Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen, Caernarfon, LL55 2PF
I ystyried y cais
Cofnod:
1.
Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen,
Caernarfon
Ar ran yr eiddo: Mr
Stephen Greig (Rheolwr Gorsaf Caernarfon)
Eraill a wahoddwyd: Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gorsaf
Rheilffordd Caernarfon, Ffestiniog
a Rheilffordd Ucheldir Cymru, Ffordd Santes
Helen, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn
perthynas ag adeilad aml-ddefnydd sydd yn cynnwys
siop, swyddfa docynnau ar gyfer
y rheilffordd a chaffi. Y bwriad yw gwerthu
alcohol ar ac oddi ar yr eiddo,
dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw ac wedi ei
recordio, perfformiadau
dawns ac adloniant tebyg.
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded.
Nodwyd
bod sylw wedi ei dderbyn gan
Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu
cynnwys amod i’r ymgeisydd osod
system Teledu Cylch Cyfyng ar yr
eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu
a’r Awdurdod Lleol’ yn adrannau
A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir
at ‘amseroedd ansafonol’.
Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r
cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded.
·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod
bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng
·
Mai ar
gyfer digwyddiadau arbennig (ee teithiau trenau Y Nadolig, swper gwirfoddolwyr)
fyddai amseroedd ansafonol
·
Ei fod
yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu
c) Yn manteisio ar ei
hawl i siarad,
amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu
wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu
cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud
a gosod teledu cylch cyfyng ar
yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r
Awdurdod Lleol’ yn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr
amodau hyn ar y drwydded
d) Ymneilltuodd yr
ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
dd) Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y
partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu,
yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a
chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau
yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr
amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal
trosedd ac anhrefn
ii.
Atal
niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau
diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod
plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
a)
Derbyniwyd nad oedd
yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais ond yn
argymell amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng. Yn
nhyb yr Is-bwyllgor roedd yr amodau hyn yn rai rhesymol
a chymesurol ac yn gam rhyngweithiol tuag at hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn. Roedd yr ymgeisydd
wedi cadarnhau ei fod yn
cytuno â’r sylwadau.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd,
gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth yr Heddlu yn gydnaws â’r amcanion
trwyddedu.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i
bawb oedd yn bresennol.
Dogfennau ategol: