I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau
a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y digwyddiadau treisgar yn rhan
o’i orffennol a’i fod bellach
yn rhedeg cwmni tacsi. Ategodd
nad oedd y collfarnau wedi eu trafod yn ystod
ei gais blaenorol am drwydded a bod
disgwyl am wrandawiad a phenderfyniad wedi golygu ei
fod wedi colli gwaith. Nododd
nad oedd cwynion wedi dod
i law am ei wasanaeth
Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
ch) Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
ym Mehefin 2004 gan Lys Ynadon Caernarfon am drosedd o ymosodiad cyffredinol yn groes i
Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Cafodd orchymyn i dalu
dirwy o £50 ac iawndal o
£100. Derbyniodd gollfarn ym Mawrth 2006 gan Lys Ynadon Sir Ddinbych am drosedd o guro yn groes i
adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Derbyniodd hefyd gollfarn am ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol/sarhaus oedd yn debygol
o achosi aflonyddwch, braw neu drallod
yn groes i Ddeddf Trefn
Cyhoeddus 1986.
Cafodd orchymyn cymunedol a gorchymyn goruchwylio am 12 mis yn dilyn y digwyddiad
ynghyd a gorchymyn i dalu iawndal
o £75, costau o £350. Ym Mehefin 2018 derbyniodd 6 pwynt cosb ar
ei drwydded gyrru am dorri gofynion rheoli cerbyd, ffôn symudol
ayyb.
d) Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio
o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae adran
6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais ac fe nodir ym mharagraff
6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr
ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae'r paragraff yn rhestru troseddau
ac mae ymosodiad
cyffredin yn cael ei gynnwys
yn y rhestr. Mae paragraff 6.6 yn nodi y bydd cais
yn cael ei
wrthod os oes mwy nag un
gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr
ymgeisydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Mae paragraff
13.3 yn nodi y gallai mwy nag un
gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall
i’w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig
os oes sawl
collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar
gyfer yr un drosedd. Gellir cyfeirio gyrrwr trwyddedig at sylw Is-bwyllgor trwyddedu os oes mwy
na dwy
drosedd neu gyfanswm o 6 phwynt ar drwydded.
Mae paragraff
16.1 o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu.
Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n
bodloni canllawiau’r polisi yn unigol,
ond gyda’i gilydd yn creu
hanes o ail-droseddu sydd yn
dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid
bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers
y gollfarn fwyaf diweddar.
dd)
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
·
bod troseddau
2004 a 2006 yn droseddau o drais. Gan fod
y troseddau hyn wedi digwydd mwy
na 10 mlynedd
yn nol, nid
oedd sail i wrthod y cais o dan baragraffau 6.6 a 16.1 o’r Polisi.
·
bod yr arnodiad gyrru,
er yn fater o bryder, ddim yn cyrraedd trothwy gwrthod y cais
Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod
yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr
cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd.