I ystyried cais gan Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod
DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
Yn 1978 ac Ebrill 1979 derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarnau gan Lys Ynadon Caernarfon am ddwyn o siop yn groes i Adran 1 Ddeddf
Lladrata 1968. Yn Ionawr 1982, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon am
ddwy drosedd o gyflawni a meddu cyffuriau rheoledig, yn groes i Ddeddf
Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Derbyniodd ddirwy o £70 a gorchymyn i dalu costau
o £3. Yn ddiweddarach yn Awst 1984 derbyniodd gollfarn arall am feddu cyffuriau
rheoledig lle derbyniodd dirwy o £50. Ym Mawrth 1985 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog o drin eiddo wedi ei ddwyn yn groes i Ddeddf Lladrata 1968 (cafodd
orchymyn i wneud 240 awr o wasanaeth cymunedol). Yn 1986 derbyniodd yr
ymgeisydd gollfarn am feddu cyffuriau rheoledig a chafodd ddedfryd o garchar am
28 diwrnod. Yn Nhachwedd 1997 derbyniodd gollfarnau am feddu cyffuriau
rheoledig. Ers Tachwedd 1997 nid oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau pellach -
nodwyd bod ganddo drwydded yrru lan.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae
paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
bwrgleriaeth a lladrata.
Ystyriwyd paragraff
9.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau sydd yn ymwneud a chyffuriau gyda
chymal 9.1 o’r polisi yn nodi bod unrhyw drosedd sydd yn ymwneud a chyffuriau
yn fater difrifol. Mae paragraff 9.2 yn nodi y byddai cais yn cael ei wrthod os
bydd gan yr ymgeisydd gollfarn sy’n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau, a bod y
gollfarn yn llai na 5 mlynedd o leiaf.
Nodir paragraff 9.3 y bydd cais yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn sy’n gysylltiedig â bod a chyffuriau yn eu meddiant, a bod y
gollfarn yn llai na 5 mlynedd o leiaf.
Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod y troseddau yn ymwneud a
throseddau o anonestrwydd. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd yn 1985, dros 34 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff
8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
Roedd y troseddau
oedd yn ymwneud a chyffuriau hefyd yn rai hanesyddol, y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd yn 1997 (dros 22 mlynedd yn ôl) – tu hwnt i ‘r cyfnod 5 mlynedd, nid
oedd paragraffau 9.1, 9.2 a 9.3 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y
cais.
Roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.