(a)
Cyflwyno adroddiad Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig.
(b)
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr a Hafan Pwllheli.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a’r Rheolwr
Harbwr yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor ar faterion yr harbwr am y cyfnod
Mawrth 2019 – Hydref 2019. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod archwiliad manwl o gymhorthion
mordwyo Pwllheli gan arolygwyr Awdurdod Goleudy Tŷ’r
Drindod yn cael ei gynnal Hydref 2019 – nid oedd y swyddogion yn rhagweld
problemau
·
Bod datblygiadau megis
gorsaf dywydd newydd, gwe gamerâu ac
uwchraddio band eang yn gwella mynediad at wybodaeth amserol i gwsmeriaid
·
Bod y cwmnïau Parcio a
Lansio yn lansio nifer o gychod heb iddynt fod yn
arddangos sticeri cofrestru PW a PC priodol. Cynigiwyd i gynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol drafod gyda’r
cwmnïau a’u hannog i gofrestru
·
Bod cwsmeriaid yr Hafan
a’r Harbwr wedi croesawu’r cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer tanwydd disel
coch. Er hynny, yn dilyn ymgynghoriad a gweithrediad Llys Cyfiawnder yr Undeb
Ewropeaidd ar danwydd disel a ddefnyddir mewn cychod pleser preifat a’r
penderfyniad na all y DU gyflenwi Disel
Coch, bydd bosib angen i’r Hafan gyflawni cyflenwad disel gwyn yn unig at y
dyfodol. Pe bydd unrhyw newid yn digwydd yna fe fydd y swyddogion yn hysbysebu
defnyddwyr ar unwaith.
·
Bod
gwaith cynnal a chadw Cei’r Gogledd
wedi mynd yn anoddach dros
y blynyddoedd diwethaf gyda diffyg adnoddau,
arian a staff i wneud y gwaith
angenrheidiol. Erfyniwyd
ar swyddogion i roi sylw
priodol i’r ardal a chynnal trafodaethau gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau am y gwaith cynnal a chadw
·
Cyfeiriwyd at grynodeb
bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at
ddiwedd Medi 2019.
·
Argymell codi 2% ar
ffioedd Hafan Pwllheli a’r Harbwr Allanol yn 2020. Derbyniwyd yr argymhelliad.
·
Argymell codi ffioedd
lansio dyddiol o £10 i £15. Amlygwyd nad
oedd y ffioedd lansio wedi cynyddu ers dros 18 mlynedd ac y byddai’r cynnydd
yma yn hwb i godi incwm. Ategwyd na fyddai unrhyw addasiad i’r ffioedd eraill. Derbyniwyd yr argymhelliad gyda chais i’r
swyddogion annog defnyddwyr i gofrestru a defnyddio’r gwasanaeth
·
Nifer cychod sydd yn cael
eu storio ar y lan
ers rhai blynyddoedd yn ychwanegu at y broblem o storio cychod. Awgrymwyd adolygu’r sefyllfa gan ystyried
codi rhent yn ddibynnol ar
y cyfnod ‘aros ar y lan’
·
Bod system gyfrifo’r Hafan
bellach wedi ei ganoli yn adran Incwm Cyngor Gwynedd Caernarfon. O ganlyniad,
adroddwyd bod modd diddymu’r tal ychwanegol o 5% am gost angorfa flynyddol yn
yr Hafan drwy daliadau ddebyd uniongyrchol
·
Bod
gwaith ar orsaf cychod newydd
yr RNLI bellach wedi dechrau. Adroddwyd
mai Wynne Construction sydd
yn gyfrifol am y datblygiad. Ategwyd y byddai hwn yn
atyniad newydd a chyffrous i’r ardal.
·
Digwyddiad y British Dragon Association ynghyd a’r Jester Challenge wedi bod yn
llwyddiannus.
·
Cafwyd diweddariad ar ddigwyddiadau Plas Heli lle
adroddwyd bod 1060 o gystadleuwyr
wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau,
8 prif gystadleuaeth wedi ei cynnal,
31 aelod ifanc yn aelodau o’r
Gymdeithas Hwylio (4 o’r rhain yn
cynrychioli Cymru). Cynhaliwyd 8 priodas ac
18 angladd / te angladd; rhwng 3 a 5 cyfarfod yn cael
ei gynnal yn wythnosol gan
wahanol gymdeithasau; 27 aelod o staff yn gweithio yno ar
amseroedd prysur. Cytunwyd bod Plas Heli yn sicr
yn hwb i’r
economi leol. Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli
bod gwaith tirlunio ym maes parcio’r lan môr
a’r cei ynghyd
â gwella’r draeniad wedi ei gwblhau
ac y byddai 3 polyn fflag yn cael
ei symud i fynedfa Plas
Heli i wella’r
lliw. Awgrymwyd
bod angen mwy o arwyddion i gyfeirio
ymwelwyr / trigolion at y caffi.
PENDERFYNWYD nodi a
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: