Agenda item

Cyflwyno adroddiad terfynol yr ymchwiliad  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu – Addysg Gymraeg gan Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd.  Nododd:-

 

·         Yr ymchwiliwyd i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod yn ysgolion y Sir a diolchodd i’w gyd-aelodau ar y grŵp, ynghyd a’r swyddogion, fu’n gweithio’n ddyfal dros gyfnod o 6-7 mis.

·         Y cyflwynwyd adroddiad drafft yr ymchwiliad i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau ar 22 Medi ac y penderfynodd y pwyllgor dderbyn cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg, gan ofyn iddo gyflwyno adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg ymateb yr adran i’r adroddiad gan nodi:-

 

·         Bod yr adran yn croesawu’r gwaith ac yn canmol ac yn cydnabod y gwaith aruthrol a gwblhawyd yn y maes hwn sy’n greiddiol i holl waith y gwasanaeth.

·         Bod yr Aelod Cabinet Addysg wedi derbyn yr argymhellion a’r cam nesaf fyddai trafodaeth rhwng yr adran a’r Aelod Cabinet o ran ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion.

·         Bod y pwyllgor craffu wedi dod i lawer o’r un casgliadau â chwmni Trywydd, a gomisiynwyd i gyflawni gwaith yn y sector uwchradd.

 

Wrth drafod casgliadau’r ymchwiliad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y sefyllfa ieithyddol yn ardal Bangor yn benodol ac effaith bositif y Siarter Iaith ar agwedd plant yr ardal tuag at y Gymraeg.

·         Nodwyd bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg.  Mewn ymateb, nodwyd bod y sylw hwn wedi’i wneud yn y Pwyllgor Craffu hefyd a chadarnhawyd bod y Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r mater.

·         Diolchwyd i aelodau’r ymchwiliad a’r swyddogion am eu gwaith trwyadl oedd wedi arwain at gyfres o argymhellion clir a phell gyrhaeddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: