skip to main content

Agenda item

(a)       Cyflwyno adroddiad Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

(b)       Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr a Hafan Pwllheli.

 

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a’r Rheolwr Harbwr yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor ar faterion yr harbwr am y cyfnod Mawrth 2019 – Hydref 2019. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod archwiliad manwl o gymhorthion mordwyo Pwllheli gan arolygwyr Awdurdod Goleudy Tŷ’r Drindod yn cael ei gynnal Hydref 2019 – nid oedd y swyddogion yn rhagweld problemau

·         Bod datblygiadau megis gorsaf dywydd newydd, gwe gamerâu  ac uwchraddio band eang yn gwella mynediad at wybodaeth amserol i gwsmeriaid

·         Bod y cwmnïau Parcio a Lansio yn lansio nifer o gychod heb iddynt fod yn arddangos sticeri cofrestru PW a PC priodol. Cynigiwyd i gynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol drafod gyda’r cwmnïau a’u hannog i gofrestru

·         Bod cwsmeriaid yr Hafan a’r Harbwr wedi croesawu’r cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer tanwydd disel coch. Er hynny, yn dilyn ymgynghoriad a gweithrediad Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ar danwydd disel a ddefnyddir mewn cychod pleser preifat a’r penderfyniad na all y DU  gyflenwi Disel Coch, bydd bosib angen i’r Hafan gyflawni cyflenwad disel gwyn yn unig at y dyfodol. Pe bydd unrhyw newid yn digwydd yna fe fydd y swyddogion yn hysbysebu defnyddwyr ar unwaith.

·         Bod gwaith cynnal a chadw Cei’r Gogledd wedi mynd yn anoddach dros y blynyddoedd diwethaf gyda diffyg adnoddau, arian a staff i wneud y gwaith angenrheidiol. Erfyniwyd ar swyddogion i roi sylw priodol i’r ardal a chynnal trafodaethau gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau am y gwaith cynnal a chadw

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019.

·         Argymell codi 2% ar ffioedd Hafan Pwllheli a’r Harbwr Allanol yn 2020. Derbyniwyd yr argymhelliad.

·         Argymell codi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15.  Amlygwyd nad oedd y ffioedd lansio wedi cynyddu ers dros 18 mlynedd ac y byddai’r cynnydd yma yn hwb i godi incwm. Ategwyd na fyddai unrhyw addasiad i’r ffioedd eraill. Derbyniwyd yr argymhelliad gyda chais i’r swyddogion annog defnyddwyr i gofrestru a defnyddio’r gwasanaeth

·         Nifer cychod sydd yn cael eu storio ar y lan ers rhai blynyddoedd yn ychwanegu at y broblem o storio cychod. Awgrymwyd adolygu’r sefyllfa gan ystyried codi rhent yn ddibynnol ar y cyfnodaros ar y lan

·         Bod system gyfrifo’r Hafan bellach wedi ei ganoli yn adran Incwm Cyngor Gwynedd Caernarfon. O ganlyniad, adroddwyd bod modd diddymu’r tal ychwanegol o 5% am gost angorfa flynyddol yn yr Hafan drwy daliadau ddebyd uniongyrchol

·         Bod gwaith ar orsaf cychod newydd yr RNLI bellach wedi dechrau. Adroddwyd mai Wynne Construction sydd yn gyfrifol am y datblygiad. Ategwyd y byddai hwn yn atyniad newydd a chyffrous i’r ardal.

·         Digwyddiad y British Dragon Association ynghyd a’r Jester Challenge wedi bod yn llwyddiannus.

·         Cafwyd diweddariad ar ddigwyddiadau Plas Heli lle adroddwyd bod 1060 o gystadleuwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau, 8 prif gystadleuaeth wedi ei cynnal, 31 aelod ifanc yn aelodau o’r Gymdeithas Hwylio (4 o’r rhain yn cynrychioli Cymru). Cynhaliwyd  8 priodas ac 18 angladd / te angladd; rhwng 3 a 5 cyfarfod yn cael ei gynnal yn wythnosol gan wahanol gymdeithasau; 27 aelod o staff yn gweithio yno ar amseroedd prysur. Cytunwyd bod Plas Heli yn sicr yn hwb i’r economi leol. Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli bod gwaith tirlunio ym maes parcio’r lan môr a’r cei ynghyd â gwella’r draeniad wedi ei gwblhau ac y byddai 3 polyn fflag yn cael ei symud i fynedfa Plas Heli i wella’r lliw. Awgrymwyd bod angen mwy o arwyddion i gyfeirio ymwelwyr / trigolion at y caffi.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: