skip to main content

Agenda item

Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â chreu safle gwersylla ar gyfer 8 pod a fyddai’n cynnwys ffordd fynediad a mannau parcio.  Nodwyd bod bwriad hefyd adeiladu estyniad i’r ystafell hunanarlwyo presennol er mwyn gwasanaethu’r 8 pod newydd. 

 

O’r wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais amlygwyd y byddai cyfnod meddiannu’r podiau rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ac y byddai caniatâd cynllunio yn cyfyngu meddiannu’r safle i’r cyfnod hwnnw mewn unrhyw flwyddyn. Byddai’r podiau yn aros ar y safle trwy gydol y flwyddyn, ond ddim yn cael eu meddiannu yn ystod misoedd y gaeaf . O ystyried na fyddai’r podiau i’w symud i’w storio ar safle neillog yn ystod y misoedd yma ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR 3 sy’n ymwneud a safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety gwersylla amgen parhaol. Gorweddai’r safle oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig ac mae Polisi TWR 3 yn datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig. 

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, adroddwyd bod y cae, oedd yn destun y cais, oddeutu 3 medr yn uwch na lefel daear y safle carafanau presennol ac fel rhan o’r bwriad, bydd y cae yn cael ei gloddio fel bod y lefel yn gostwng rhyw 1 medr.  O ganlyniad, byddai oddeutu medr isaf y podiau wedi eu suddo yn y ddaear o’i gymharu â lefel daear bresennol y cae.  Er i ochrau’r safle fod wedi eu graddio wrth wneud y gwaith cloddio, ystyriwyd y byddai rhan uchaf y podiau yn parhau'n weledol ac nid oedd bwriad gan yr ymgeisydd i wneud gwaith tirlunio fel rhan o’r cais. Cydnabuwyd y byddai lliw to’r podiau o wyrdd tywyll yn lleihau eu hamlygrwydd yn y dirwedd, ond nid yn goresgyn y ffaith y byddai’r podiau wedi eu lleoli ar dir uwch na’r tir gerllaw. O ystyried hyn, ni fyddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol.

 

Wrth ystyried materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd y byddai mynediad i’r safle ar hyd trac amaethyddol presennol ac er y byddai’r safle arfaethedig yn rhannu’r un fynedfa i’r ffordd sirol bydd mynediad gwahanol i’r safle arfaethedig a’r safle carafanau presennol.  Byddai cyfleusterau fel y toiledau / cawodydd ac ystafell cyfleusterau yn cael eu rhannu rhwng y safle presennol a’r bwriad arfaethedig. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Yn dilyn awgrym gan Uned Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd am roi gwely hesg yn y gors fel system garthffosiaeth ni fyddai hyn yn cael ei ystyried gan y byddai’n creu arogl annymunol ac yn denu pryfaid.

·         Dymuniad i gadw Cors Geirch fel y mae - wedi ei chadw fel hyn ers y 40au

·         Bod lle digonol ar gyfer gosod 8 pod ychwnaegol ar y safle

·         Nad oedd modd symud y podiau dros fisoedd y gaeaf oherwydd bod haearn y fframwaith yn plygu

·         Bod trefniadau i’r tanc septig gael ei wagu ddwywaith y flwyddyn

·         Nad oedd modd plannu coed  gan y byddai’r gwreiddiau yn ansefydlogi’r tir

·         Caniatâd cynllunio wedi ei ganiatáu ar gyfer 2 pod, felly pam gwahaniaethu?

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod podiau yn gweddu'r dirwedd yn well na charafanau

·         Bod amaethwyr yn gorfod ystyried arall gyfeirio. Twristiaeth felly yn opsiwn

 

·         Bod modd datrys y sefyllfa gyda’r tanc septig petai wybodaeth gywir yn cael ei gyflwyno

·         Os yw’r podiau yn rai symudol ac y byddai’r ymgeisydd yn barod i’w symud, y cais yn dderbyniol?

·         Bod angen rhoi pwyslais ar yr elfen tirweddu

·         Pe byddai modd ymgynghori a chyfaddawdu gyda’r ymgeisydd ar y tri rheswm gwrthod, byddai’r cais yn debygol o gael ei ganiatáu

 

d)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gellid cefnogi’r ymgeisydd i wireddu’r fenter, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd y cais yn dderbyniol oherwydd egwyddorion sylfaenol. Amlygodd nad oedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am gyngor cyn cyflwyno ac er i’r Uned Cynllunio geisio trafodaethau ymgynghori gyda’r ymgeisydd,roedd yn amlwg nad oedd bwriad i newid y cais. Ategodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod yr argymhelliad yn un cryf a bod egwyddor Polisi TWR3 wedi cael ei gefnogi mewn apêl yn ddiweddar.

 

dd)       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gadael y 2 pod presennol allan drwy’r gaeaf ac felly beth yw’r gwahaniaeth gyda gadael 8 arall allan, amlygodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod achos ymchwiliad gorfodaeth i sefyllfa’r 2 pod ar hyn o bryd. Ategodd bod amod wedi ei osod ar y cais i symud y podiau ar ddiwedd y tymor gwyliau. Nododd hefyd bod caniatâd storfa yn bodoli ar y safle.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

1.         Byddai’r bwriad yn creu safle llety gwersylla amgen newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i bwynt 1 o Bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol.

 

2.         Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn integreiddio gyda’r hyn sydd o’i gwmpas ac ni roddwyd ystyriaeth i faterion tirweddu fel rhan o’r cynnig.  Yn sgil hyn ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol.

 

3.         Ni chyflwynwyd tystiolaeth fel rhan o’r cais i ddangos fod y tanc trin presennol gyda’r capasiti ar gyfer gwasanaethu’r 8 pod ychwanegol.  Ceir safleoedd dynodedig gerllaw safle’r cais ac sydd yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a safle Ramsar.  Yn sgil y diffyg gwybodaeth yma ni ellir asesu effaith y bwriad yn llawn ar y safleoedd yma ac mae’r bwriad yn ei ffurf bresennol felly yn groes i ofynion Polisi PS 19 Cynllun Datblygu Lleol a Pholisi Cynllunio Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: