Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol
Penderfyniad:
Adolygwyd, a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn
y Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn
llithro mewn coch.
Adolygwyd cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r
meini prawf asesu ar gyfer pob tasg.
Cytunwyd y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r
gofrestr.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.
PENDERFYNWYD
·
Adolygu, a chymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y
Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn
llithro mewn coch
·
Adolygu cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r meini
prawf asesu ar gyfer pob tasg.
·
Cytuno y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r
gofrestr.
RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD
Diweddaru
cynnydd y tasgau ar y Rhaglen Waith ynghyd a chyflwyno fersiwn diweddaraf y
Gofrestr Risg
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at y materion hynny oedd wedi eu cwblhau yn y rhaglen
waith ynghyd a’r nifer hynny sydd angen sylw yn y misoedd nesaf. Amlygwyd bod
tasgau ac amserlen wedi ei ddynodi ar gyfer swyddogion penodol ynghyd a statws
RAG. Cyfeiriwyd at y gofrestr risg oedd wedi ei hatodi gyda’r adroddiad ac
atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen yn cael ei hadolygu yn fisol gan y Grŵp
Swyddogion Gweithredol.
Grŵp Cyflawni
Busnes
Rhoddwyd
diweddariad gan Askar Sheibani (Is-gadeirydd Grŵp Cyflawni Busnes) ar ei
weledigaeth i’r Grŵp gryfhau eu perthynas gyda’r Bwrdd fel bod modd i’r
Bwrdd fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd y Sector Breifat i ddenu cyfoeth,
targedu mwy o gyfraniadau a chynhyrchu busnes i Ogledd Cymru. Ategodd yr angen
i gydweithio gan geisio’r fargen orau.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth:
-
Bod y sector breifat yn rhan sylfaenol o’r
cynllun
-
Y dylai cofnodion y grŵp fod yn eitem
safonol ar raglen y Bwrdd
-
Y byddai gwaith y Bwrdd yn cael ei graffu gyda
negeseuon clir ac argymhellion uniongyrchol
-
Gwahodd Aelodau o’r Bwrdd i fynychu / annerch
mewn cyfarfodydd
-
Cynnal cyfarfodydd ar y cyd er mwyn adeiladu’r
ymdeimlad o dîm
-
Ymgynghori gyda’r Grŵp cyn hysbysu am Reolwyr
Prosiect
-
Bod angen i ddiwylliant y sector breifat a’r sector
gyhoeddus gyfuno
-
Bod angen cynnal deialog agored, cyfathrebu’n
glir a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag addasu cylch gorchwyl y
Grŵp Cyflawni Busnes i adlewyrchu’r sylwadau uchod, awgrymodd y Swyddog
Monitro y gellid adolygu’r cylch gorchwyl fel bod modd sefydlu trefn fyddai yn
gweithio i bawb.
Penodi Cadeirydd
Bwrdd Cyflawni Busnes
Adroddwyd bod
proses apwyntio mewn lle ynghyd a swydd ddisgrifiad (drafft) ar gyfer Cadeirydd
y Bwrdd Cyflawni Busnes. Amlygwyd yr angen i ymgynghori gyda’r ddwy lywodraeth
ynglŷn â’r penodiad.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
-
Mai rôl annibynnol fydd gan y Cadeirydd
-
Bod angen i’r person fod ag angerdd am yr
ardal, yn adnabyddus, yn arweinydd a
chyda chysylltiadau da
Mewn ymateb i sylw
y byddai’r penodiad yn ‘benodiad cyhoeddus’ awgrymwyd yr angen i sicrhau
dealltwriaeth o’r cyfyngiadau ariannol yn y trafodaethau a bod trefn arfarnu
apwyntiadau llywodraeth leol wedi ei dilyn.
Swyddfa Rhaglen
Amlygodd Dilwyn
Williams y byddai hysbysiadau ar gyfer rhai swyddi yn y swyddfa rhaglen yn cael
eu hysbysebu yn ystod yr Haf. Adroddwyd y byddai swydd Cyfarwyddwr Rhaglen yn
cael ei hail hysbysebu ar y 29ain o Orffennaf gyda’r dyddiad cau ar y 23ain o
Awst. Ategwyd y byddai angen trefnu cyfarfod arbennig ar gyfer tynnu rhestr fer
ar y 6ed o Fedi a chynnal cyfweliadau ar gyfer yr 20fed o Fedi. Ategodd y
byddai’r Partneriaid i gyd yn cael copi o’r hysbyseb. Cadarnhawyd hefyd y
byddai’r swydd Rheolwr Rhaglen Ddigidol yn cael ei ail hysbysebu yn dilyn
derbyn Penawdau’r Telerau - nodwyd hefyd y byddai’r swydd yn cael ei hysbysebu
fel swydd barhaol. Gofynnwyd i ystyriaeth gael ei roi
i ychwanegiad y farchnad.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
-
Y byddai ceisiadau Cyfarwyddwr Rhaglen o’r
sector breifat yn cael eu hystyried, ynghyd a secondiadau os yw’r sefyllfa yn
briodol
-
Ystyried bod unigolion yn ‘camu i fyny’ o’r
Grŵp Cyfarwyddwyr
-
Bod angen ystyried trefniadau ar gyfer cyfnod
interim - angen sicrhau rheolaeth swyddfa yn ystod cyfnod allweddol. Penderfynwyd
y byddai CE, IE a DOW yn ystyried cynllun interim ac adrodd i’r cyfarfod nesaf
ym mis Medi
-
Bod lefelau cyflog yn rhan o drafodaeth a
threfniadau rheolaeth swyddfa
Cofrestr Risg
Gwnaed sylw bod
angen i faterion sydd yn llithro cael eu hamlygu mewn coch ac y dylai Swyddfa
Rhaglen gael ei gynnwys ar y gofrestr
Dogfennau ategol: