Agenda item

I ystyried cais gan Mr C

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Yn  1976 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon  Nant Conwy am feddu arf bygythiol mewn man cyhoeddus ac am achosi gwir newid corfforol yn groes i Ddeddf Atal Trosedd 1953 a Deddf Troseddau yn erbyn y Person 186.  Yn Mehefin 1978, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon a Gwyrfai am gyfres o gollfarnau - gwir niwed corfforol, gwrthod ymadael ag adeilad trwyddedig a dau gyfrif o ddifrod troseddol. Derbyniodd ddirwyon o £80 a thalu iawndal o £9. Yn Hydref 1985 cafodd yr ymgeisydd yn euog ar ddau gyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes i’r Ddeddf Difrod Troseddol 1971 - derbyniodd ddirwy o £75 a gorchymyn i dalu iawndal o £54.07. Yn Rhagfyr 1987 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am ddau drosedd o rwystro’r Heddlu yn groes i Ddeddf Heddlu 1964 a dirfod troseddol. Derbyniodd ddirwy o £75, gorchymyn i dalu costau o £15 a dirwy o £26.45. Yn Nhachwedd 2005 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd ar ddau achos o yrru cerbyd heb yswiriant a gyrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol sydd yn groes i Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988.Cafodd ddirwy o £100, derbyn pwyntiau ar ei drwydded gyrru a gwaharddiad rhag gyrru am 56 diwrnod.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974       (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae adran 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.  Fe nodir ym mharagraffau 6.3 - 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru troseddau ac mae ymosodiad cyffredin, meddu ar arf a difrod troseddol yn cael ei cynnwys yn y rhestr. Nodi’r ym mharagraff 6.6 y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

 

Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am  3 blynedd o leiaf.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod nifer o’r troseddau yn ymwneud a throseddau o drais, fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi digwydd yn 1987, dros 31 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff 6.6 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod y drosedd oedd yn ymwneud ag yfed a gyrru hefyd yn un hanesyddol, ynghyd a’r gwaharddiad am yrru. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi digwydd yn 2005, dros 13 mlynedd yn ôl, nid oedd paragraff 11.1 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd