gwybodaeth a
datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19.
Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau.
Mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith
caled y staff a nodwyd ei bod yn galonogol gweld bod cyn lleied o gwynion
wedi’u cyflwyno a chyn lleied o’r cwynion hynny wedi mynd ymlaen i Gam 2.
Nodwyd, er bod yr wybodaeth hanesyddol yn
gynwysedig yn yr adroddiad, y byddai’n fuddiol gweld y ffigurau ar ffurf tabl,
er mwyn gweld yn glir oes patrwm wedi datblygu.
Gan gyfeirio at gŵyn GC/3257-15 yn
Atodiad 3 i’r adroddiad, ac yn benodol farn gref yr Ombwdsmon y dylai
hyfforddiant ar awtistiaeth fod ar gael i bawb o fewn yr Adran, ac nid i staff
Derwen yn unig, holwyd a fu unrhyw ddatblygiad pellach ar hynny. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu ac
Ansawdd:-
·
Yn
ychwanegol i’r cwestiwn o hyfforddiant, bod cwestiwn ynglŷn â gallu’r
gweithwyr cymdeithasol i ymdopi â sefyllfaoedd lle mae yna elfennau hynod o arbenigol
o fewn asesiadau.
·
Bod
gwasanaeth newydd yn ei le erbyn hyn ar lefel Gogledd Cymru a threfniant yn ei
le fel bod timau o fewn gwasanaethau plant yn gallu cael esboniad o’r hyn y
gellir ei gynnig yn ychwanegol i’r hyn oedd yn bodoli yn flaenorol.
·
Bod
plethiad rhwng hyn â phethau megis canllawiau mynediad i wasanaeth Derwen, ac
ydi rhywun sydd ag awtistiaeth ac sydd â gallu ac yn gallu gweithredu’n
annibynnol yn cael ei ystyried yn anabl, ayb.
·
Gan hynny, roedd yna lawer o gymhlethdod yn yr achos
hwn rhwng y cyngor cyfreithiol a roddwyd, yr hyn mae’r ddeddf yn ddweud a’r hyn
mae’r Ombwdsmon wedi dyfarnu ynghylch sut ddylai hynny gael ei ystyried.
·
Yn
dilyn her ddiweddaraf yr Ombwdsmon, y comisiynwyd arbenigwr ym maes awtistiaeth
i roi cymorth pellach i’r Cyngor i sicrhau bod y trefniadau’n gryfach i’r
dyfodol.
·
Gan
fod yna lobi gref ar gyfer y math yma o wasanaethau arbenigedd, bod cryn bwysau
ar y Cyngor i fedru asesu yn unol â’i ddyletswyddau, ond y credid bod y
plethiad newydd gyda gwasanaeth y Gogledd o gymorth i atgyfnerthu hynny.
·
Y rhoddwyd ymateb i’r Ombwdsmon ar hynny a bod yna
drafodaeth bellach rhwng y Cyngor a’r Ombwdsmon ynglŷn ag i ba raddau
mae’r Ombwdsmon yn fodlon gyda’r camau mae’r Cyngor wedi rhoi mewn lle erbyn
hyn.
Nododd yr Aelod Cabinet na ddymunai i’r
pwyllgor fynd i ormod o drafodaeth ar y mater hwn gan fod yr achos yn un byw ac
yn cyfeirio at unigolyn. Eglurodd nad
oedd gan y Cyngor lawer o brofiad o ddelio gyda’r Ombwdsmon, gan mai un achos
yn unig a welwyd mewn sawl blwyddyn, ac awgrymodd y gallai’r Prif Weithredwr
ymhelaethu ar lle mae’r Cyngor wedi cyrraedd o ran ymateb a datblygu’r
berthynas gyda’r Ombwdsmon.
Nododd y Prif Weithredwr:-
·
Y bu hwn yn achos anodd dros ben, a gan nad oedd yr
Adran wedi cael llawer o achosion lle mae’r Ombwdsmon yn dyfarnu yn ei herbyn,
efallai na lwyddwyd i newid ein egwyddorion gweithredu i’r rhai y byddai’r
Ombwdsmon wedi dymuno eu gweld.
·
Y
derbyniwyd llythyr gan yr Ombwdsmon yn sgil ei ail adroddiad yn datgan pryder
ynglŷn ag elfennau o’r hyn a wnaethpwyd.
·
Y
byddai’n mynd i weld yr Ombwdsmon yr wythnos ganlynol a’i fod o’r farn mai
trafferthion cyfathrebu oedd bennaf wrth wraidd hyn.
·
Ei
fod yn weddol hyderus bod y Cyngor wedi ceisio gwneud y peth iawn, ond wrth
wneud hynny wedi anghofio bod rhaid cadw at lythyren yr hyn a gytunwyd gyda’r
Ombwdsmon.
·
Y
bu i’r Ombwdsmon nodi yn ei adroddiad cyntaf y byddai’n disgwyl i’r Cyngor
hyfforddi ei holl weithwyr cymdeithasol ar y drefn gwynion o fewn 12 mis, fel
eu bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau os ydynt yn adnabod unigolyn sydd eisiau
cwyno. Er bod yr adroddiad i’r pwyllgor
hwn a’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf yn nodi y ‘bydd’
sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnal, roedd yr Ombwdsmon wedi ei gythruddo
gan fod cyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf ddeufis ar ôl yr adeg y dylai’r
hyfforddiant fod wedi’i gwblhau.
·
Oherwydd
y bu dryswch hefyd ynglŷn â geiriad un o argymhellion yr Ombwdson
ynglŷn ag asesu’r rhieni, nid oeddem chwaith wedi cyd-fynd â chymal arall
y bu i ni gytuno i’w gyflawni.
·
Bod
argymhellion yr adroddiad wedi’u gweithredu bellach a’r asesiad ar gyfer y
rhiant yn digwydd hefyd, ac y byddai’n adrodd hyn yn ei gyfarfod gyda’r
Ombwdsmon.
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â
chyfleusterau chwarae ar gyfer plant yn Hafan y Sêr, nododd yr Uwch Reolwr
Diogelu ac Ansawdd fod cytundeb bellach rhwng y gwasanaethau o ran symud hyn
ymlaen. Diolchwyd i’r aelod am ei
ymyrraeth, oedd wedi bod o gymorth i chwalu’r rhwystrau.
Nodwyd bod yna werthfawrogiad mawr o’r ddarpariaeth
yn Hafan y Sêr a nodwyd y dylid anfon at y staff i ddiolch iddynt am eu holl
waith.
Ar ran y Gwasanaeth, diolchodd yr Uwch
Reolwr Diogelu ac Ansawdd i’r Swyddog Gofal Cwsmer am ei holl waith. Mynegodd yr aelodau eu diolchiadau i’r
swyddog hefyd, ac i’r holl swyddogion a enwyd yn Atodiad 4 i’r adroddiad
(rhestr enghreifftiau o werthfawrogi 2018/19), a rhai na enwyd efallai, gan
ofyn bod neges yn mynd yn ôl i’r Adran yn cyfleu gwerthfawrogiad y pwyllgor o’u
gwaith gwerthfawr.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: