Agenda item

·         Bysiau - diweddariad

·         Tocynnau Mantais

·         Trafnidiaeth Addysg

·         Adolygiadau Trafnidiaeth Cyhoeddus

 

(ynghlwm)

 

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Prys Jones a Peter Daniels

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r problemau sydd wedi codi o ran y drefn ail ddyrannu tocynnau teithio mantais am ddim sydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Mynegwyd fod y wefan er mwyn ail gofrestru wedi cwympo a phwysleisiwyd fod angen gwneud rhywbeth dros y Gogledd. Er hyn, nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd mwy o adnoddau i gynorthwyo’r cynghorau ac y bydd y wefan yn ôl ar lein cyn diwedd yr wythnos. Pwysleisiwyd fod llawer o effaith wedi bod ar y cynghorau.

 

Pwysleisiwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd newid i’r oedran y bydd pobl yn gallu ymgeisio am y Tocynnau Teithio Mantais am ddim ac o ganlyniad fod nifer uwch o bobl wedi ymgeisio cyn i’r oedran newid. Mynegwyd fod problemau wedi codi ar lein ac yn nad yw pawb yn ymwybodol o’r newid. Nodwyd fod y sefyllfa yn un anodd gan fod Trefniadaeth i Gymru ar-lein a bod ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio at eu cynghorau lleol er mwyn cael cymorth i fynd ar-lein. Gan fod y wefan wedi cwympo mae ffurflenni papur ar gael dros dro. Mynegwyd fod gan y cynghorau capasiti i gynorthwyo i raddau o ran os wedi colli eu tocynnau neu ag anableddau ond fod ail ymgeisio am y tocynnau a niferoedd llawer uwch. Nodwyd sut mae gwahanol awdurdodau wedi delio a’r mater.

 

Pwysleisiwyd fod y mater hwn yn un sydd yn datblygu, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd adnoddau ychwanegol yn cael ei gynnig dros dro. Nodwyd y bydd yr Is-grŵp yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn nodi fod pryder am y mater yn y tymor hir o ran tocynnau teithio. Penderfynwyd fod angen holi Llywodraeth Cymru am gynllun tymor hir a beth fydd effaith hyn ar Lywodraeth Leol, os bydd popeth yn ei le erbyn amser diwedd mis Rhagfyr ac os yw’r ddeddf cydraddoldeb wedi ei ystyried.

 

Newidiadau i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Nodwyd ym mis Ionawr y bydd ofyniad Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael ei ymestyn i bob coets sydd yn codi pryderon gan nad oes gan lawer o goets fynediad i gadeiriau olwyn. Holwyd os bydd yn effeithio trafnidiaeth ysgolion a nodwyd na fydd oni bai fod awdurdodau yn codi ffi am gael trafnidiaeth. Mynegwyd fod pob awdurdod am gael ei daro efallai ddim yn ariannol ond yn wleidyddol.

 

Mynegwyd mai’r prif fater yw nad oes digon o gerbydau ar gael  gyda’r mynediad fydd ei angen. Nodwyd beth oedd rhai awdurdodau yn ei wneud ond pwysleisiwyd y bydd yn codi problemau. Esboniwyd i raddau fod dau opsiwn i dalu am gerbydau newydd neu i beidio codi ffi ond mynegwyd fod effaith os yn gwneud yr ail elfen. Trafodwyd efallai yn ei fod yn syniad i anfon llythyr ar y Gweinidog i gael cyfnod trosiannol er mwyn rhoi cyfle i’r awdurdodau i weithio ac i weld sut mae am effeithio rhai ysgolion sydd â chytundebau preifat. Pwysleisiwyd y bydd mwy o effaith ar ardaloedd gwledig felly bydd angen gwneud asesiad effaith ar ddisgyblion.

 

Nodwyd y bydd modd cyfuno'r ddau fater - Newidiadau i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus a’r Tocynnau Teithio Manteisio am ddim i un llythyr i Lywodraeth Cymru.

 

Adolygiad o’r Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol

 

Mynegwyd fod angen adnodd ychwanegol i edrych ymhellach i mewn i hyn a bod briff wedi ei greu ac y bydd yn cael ei anfon allan yn yr wythnosau nesaf. Ychwanegwyd y bydd yr adolygiad yn cael ei ariannu gan arian Lywodraeth Cymru ar gyfer Cydlynu Bysiau yn Rhanbarthol. Pwysleisiwyd gobeithio y bydd modd i’r adolygiad  weld os oes datrysiadau i’r problemau sydd i’w gweld yn y rhanbarth.

 

Tynnwyd sylw ar y Papur Gwyn Trafnidiaeth gan nodi ei fod yn canolbwyntio ar reoli rhwydwaith bysiau. Ychwanegwyd y bydd angen edrych ymhellach i’r Papur Gwyned newydd sydd yn fod i’w gyflwyno ym mis Hydref.

 

Dogfennau ategol: