I ystyried cais
gan Ms B
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i
ymhelaethu ar ei chais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y drosedd a’i hamgylchiadau
personol. Amlygodd bod y drosedd wedi digwydd
o ganlyniad i ‘fod yn y lle
anghywir ar yr amser anghywir’.
Nododd bod ei theulu yn rhedeg
cwmni tacsi a'i bod wedi cael
cynnig gwaith i gynorthwyo gyda’r
busnes dros y penwythnosau.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
b) PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
ch) Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd
gan Heddlu Gogledd Cymru (Mehefin 2015) am un drosedd o guro (battery) yn groes i
adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
d) Mae
paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson
sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 yn nodi bod rhybuddion yn cael eu
cynnwys fel ‘materion eraill i’w hystyried’
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run
ai ydynt wedi eu treulio o dan
Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae adran 6 o’r Polisi
yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff
6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig
yn dod
i gysylltiad agos ar cyhoedd
yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau
yn ymwneud a thrais. Ym mharagraff 6.2 nodir y byddai un sydd wedi'i gael
yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol
o gael trwydded hyd nes iddo/i fod yn
rhydd rhag collfarn(au)
o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd
cais am drwydded fel rheol yn
cael ei wrthod
os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin sydd yn llai
na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff
yn rhestru troseddau ac mae
ymosodiad cyffredin yn cael ei
gynnwys yn y rhestr.
dd) Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod trosedd 2015 yn drosedd o drais. Fodd bynnag,
gan fod y drosedd hon wedi digwydd dros 4 mlynedd yn ôl,
sydd tu hwnt
i’r cyfnod 3 mlynedd nid oedd
paragraffau 6.2 a 6.5 yn goroesi, ac felly nid yn sail i wrthod
y cais.
Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod
yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr
cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd.