Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran
4.19
o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion
Jones
“Beth yw barn yr Arweinydd
ar wastraffu arian cyhoeddus gydag ymgynghorwyr allanol?”
Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor
(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Arweinydd
i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae’n debyg ein bod i gyd
yn y Siambr yn gallu datgan nad ydym yn awyddus i weld gwastraffu arian
cyhoeddus ym mha bynnag sefyllfa. ‘Rwy’n
credu bod gwaith gennym i gyd i sicrhau bod unrhyw wariant cyhoeddus yn digwydd
yn y ffordd fwyaf priodol a mwyaf effeithlon.
Fel mae’r ateb yn amlinellu mae yna le bob amser i holi a stilio a
chraffu ar wariant y Cyngor ac yn wir dyna ydi gwaith y pwyllgorau craffu a’r
Pwyllgor Archwilio ac mae’r Pwyllgor Archwilio wedi penderfynu gwneud darn o
waith i edrych ar wariant gydag ymgynghorwyr allanol a daw’r adroddiad yna
gerbron yr aelodau maes o law. Nid wyf
yn rhagdybio beth fydd canlyniad y gwaith hwnnw ond ‘rydw i wedi dweud bod yna
le i ni gomisiynu gwaith gan gyrff allanol ac asiantaethau allanol i’n
cynorthwyo yn y broses. Yr enghreifftiau
‘rwy’n meddwl amdanynt yw lle mae’r Cyngor yn ceisio creu newid. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni gael rhywun hyd
braich i fod ynghanol y gwaith hwnnw ac i ni beidio bod yn ddwy ochr y ddadl ar
yr un pryd. Nid yw hynny’n
bosib’. Mae angen cael presenoldeb pobl
annibynnol yn y sefyllfa yna er tegwch i bawb, ac ynghlwm â hynny, wrth gwrs,
mae yna wariant. Gadewch i ni weld beth
fydd ffrwyth gwaith y gweithgor sy’n edrych ar hwn.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“Mae’r Arweinydd yn dweud
yn ei ymateb ysgrifenedig, os nad yw’r sgiliau
arbenigol neu gapasiti angenrheidiol i'w gael o fewn
y Cyngor, y byddwn yn defnyddio ymgynghorwyr allanol. ‘Rwy’n meddwl bod hynny’n
reit sarhaus. Mae gennym 7000 o staff yn
gweithio i Gyngor Gwynedd ac ‘rwy’n credu bod yna sgiliau ffantastig yn y
Cyngor yma i ddelio gyda’r gwaith sydd angen ei wneud gan yr ymgynghorwyr
allanol yma. Ydi’r Arweinydd yn barod i
ymddiheuro am wastraffu arian cyhoeddus?”
Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor
“Nid sarhaus yw cydnabod
nad oes gennym y sgiliau i gyd bob amser.
Onid realiti’r sefyllfa ydi hynny?
Nid ydym i gyd yn arbenigwyr ar bob dim.
Mae yna sefyllfaoedd lle ‘rydym angen cymorth a chyngor arbenigol. Onid y peth cyfrifol i wneud yn y sefyllfa
yna ydi sicrhau ein bod yn cael cyngor priodol annibynnol ac addas. Yn wir, oni bai ein bod yn gwneud hynny, mae
yna le i ni gael ein herio. Byddai
Swyddfa Archwilio Cymru ar ein pennau ac mi fyddai yna sefyllfaoedd lle gallem gael ein herio.
Mae yna fymryn bach o realiti hefyd, sef wrth i ni leihau’r gweithlu,
nid oes gennym y capasiti i wneud pob dim. Mae’n amhosibl. Nid oes yna ddigon o oriau yn y dydd i wneud
pob dim ac mae hynny yn isgynnyrch o wynebu toriadau sy’n golygu ein bod yn
lleihau niferoedd staff. Ar fater
gwariant cyhoeddus, nid wyf o blaid gwastraffu arian, boed hynny ar yr aelwyd
neu unrhyw sefydliad cyhoeddus, a rhaid i ni gadw llygaid barcud. Os ydych eisiau edrych ar wariant cyhoeddus,
a mater i bawb ddod i gasgliad ynglŷn ag effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd y gwariant hwnnw, ewch i wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae nodyn yno o beth mae pob corff cyhoeddus
wedi’i wario ar ymgynghorwyr. Mae
Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau ar ymgynghorwyr. Nid wy’n dweud mai gwastraff arian ydi hynny,
ond tynnu eich sylw at yr angen i gyrff cyhoeddus wario arian y tu allan i’r
corff yna. Nid wy’n mynd i ymddiheuro am
unrhyw beth mae’r Cyngor yn ei wneud o ran gwariant. Gadewch i ni edrych ar yr adroddiad sy’n mynd
i edrych yn fanwl ar wariant ar ymgynghorwyr yn benodol. Gadewch i ni ddod i gasgliadau bryd
hynny. Sut allwn ni ddod i gasgliad
ynglŷn â phatrwm gwariant y Cyngor heb i ni weld y ffeithiau? Mae’n rhyfeddod gen i fod aelod yn gallu
sefyll yn y Siambr a gwneud datganiad fel yna pan mae ef ei hun yn aelod o’r
pwyllgor sydd wedi comisiynu’r gwaith!
Oedd yr aelod yn bresennol yn y pwyllgor pan wnaed y penderfyniad i
gomisiynu’r gwaith? Efallai nad oedd o
ddim - na doedd o ddim! Mae’r Pwyllgor
wedi comisiynu’r gwaith a gadewch i ni weld casgliad y gwaith yna cyn dod i
unrhyw gasgliadau. Mae gwneud unrhyw
beth arall yn wallgofrwydd llwyr, os caf fentro dweud.”