Agenda item

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Gareth Thomas a Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*12.15yp – 1yp

 

 

*TORIAD AM GINIO – 1yp – 1.45yp

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion yr Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi a Chymuned i ddygymod gyda’u cyfran o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21, ynghyd â chynnig cynlluniau amgen i gyfarch diffyg cynlluniau arbedion cyfredol ar gyfer yr Adran Addysg.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Addysg, y ddau Bennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Cynigion Arbedion yr Adran Economi a Chymuned

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd, er y derbynnid y byddai’r cynigion arbedion yn cael rhywfaint o effaith ar drigolion Gwynedd, bod yr Adran wedi llwyddo i leihau’r effaith gymaint â phosib’.

 

Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac Ysgolion

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cryn bryder gan aelodau ynglŷn â dau gynnig arbed yn benodol, sef ‘Integreiddio – Cynllun Datblygu Unigol (CDU)/Datganiadau’ (£112,530) a chynyddu’r gymhareb disgybl / athro yn y fformiwla dyrannu (£463,900).  Wedi derbyn rhywfaint o esboniad pellach am yr hyn y byddai’r naill gynllun a’r llall yn ei olygu i ysgolion y sir, nodwyd y byddai’r naill yn golygu llai o gymorth i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn destun CDU / Datganiad a’r llall yn arwain at leihau nifer athrawon a / neu leihau niferoedd staff ategol, gan effeithio ar safonau addysgol.

 

Nodwyd ymhellach gan aelodau:-

 

·         Bod yr ysgolion wedi gorfod torri nôl i’r asgwrn yn barod.

·         Y dylai’r Cyngor anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn datgan anfodlonrwydd llwyr ynglŷn ag annigonolrwydd y grant, sydd wedi arwain at sefyllfa ariannol lle mae’r Cyngor yn gorfod gwneud arbedion sylweddol.

·         Y dylid ail-edrych mewn mwy o fanylder ar y cynigion er mwyn gweld beth yn union sy’n cael ei argymell.

·         Na all yr ysgolion wneud eu gwaith heb yr arian a bod y newidiadau’n effeithio ar forâl athrawon a phlant fel ei gilydd.

·         Y dylid chwilio am arbedion yn rhywle arall.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Eleni, am y tro cyntaf, bod gwariant y pen ar addysg yng Ngwynedd yr uchaf ymhlith holl awdurdodau gwledig Cymru, a hyd yn oed o wneud y toriadau hyn, byddai Gwynedd yn dal ar y brig.

·         Y llwyddwyd i warchod y gyllideb ysgolion yn gyfan gwbl y llynedd.

·         Bod y Cyngor hwn wedi bod yn llythyru, ac yn cyfarfod gyda’r Llywodraeth yn gyson, a bod y Llywodraeth yn fyw iawn i’r pryderon.

·         Fel cyngor darbodus, bod rhaid cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o orfod canfod y bwlch posib’ o £2m yng nghyllideb 2020/21.

·         Bod pob adran o’r Cyngor yn gwegian bellach, a rôl y pwyllgor craffu oedd penderfynu, os bydd yn ofynnol i’r Adran ddod â chynigion arbedion ymlaen, ai’r cynigion a restrwyd yn yr adroddiad, neu gynigion eraill, fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ar blant y sir.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod ystyriaeth ddwys wedi’i rhoi i’r holl opsiynau.  Ni allai wneud argymhellion yn unman arall a’r cynlluniau gerbron oedd y rhai fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ar blant.  Nododd hefyd y byddai’r gostyngiad yn demograffi’r cynradd a’r cynnydd yn demograffi’r uwchradd yn cael llawer mwy o effaith na’r cynigion hyn.  Roedd pwysau sylweddol ar y gyllideb cludiant hefyd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y balansau ysgolion o dros £4m gan nodi bod bwriad i’r pwyllgor hwn edrych ar ormodedd / balansau’r ysgolion.  Eglurodd y Pennaeth Addysg fod gan yr Awdurdod gyfrifoldebau o ran monitro balansau a phatrymau gwariant ysgolion ac y gellid cyfarwyddo ysgolion cynradd gyda balansau dros £50,000 ac ysgolion uwchradd gyda balansau dros £100,000 i wario.  Fodd bynnag, roedd balansau llawer o’r ysgolion islaw’r trothwyon hyn.

 

Mewn ymateb i ragor o sylwadau yn erbyn y cynigion arbedion Integreiddio a Fformiwla Dyrannu, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Bod pob adran wedi cael cyfarwyddyd i ganfod eu cyfran hwy i gyfarch y swm o £2m pe byddai angen darganfod swm o’r fath.  Lle’r Pwyllgor Craffu oedd ystyried ai’r cynigion yma fyddai’n cael yr ardrawiad lleiaf, ynteu rhywbeth arall.  Os oedd yn meddwl bod y cynigion gerbron yn cael ardrawiad gormodol, yna ei rôl oedd darganfod cynigion o fewn y maes Addysg gydag ardrawiad llai.  Fel roedd y Pennaeth Addysg wedi egluro, byddai unrhyw gynigion eraill yn cael hyd yn oed mwy o ardrawiad ar blant y sir.

·         Bod raid i’r Cyngor sefydlu cyllideb gytbwys, ac wrth i’r aelodau gytuno i godi’r Dreth Gyngor ym mis Mawrth fyddai’r cyfle i bwyso a mesur y cynnydd yn y Dreth Gyngor er mwyn osgoi gorfod gweithredu ar elfennau o’r arbedion.

 

Nododd aelod fod y Cyngor yn y sefyllfa sydd ohoni oherwydd amharodrwydd Llywodraeth Cymru i basio arian digonol ymlaen.  Paratoi ar gyfer toriadau posib’ oedd hyn ac ni allai’r Cyngor symud yn ei flaen heb wneud y paratoi yma.  Byddai gwrthod y cynigion hyn, heb gynnig unrhyw awgrymiadau gwell, yn golygu bod y pwyllgor yn ymddwyn yn anghyfrifol.  Yn wyneb hynny, cynigiodd yr argymhelliad ar ddiwedd yr adroddiad, sef:-

 

(a)  Cymeradwyo cynigion yr adrannau i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol.

(b)  Cymeradwyo cynllun amgen gan yr Adran Addysg a argymhellir i ddisodli dau gynllun hanesyddol sydd ganddynt nad oes modd iddynt eu gwireddu.

 

Gan na eiliwyd y cynnig, cynigiodd aelod arall na ddylid cymeradwyo’r toriadau ac y dylid gofyn i’r Adran Addysg ail-edrych ar y data yn fwy manwl.

 

Ni eiliwyd y cynnig. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai ail-edrych ar y data er mwyn gweld beth arall sy’n bosib’ yn golygu galw cyfarfod arbennig o’r pwyllgor craffu, ond fel roedd y Pennaeth Addysg wedi egluro, roedd y dewisiadau eraill yn mynd i gael hyd yn oed mwy o ardrawiad.

 

Cynigiodd aelod y dylid galw cyfarfod arbennig o’r pwyllgor a gofyn i’r Adran Addysg ddod â chynlluniau amgen gerbron.  Eiliwyd y cynnig.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg y byddai’n rhaid i unrhyw gynllun amgen ddod o’r ysgolion beth bynnag.  Pwysleisiodd y Prif Weithredwr drachefn ei bod yn iawn i gael y drafodaeth, ond bod yr Aelod Cabinet wedi dod â’r cynigion fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad gerbron, ac y byddai’r dewisiadau eraill i gyd yn waeth, e.e. cau ysgolion, dileu cludiant ôl-16, ayb.

 

Eiliwyd y cynnig i dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gyda chalon drom iawn, gan dderbyn bod yr Adran wedi ceisio canfod y dewisiadau sy’n lleihau’r effaith ar blant Gwynedd gymaint â phosib’.  Mawr obeithid na fyddai’n rhaid gwneud yr arbedion hyn, ond cydnabyddid bod angen rhoi trefn mewn lle rhag ofn.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig, ond fe ddisgynnodd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r sylwadau cryf sydd wedi’u gwneud a bod hynny yn mynd ymlaen i’r Cabinet.  Fe gariodd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Derbyn mai cynigion yr Adran Economi a Chymuned i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol yw’r rhai sydd yn cael ardrawiad lleiaf ar drigolion Gwynedd.

(b)       Nodi’r adroddiad ar gynigion yr Adran Addysg ac Ysgolion i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol, a’r sylwadau cryf sydd wedi’u gwneud, a chyfleu hynny i’r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: