I dderbyn
adroddiad gan, Lowri Joyce Trafnidiaeth Cymru
Cofnod:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Lowri Joyce,
Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei hun ac adrodd ar weithgareddau Trafnidiaeth
Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod:
o Ei bod wedi ei phenio i Drafnidiaeth Cymru yn
Ebrill 2019, wedi blynyddoedd o weithio yn y diwydiant Niwclear.
o
Fod llwybr wedi ei ailagor er mwyn galluogi trenau i
deithio o Wrecsam i Lerpwl yn uniongyrchol.
o
Fod Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar gynyddu capasiti, gan gynnwys dychwelyd trenau yn cael eu tynnu gan
injan.
o
Fod cynllun ‘delay repay’ wedi dechrau oedd yn ad-dalu tocynnau os oedd trên
15 munud neu fwy yn hwyr.
o
Fod bwriad i weithio’n agos gyda chymunedau er mwyn
gwella cydweithio cymunedol ac annog trigolion i helpu.
o
Fod perfformiad bellach yn cael ei fesur yn wahanol, ac
yn fwy manwl.
o
Fod 120 o swyddi newydd bellach, gyda chynrychiolaeth
gref o’r Gogledd fyddai’n eirioli er mwyn
gwella’r ddarpariaeth.
o
Eu bod wedi dysgu o brofiad defnyddwyr gyda’r newid yn y
tocynnau teithio am ddim. Ni fyddai unrhyw deithiwr yn cael eu troi ymaith wedi
i’r tocynnau newydd ddod yn weithredol felly nid oed angen i ddeiliaid
trwyddedau bryderu.
o
Fod gwaith da wedi ei wneud mewn partneriaeth gyda’r
Cyngor wrth fynd i lyfrgelloedd er mwyn cynorthwyo trigolion gyda cheisiadau am
docyn newydd.
o
‘Roedd
cynllun gwerth £195 miliwn wedi ei
lansio er mwyn rhoi gwell
profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gosod CCTV, cysylltedd diwifr, cysgodfan a man cadw beic ym mhob
gorsaf.
o
Byddai’r cynllun yn dechrau yng ngorsafoedd
Machynlleth a Chyffordd Dyfi ar Reilffordd
y Cambrian, gyda gorsaf Machynlleth hefyd yn dod yn orsaf beilot
fel gorsaf dementia cyfeillgar.
o
Fod bwriad i edrych ar adeiladau segur er mwyn annog eu
defnyddio.
Cwestiynau a sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
o
Pan fo bysus yn cymryd lle trenau, fod bws rhy fach wedi
cael ei ddarparu, gan olygu fod teithwyr yn cael eu gadael ar ôl, yn enwedig
rhai gyda beiciau a chadeiriau olwyn.
o
Fod darparu digon o le ar gyfer beiciau
yn bwysig gan fod galw
amlwg am y ddarpariaeth ar drenau Rheilffordd
Arfordir y Cambrian. Y gobaith
oedd y byddai’r lle angenrheidiol wedi ei ddarparu
ar y cerbydau newydd fyddai’n cael eu darparu.
Mewn ymateb nododd Lowri Joyce
fod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o broblemau gyda’r bysus, a byddai ymdrech
yn cael ei wneud er mwyn lleddfu’r problemau i’r dyfodol.
o
Nodwyd bod dim digon o amser
er mwyn trosglwyddo
o’r trên i fws er
mwyn parhau a thaith ar brydiau,
yn ogystal â thyllau yn y ddarpariaeth
mewn mannau eraill.
Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod ymdrech yn cael
ei wneud er mwyn integreiddio’r
gwasanaethau cludiant yn well, a bod croeso i fudd-ddeiliaid i gysylltu â hi gyda phroblemau.
o Tra bod glanhau
gorsafoedd yn cael ei groesawu, pam fod cwmni tramor wedi ei gytundebu i wneud
y gwaith?
Mewn ymateb nodwyd mai cwmni Cymreig oedd wedi
ennill y cytundeb, ond nad oedd gwybodaeth am unrhyw is-gontractau na
threfniadau staffio i law.
Diolchwyd am yr adroddiad.