skip to main content

Agenda item

Cyflwyno:

 

(i)            adroddiad y Pennaeth Cyllid

(ii)           adroddiad ISA 260 yr Archwilwyr Allanol

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn am gymeradwyaeth y pwyllgor. Manylodd ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ddau o strategaethau allweddol y Gronfa, y datganiad strategaeth cyllido a’r datganiad strategaeth buddsoddi. Tynnodd sylw bod cynnydd o £143 miliwn yn asedau net y Gronfa dros y flwyddyn 2018-19 a oedd yn dod a gwerth y Gronfa i dros £2 biliwn.

 

Nododd bod costau rheoli buddsoddiadau yn uwch ym mlwyddyn ariannol 2018-19 oherwydd ei fod yn gyfnod gyda llawer o drosiant mewn cwmnïau rheoli asedau ecwiti a buddsoddiadau cysylltiedig, gyda chostau ynghlwm. Ymhelaethodd bod hyn yn bennaf yn dilyn trosglwyddo rhan fwyaf o’r asedau o reolwyr penodol y Gronfa, sef Fidelity a Veritas, i Bartneriaeth Pensiynau Cymru i fuddsoddi ar y cyd. Nododd yn y pendraw y rhagwelwyd y byddai’r ffioedd yn lleihau a’r dychweliadau os nad yn well yn fwy gwydn, oherwydd bod y risg buddsoddi wedi ei ledaenu.

        

Cyflwynodd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte yr adroddiad archwiliad ISA 260. Nododd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y datganiadau ariannol.

 

Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         O ran Cydraddoli Isafsymiau Pensiwn Gwarantedig (GMPs) ynghlwm ac achos McCloud, nid oedd yn swm materol wrth ystyried y Gronfa yn ei gyfanrwydd. Felly yn fodlon nid oedd angen diwygio unrhyw beth o ran y cyfrifon;

·         Nid oedd unrhyw gamddatganiadau a gywirwyd yn y datganiadau ariannol;

·         Derbyniwyd sicrwydd gan archwilwyr allanol Cyngor Sir Caerfyrddin, awdurdod lletya ar gyfer Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac nid oedd unrhyw fater yn codi;

·         Bod rhan fwyaf o’r argymhellion a godwyd ym mlynyddoedd blaenorol wedi eu cyfarch;

·         Bod y cyfrifon yn rhai o safon ardderchog.

           

Tynnodd aelod sylw bod y Cyngor fel cyflogwr yn cyfrannu £22.4 miliwn tuag at gost pensiynau. Nododd bod y Gronfa yn iach ac yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Holodd a fyddai’r prisiad actiwaraidd teir-blynyddol yn lleihau cyfraniadau’r Cyngor fel cyflogwr, gan leihau’r baich ar drethdalwyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn hyderus bod gwelliannau o ran y buddsoddiadau gyda thair blynedd bositif heb gwymp yn y farchnad. Ymhelaethodd y byddai’r sefyllfa o ran y prisiad actiwaraidd teir-blynyddol yn cael ei gadarnhau ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn ar 24 Hydref 2019. Nododd ni ellid rhagweld darganfyddiad yr actwari, ond ei fod yn obeithiol y byddai’r prisiad yn golygu cyfraniadau cyfartal neu is i’r Cyngor fel cyflogwr.

 

Nododd aelod bod yr incwm o £14 miliwn ar fuddsoddiadau o Gronfa a oedd werth dros £2 biliwn, sef 0.7%, ar y wyneb yn edrych yn isel o ystyried lefel y difidend. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod rhaid ystyried cynnydd yng ngwerth cyfalaf y buddsoddiadau yn ogystal â’r incwm o ddifidend. Ymhelaethodd y gellid buddsoddi mewn cerbydau fyddai’n rhoi difidend uchel, ond efallai ni fyddai gwerth yr ased ar y farchnad stoc yn cynyddu. Nododd bod yr incwm ynghyd â chynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn golygu cynnydd o £123 miliwn a oedd oddeutu 7% o werth y Gronfa, a oedd ddigon teg ar gyfer y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i ymholiadau pellach gan yr aelod, nododd y Pennaeth Cyllid ni roddir cyfarwyddiadau i’r rheolwyr asedau o ran yr union fuddsoddiadau ond fe edrychir i gynnal gwerth y Gronfa yn hytrach na derbyn incwm mewn difidend er mwyn ail-fuddsoddi. Eglurodd bod buddsoddi yn y modd yma yn cyd-fynd â’r cynllun busnes hirdymor gyda gwerth y buddsoddiadau yn cynyddu dros amser.

 

   PENDERFYNWYD:

(i)    cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2018/19 (ôl-archwiliad) Cronfa Bensiwn Gwynedd;

(ii)   derbyn adroddiad archwiliad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(iii)  awdurdodi’r Pennaeth Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ynghylch cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd a’i gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dogfennau ategol: