Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon, LL55 2NF
I ystyried y cais
Cofnod:
Sustainable Weigh, 13 Y Maes,
Caernarfon
Ar ran yr eiddo: Mr Daniel John Hunt (ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Sustainable Weigh, 13 Y Maes, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas
â gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo.
Ni fydd alcohol yn cael ei yfed
ar yr eiddo.
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded
Nodwyd bod sylw wedi ei
dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu
i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar
yr eiddo a chyflwyno Cynllun Her 25 ynghyd a sylw gan y Gwasanaeth Tân yn nodi nad
oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ar y sail y bod y perchennog yn sicrhau golau
argyfwng allanfa yn gweithio, bod y system larwm tân yn
weithredol ac wedi ei wasanaethau, a bod y diffoddyddion tân wedi ei gwasanaethu
ac yn gyfredol.
Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r
cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng
·
Bod 3
camera wedi ei gosod ar y safle
·
Cadarnhaodd
nad oedd alcohol i’w yfed ar y safle
c)
Yn manteisio ar ei hawl
i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu
wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu
cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais
dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y
partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu,
yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a
chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau
yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr
amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal
trosedd ac anhrefn
ii.
Atal
niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau
diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod
plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
Derbyniwyd nad oedd
yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais ond yn
argymell amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng a chyflwyno Cynllun Her 25. Yn nhyb yr
Is-bwyllgor roedd yr amodau hyn
yn rai rhesymol a chymeserol ac yn gam rhyngweithiol tuag at hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn a gwarchod plant rhag newid. Roedd yr
ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod
yn cytuno â’r sylwadau.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd,
gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn gydnaws
â’r amcanion trwyddedu
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i
bawb oedd yn bresennol.
Dogfennau ategol: