Agenda item

Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Cofnod:

Rhoddwyd trosolwg o beth yw pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol gan nodi mae ei brif bwrpas ydi bod o gymorth i ymgeiswyr wrth gyflwyno a pharatoi ceisiadau cynllunio ynghyd a bod o gymorth i’r sawl fydd yn gwneud y penderfyniad ar y cais, boed hynny’n Swyddogion, Cynghorwyr neu yn Arolygydd annibynnol.

 

Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd fod yna gyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Yn ogystal â hynny mae’r Canllaw wedi bod trwy broses craffu yn y ddau Gyngor ac wedi bod yn destun gwerthusiad beirniadol annibynnol gan arbenigwyr o fewn y maes Cynllunio Iaith.

 

Yn sgil y broses Craffu fe dderbyniwyd adborth gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ynghyd a Phwyllgor Sgriwtini Môn, mae’r tabl a gynhwysir ym mharagraff 4.2 ac 4.3 (yn ôl eu trefn) yn cofnodi’r ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 88 sylw unigol (rhain i’w gweld yn Atodiad 1b o’r adroddiad). Nodwyd fod rhan fwyaf o’r sylwadau yn rhai adeiladol a bod yna gynnig o fan ddiwygiad i gynnwys y Canllaw yn aml yn cael ei gynnig yn sgil sylw a dderbyniwyd. Ble nad oes yna argymhelliad i ddiwygio’r Canllaw yn sgil y sylw, mae yna nodyn o eglurhad/rheswm yn cael ei nodi dros y penderfyniad hynny. Yn aml mae’r rheswm hynny’n ymwneud a’r ffaith fod y mater a gyfeirir ato o fewn y sylw wedi ei gynnwys mewn rhan arall o’r Canllaw. 

 

Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Materion a godwyd:

 

      Oes yna ymateb i’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith.

      Gofynnwyd am eglurder o ran pryd fyddai angen Asesiad/Datganiad (beth yw’r trothwyon). Cyfeiriwyd at y tabl a gynhwysir ym Mhara 4.2 o’r Canllaw a’r cwestiwn sydd wedi cael ei godi gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a’r un mater.

      Holwyd sut mae’r trothwyon o ran pryd gofynnir i ymgeisydd gyflwyno Datganiad/Asesiad yn cymharu hefo’r gofynion presennol (hynny yw'r gofynion sydd wedi ei osod allan yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a Chynllunio a’r Iaith Gymraeg).

      Gofynnwyd a oes yna unrhyw enghreifftiau o ddatblygiadau penodol ble na fyddai ystyriaeth yn cael ei roi i’r effaith ar yr iaith Gymraeg. Oes yna rhai mathau o geisiadau a fyddai’n gallu llithro drwy’r rhwyd.

      Holwyd ynglŷn â statwsCanllawiau Cynllunio Atodolgan maecanllawiauyn unig ydynt. A oes yna unrhyw arweiniad wedi ei gynnwys o fewn y Canllaw o ran beth fyddai’r goblygiadau pe fyddai’r ymgeisydd ddim yn cydymffurfio hefo’r Canllawiau hyn.

      Nodwyd y ffaith fod yna broses craffu ac ymgynghori hirfaith wedi bod wrth baratoi'r Canllaw, gan gynnwys proses o werthuso annibynnol gan arbenigwyr allanol yn y maes dan sylw a chan hynny nodwyd fod yr aelod yn gyfforddus hefo’i gynnwys a’r rhesymeg tu ôl iddo. Nodwyd hefyd, nad oedd Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllaw Drafft.

 

 

 

Ymateb:

 

      Cadarnhawyd fod yna ymateb ffurfiol wedi cael ei gyflwyno i Gymdeithas yr Iaith sydd yn cadarnhau safbwynt y Cynghorau o ran y farn gyfreithiol. Mae’r ymateb yn nodi’n glir nad oes yna lyffethair gyfreithiol wedi ei adnabod pam na allai'r Cyd Bwyllgor symud ymlaen gyda’r gwaith o gloriannu’r ymgynghoriadau a phenderfynu ar fabwysiadu’r Canllaw.

      Mae’r Polisi o fewn y CDLl ar y Cyd ynghyd a’r arweiniad sydd wedi ei gynnwys o fewn y Canllaw yn nodi’n glir pryd y byddai angen cyflwyno Datganiad/Asesiad ieithyddol ac yn cynnwys arweiniad pendant o ran hynny. Ymhellach mae yna arweiniad wedi ei gynnwys o ran y dull o gyflwyno’r gwybodaeth (templedi). Cryfder y Polisi a’r Canllaw ydi ei fod yn hyblyg i newidiadau mewn amgylchiadau a all ddylanwadu ar y dull o asesu effaith ar yr iaith.

      Nodwyd fod y Canllaw yn cynnig fwy o hyblygrwydd o ran y gofyniad i gyflwyno Datganiad/Asesiad iaith ynghyd a sicrhau fod ystyriaeth briodol yn cael ei roi i’r iaith Gymraeg pan yn briodol. Mae’r Canllaw yn unigryw ac yn cynnwys methodoleg ac arweiniad cadarn. Cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i sicrhau fod y wybodaeth angenrheidiol yn cael ei gyflwyno ynghyd a’r cais. 

      Nodwyd y bydd y Canllaw yn mynd i roi sicrwydd o gydymffurfiaeth hefo’r weithdrefn ac yn rhoi’r Cynghorau mewn sefyllfa gryfach o ran cadarnhau hynny.

      Pe byddai yno gais cynllunio yn cael ei gyflwyno sydd yn gwyro oddi ar yr arweiniad a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol yna fe fyddai rhaid bod yn hollol eglur o ran pam fod y bwriad yn gwyro. Fe fyddai’r sawl sydd yn gwneud y penderfyniad ar unrhyw gais (Swyddog, Aelodau, Arolygydd Cynllunio Annibynnol) yn rhoddi ystyriaeth i gynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth asesu a phenderfynu ar gais cynllunio.

      Nodwyd y sylwadau

 

Penderfyniad - Derbyniodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yr argymhelliad yn unfrydol, sef:-

 

i)     Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy;

ii)    Bod hawl yn cael ei roi i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ymgymryd â newidiadau gweinyddol terfynol i’r Canllaw i sicrhau fod holl faterion croesgyfeirio oddi fewn iddo yn gywir.

Dogfennau ategol: