Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygwyd bod y drosedd wedi digwydd ers i’r ymgeisydd fod yn ei arddegau. Ategywd bod yr ymgeisydd wedi bod yn gweithio yn y maes gofal ers dros 12 mlynedd a bellach eisiau newid cyfeiriad.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Yn Chwefror 2005 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn ar un cyhuddiad o fwrgleriaeth a dwyn o eiddo preswyl, yn groes i Adran 9(1) Ddeddf Lladrata 1968. Cafodd orchymyn goruchwyliaeth am 18mis. Yn ddiweddarach yn Mai 2005, derbyniodd ddwy gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn am ddwyn gan berson, eto, yn groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Ar gyfer y collfarnau cafodd orchymyn goruchwyliaeth, gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Cafodd y ddau orchymyn goruchwyliaeth eu diddymu yn gynnar ar sail ymddygiad da.

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974       (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, bwrgleriaeth a lladrata.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod y troseddau yn ymwneud a throseddau o anonestrwydd. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi digwydd yn 2006, dros 13 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff 8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.