Darparu 38 uned breswyl (gan
gynnwys cymysg o unedau farchnad agored ac unedau fforddiadwy), mannau parcio a
mynedfa.
AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Mair Rowlands a
Catrin Wager
Cofnod:
Darparu 38 uned breswyl (gan gynnwys cymysg o unedau
farchnad agored ac unedau fforddiadwy), mannau parcio a mynedfa.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle
yn llecyn o dir diffaith gyferbyn â Ffordd Farrar a Ffordd Deiniol yn Ninas
Bangor. Tynnodd sylw bod caniatâd cynllunio gweithredol ar y safle ar gyfer 49
uned 1 a 2 llofft, a ganiatawyd ar apêl.
Amlygodd bod egwyddorion dylunio’r adeilad arfaethedig yn dilyn yr
egwyddorion hynny a drafodwyd gan yr Arolygydd Cynllunio ar yr apêl.
Arddangoswyd cynlluniau o ran y caniatâd cynllunio gweithredol a’r cais
gerbron. Nododd bod cynlluniau’r cais gerbron yn welliant o ran dyluniad, gyda
lleihad o 11 uned a bod ffurf ac uchder yr adeilad yn weddol debyg, felly ni
fyddai’n golygu effaith gwahanol ar gymdogion. Cydnabodd bod rhai pryderon yn
lleol am raddfa a deunyddiau'r datblygiad, ond ni ystyriwyd y byddai'r rhain yn
amhriodol o fewn cyd-destun trefol y safle. Cyfeiriodd at benderfyniad diweddar
i ganiatáu apêl cyn safle Jewson ym Mangor lle'r oedd cydnabyddiaeth oherwydd
bod safle o fewn canol dinas bod ychydig o or-edrych cymunedol yn deillio o
ddatblygiad o’r fath. Nododd y ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol a ni
fyddai’n cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl na chyffredinol
trigolion lleol o ystyried nid oedd newid yn y ffurf a’r dwysedd.
Tynnodd sylw nad oedd unrhyw bryderon o ran trafnidiaeth a mynediad.
Ymhelaethodd bod 38 man parcio yn rhan o’r bwriad a bod y safle, oherwydd ei
leoliad yng Nghanol Dinas Bangor, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus ac
yn agos at gyfleusterau.
Nododd bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG), fel rhan o’r cais, wedi
cyflwyno Datganiad Tai Fforddiadwy a Datganiad Cymysgedd Tai. Nododd bod y
wybodaeth yn y dogfennau yma yn gyson gyda’r angen a oedd wedi ei adnabod gan
yr Uned Strategol Tai. Eglurodd bod y datblygiad wedi ei gynnwys i dderbyn
Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Ymhelaethodd y byddai’r bwriad yn
darparu 23 uned 2 lofft a 15 uned 1 llofft gyda 9 ohonynt yn rai rhent
cymdeithasol, 17 yn rhai rhent canolig a 12 yn rhai rhent marchnad agored.
Ymhelaethodd y cyflwynwyd Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol gyda’r cais,
er nad oedd yn ofynnol. Eglurodd ers cofrestru’r cais y mabwysiadwyd y Canllaw
Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. Nododd y
derbyniwyd datganiad pellach a oedd yn cyd-fynd gyda gofynion y Canllaw Cynllunio
Atodol. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau'r Uned Iaith ar y datganiad a oedd yn
cydnabod ei fod yn ddatganiad trylwyr, mai CCG a fyddai’n rheoli’r safle ac fe
fyddai’r effaith ar yr iaith Gymraeg yn niwtral gyda’r bwriad yn cyfarch angen
lleol.
Nododd nid oedd cyfraniad addysgol yn ofynnol, ond bod gofyn i’r
ymgeisydd roi cyfraniad o £8525.39 ar gyfer darpariaeth llecynnau agored er
mwyn gwella, cynnal neu greu mannau chwarae addas oddi ar y safle.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod caniatâd cynllunio
actif yn bodoli ar gyfer y safle a byddai’r bwriad gerbron yn golygu lleihad o
11 uned;
·
Bod dyluniad yr unedau
yn cyrraedd gofynion tai fforddiadwy;
·
Darperir 38 man parcio
fel rhan o’r datblygiad;
·
Byddai’r bwriad yn
cyfarch yr angen lleol am unedau fforddiadwy, gyda 68% o’r unedau yn rhai
fforddiadwy;
·
Bod y safle yn segur ers
10 mlynedd yn dilyn dymchwel y cyn adeilad a byddai’r datblygiad yn gwella’r
safle;
·
Bod yr ymgeisydd wedi
cydweithio gyda’r Uned Strategol Tai a byddai’r bwriad yn cyfarch angen lleol;
·
Yn unol â’r polisi gosod
rhoddir blaenoriaethau ychwanegol i rai gyda chysylltiad lleol;
·
Byddai’r bwriad yn
darparu unedau modern yng nghanol y Ddinas.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei bod yn siarad yn
ogystal ar ran y Cynghorydd Catrin Wager a thrigolion lleol;
·
Yn falch bod y safle yn
cael ei ddatblygu;
·
Fe fyddai’r unedau 1 a 2
ystafell wely yn gymysg o ran rhent gan obeithio diwallu angen lleol;
·
Pryder bod y dyluniad
ddim yn gweddu i’r ardal o ran ei uchder ac ymddangosiad;
·
Darperir 38 man parcio
fel rhan o’r datblygiad ond efallai nad oedd y ddarpariaeth yn ddigonol o
ystyried ceir ymwelwyr;
·
Byddai’n rhaid colli
mannau parcio ar Ffordd Farrar wrth osod llinellau melyn wrth ymyl y storfa
biniau;
·
Byddai gor-edrych,
cysgodi a cholli golau yn deillio o’r datblygiad;
·
Y prif bryder yn lleol
oedd y cynnydd mewn traffig. Byddai’r mynediad i’r safle yn creu effaith gydag
anhawster eisoes gyda 2 ffrwd traffig yn uno i Ffordd Deiniol. Gallai ychwanegu
at lif traffig cylchfan ASDA a oedd yn brysur a pheryg ar rai adegau;
·
Nid oedd trigolion lleol
wedi teithio i Bwllheli ar gyfer y cyfarfod oherwydd eu bod yn ddibynnol ar
gludiant cyhoeddus;
·
Er nid yn faterion
cynllunio roedd angen nodi materion o ran wal gynnal ac effaith datblygu’r
safle ar dai cyfagos, gyda rhai perchnogion wedi talu am wneud gwaith yn dilyn
difrod a oedd yn deillio o ddymchwel y cyn adeilad;
·
Bod y safle yn un
strategol bwysig a fyddai’n darparu unedau fforddiadwy;
·
Ei bod yn gefnogol i’r
cais ond bod angen rhoi ystyriaeth lawn i’r pryderon lleol;
·
Fe ddylai’r Pwyllgor
ystyried cynnal ymweliad safle yn enwedig er mwyn gweld y sefyllfa traffig.
(ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nid oedd yr Uned
Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad ac roedd y datblygiad yn welliant i’r
cynllun a ganiatawyd ar apêl;
·
Ddim yn fodlon gyda
dyluniad, dwysedd a graddfa’r datblygiad ond roedd yn welliant i’r hyn a
ganiatawyd ar apêl o ran dwysedd, wedi ei osod yn ôl ac edrychiad mwy agored
i’r blaen. Yn cydnabod sylwadau’r aelod lleol ac er ddim yn hollol fodlon
gyda’r bwriad yn cefnogi’r cais;
·
Nid oedd y datblygiad yn
unol â pholisi PCYFF5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl),
roedd y dyluniad yn lleihau’r defnydd o egni gan fodloni gofynion PCYFF6 ond
nid oedd yn bodloni gofynion PCYFF5 o ran ynni cynaliadwy. Roedd mesurau
cynaeafu dŵr yn rhan o’r bwriad ond dylid bod modd ymgorffori mwy o
elfennau ynni cynaliadwy yn y datblygiad megis paneli solar;
·
Gellir hysbysu’r
ymgeisydd o ran sylwadau’r aelod o ran ymgorffori mwy o elfennau ynni
cynaliadwy;
·
Bod y cynllun gerbron yn
welliant i’r caniatâd gweithredol ond roedd lleoliad y fynedfa i’r safle yn
beryglus. Roedd y darn yma o’r ffordd yn eithriadol o brysur, gyda cheir yn
croesi a man aros bws ar ochr arall y ffordd, a’i fod yn debygol y byddai ceir
yn pasio’r bysiau wrth iddynt stopio. Yn rhagweld y byddai damweiniau yn
digwydd yn rheolaidd ar y ffordd. Yn deall pe gwrthodir y cais y byddai’r cais
yn cael ei ganiatáu ar apêl;
·
Yn fodlon gydag egwyddor
y datblygiad ond pryder o ran maint a dwysedd y datblygiad ynghyd â materion
trafnidiaeth. Roedd y fynedfa wedi ei leoli yn y man mwyaf perygl. O ystyried y
difrod i adeiladau cyfagos o ganlyniad i ddymchwel y cyn-glwb cymdeithasol, a
fyddai’n bosib gosod amod i sicrhau bod dim difrod i adeiladau cyfagos yn
deillio o’r datblygiad? Annog yr ymgeisydd i gydweithio gyda Menter Iaith
Bangor. A fyddai’n bosib cynnal cyfarfod y Pwyllgor ym Mangor pan yr oedd
ceisiadau mawr yn ardal Bangor gerbron?
·
Bod angen sicrwydd o ran
diogelwch y fynedfa;
·
Bod yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth wedi nodi ei farn broffesiynol am y fynedfa ac
roedd yn dderbyniol;
·
Bod gan Cartrefi
Cymunedol Gwynedd bolisïau o ran cynaliadwyedd. O ran lefelau rhent y fflatiau
cymdeithasol canolradd, yn unol â Pholisi Rhent Canolradd CCG, fyddai’n bosib
derbyn cadarnhad o ran lefelau rhent?
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod caniatâd
am ddatblygiad sylweddol mwy ar y safle yn weithredol ac o ran casgliadau
gwastraff/ail-gylchu, byddai’r lorïau yn gweithredu yn yr un modd a wneir ar
strydoedd eraill gan aros yng nghanol y ffordd am gyfnod. Nid oedd angen gosod
ychwaneg o linellau melyn ond gellir adolygu’r sefyllfa pe fyddai materion yn
codi;
·
Bod y
fynedfa yn dderbyniol gan ei fod yn ffordd unffordd ac nid oedd rhaid croesi yn
groes i’r llif heblaw bod y cerbyd yn mynd i gyfeiriad Ffordd Farrar.
Amcangyfrifir y byddai rhwng 100 - 150 o symudiadau ychwanegol yn deillio o’r
datblygiad o ystyried y miloedd o symudiadau dyddiol yn bresennol;
·
Bod caniatâd
cynllunio gweithredol ar gyfer datblygiad 49 uned a fyddai’n darparu 8 uned fforddiadwy
ar y safle eisoes. Roedd angen cydnabyddedig am unedau fforddiadwy yn yr ardal
a byddai’r bwriad yn darparu unedau cymysg o ran eu math a daliadaeth;
·
Yn deall y
pryderon o ran dyluniad, ond roedd rhaid cadw mewn cof bod maint, dyluniad a
swmp wedi eu gwyntyllu fel rhan o’r apêl a daethpwyd i’r casgliad bod y
dyluniad yn dderbyniol. Roedd dyluniad yr adeilad yn ddyluniad gwell i’r hyn a
ganiatawyd ar apêl;
·
O ran
cynaliadwyedd, gwnaed asesiad cytbwys gan ystyried polisïau PS5, PCYFF5 a
PCYFF6 o’r CDLl. Nid oedd yn bosib i’r bwriad fodloni polisi PCYFF5 yn llawn
oherwydd dwysedd y datblygiad. Mi fyddai’n bosib efallai i ymgorffori paneli
solar i’r datblygiad ond byddai’n golygu newid dyluniad yr adeilad. Roedd y
bwriad yn cyfarch polisi PCYFF6 o ran cadwraeth egni ac yn unol â gofynion
Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDS). Derbyn safbwynt yr aelod ond wrth gymryd i
ystyriaeth y caniatâd cynllunio gweithredol ac ymrwymiad yr ymgeisydd i
bolisïau eraill o ran cynaliadwyedd roedd y bwriad yn dderbyniol;
·
Bod y fynedfa wedi
ei chaniatáu fel rhan o’r caniatâd cynllunio gweithredol ar gyfer 49 uned
ynghyd â chaniatâd yn fwy diweddar i ddefnyddio’r safle fel maes parcio;
·
O ran Polisi Rhent
Canolradd CCG, mai 80% o werth rhent marchnad agored y byddai lefel rhent y
fflatiau cymdeithasol canolradd.
PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad
ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau agored ac i’r amodau isod:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer
yr adeilad i’w cytuno gyda’r ACLL.
4. Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio a’r
fynedfa.
5. Dim uned i’w feddiannu hyd nes bod y system
ddŵr cynaliadwy wedi ei gwblhau ac yn gwbl weithredol.
6. Tirlunio meddal a chaled.
7. Datblygiad i’w gario allan yn unol â
mesurau lliniaru a gyfeiriwyd atynt o fewn yr Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol.
8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00
yn yr wythnos, 08:00 - 13:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl yn ystod y Sul a
Gwyliau Banc.
9. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar
gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle.
10. Sicrhau fod ardal biniau yn cael ei ddarparu
a’i gadw o fewn y safle cyn preswylio’r unedau.
11. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r
unedau fforddiadwy.
12. Amod gwydr afloyw
Dogfennau ategol: