Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Mae’r arferiad parhaol gan y gwahanol gyrff cyhoeddus a’r wasg a’r cyfryngau o gyfeirio at ‘North Wales’ a ‘South Wales’ a ‘Mid Wales’, ayyb, yn creu rhwygiadau ymysg ein cenedl, a hyn ar amser pan mae angen undod cenedlaethol.  Gofynnaf i’r Arweinydd a fyddai’n fodlon cysylltu â’r Senedd yng Nghaerdydd i ofyn iddynt ymyrryd mewn pob modd posibl er dylanwadu i newid yr arferiad hwn sy’n rhwygo’r genedl hon?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wy’n siŵr os ydw i’n deall y cwestiwn, na pha ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru ar enwau ein rhanbarthau, ond mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Gogledd Cymru.  Mae’n wir dweud hefyd bod yna Ranbarth y Canolbarth ac mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Dinas Caerdydd a Rhanbarth Dinas Abertawe.  Rwy’n cytuno’n llwyr fod angen i ni fod yn hyderus fel cenedl, ac yn unol fel cenedl, ond mae pryderu ynglŷn â’r math yma o sylw yn dangos ein diffyg hyder ni.  Gadewch i ni barhau i enwi ein rhanbarthau fel y gwelwn ni’n dda.  Wn i ddim oes gan y cwestiynydd unrhyw awgrym be ddylem ni fod yn galw’r llefydd yma?”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Rwy’n siŵr y byddai’r Arweinydd yn cytuno â mi bod yr undeb yn cael ei ddarnio?”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Mae nifer fawr o ddigwyddiadau yn cymryd lle ym mhentref Llanberis, bron bob wythnos.  Er bod hyn yn gallu bod yn beth da iawn i economi’r ardal, weithiau mae’r niferoedd o ddigwyddiadau yn ormodol ac yn cael effaith negyddol ar yr ardal, y trigolion a’r ymwelwyr.

 

Hoffwn gael gwybod os yw’r Cyngor yn ymwybodol faint o bobl sydd yn cystadlu yn y digwyddiadau ar y diwrnod yn ardal Llanberis a faint o rasys (rhedeg, beicio a nofio) sy’n cael eu cynnal ac a yw Cyngor Gwynedd yn caniatáu’r digwyddiadau yma i gyd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“Gan nad oes raid cael caniatâd Cyngor Gwynedd ar gyfer cynnal pob math o ddigwyddiad, nid yw hi’n bosib’ i’r awdurdod fod yn ymwybodol o’r nifer o rasys a digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal yn Llanberis, na faint sy’n cymryd rhan.  Dim ond digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ar dir y Cyngor, neu ddigwyddiadau sy’n gofyn am drwydded adloniant neu alcohol, sydd angen caniatâd y Cyngor.  Felly mae yn broblemus.  Mae yna nifer o ddigwyddiadau sy’n defnyddio tir y Cyngor ac mi fyddwn i’n barod iawn i gael sgwrs gyda’r cynghorydd i drafod y math yma o beth.  Rydw i’n ymwybodol o’r pwysau mae hyn yn rhoi ar gymuned Llanberis ac rwyf wedi gofyn i’r swyddogion o’r Adran Economi a Chymuned gydweithio gyda swyddogion perthnasol ar draws gwasanaethau’r Cyngor a phartneriaid allweddol, megis Parc Cenedlaethol Eryri, i gefnogi’r cynghorydd a’r gymuned i weld sut y gallwn gael gwell rheolaeth ar y digwyddiadau yn Llanberis i’r dyfodol.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Ydi Cyngor Gwynedd yn fodlon agor Glyn Rhonwy i bob digwyddiad yn y dyfodol, wrth gofio mai ond 1,174 o lefydd parcio sydd yna yn Llanberis? 

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“Mae yna weithgor yn edrych ar Glyn Rhonwy ac mae’r aelod yn aelod o’r gweithgor hwnnw, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei drafod o fewn y gweithgor hwnnw.  Fel roeddwn yn adrodd yn gynharach, rwyf wedi gofyn i swyddogion yr Adran eistedd gyda’r cynghorydd, y gymuned, swyddogion y Parc a swyddogion eraill ar draws y Cyngor i weld sut y gallwn gael gwell rheolaeth ar y sefyllfa.  Rwy’n ymwybodol ei fod yn creu problemau ac rwy’n awyddus i geisio datrys y problemau hynny, felly byddwn yn gweithio tuag at hynny yn y dyfodol.”

 

(3)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

"Yn ystod cyfarfod diwethaf Cyngor Cymuned Fairbourne, crybwyllwyd pwnc sy'n codi'n aml, sef gwersyllu dros nos ar y Pwynt. Gwnaethant gais i mi ofyn am arweiniad gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r ffordd orau o ymdrin â'r mater.  Rwy'n sicr fod hwn yn bwnc y mae'r mwyafrif ohonom yn y siambr wedi dod benben ag o yn ein wardiau ryw bryd neu'i gilydd.

 

Y broblem yw nad am un noson yn unig y mae pobl yn aros.  Mae pobl yn gynyddol gyrraedd yn eu faniau gwersyllu ac yn aros am wythnos neu fwy.  A all yr Aelod Cabinet roi unrhyw gyngor ar sut i ymdrin â'r cyfyng gyngor hwn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Pedwar opsiwn sy’n cael eu rhoi ymlaen gan yr Adran.  Gorchymyn llys ydi un ohonynt, ond bosib’ nad ydi hynny’n ymarferol, gan nad yw’n rhywbeth y gellir gweithredu arno’n sydyn.  Y lleill ydi gorchymyn parcio, rhwystrau ffisegol, a hefyd arwyddo.  Ond credaf mai’r pwynt gydag arwyddion yw nad oes ganddynt rym, a’r hyn fyddwn i’n awgrymu ar hyn o bryd, oherwydd nid yw hyn yn unigryw i Fairbourne, gan ei fod yn digwydd yn Y Felinheli a llefydd eraill hefyd, yw ein bod yn dod at ein gilydd ac yn mynd i wraidd hyn.  Mae yna ddadl, o blaid ac yn erbyn.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

“Oes modd i ni orfodi unrhyw orchmynion parcio?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Dyna lle mae’n bwysig cael y drafodaeth.  Mae’n dod yn fwy problemus ac mae yna fwy o bobl gyda faniau gwersyllu yn lle ceir, ac maent yn dod i Wynedd, a chredaf ei bod yn bwysig cael y cydbwysedd o ran yr hyn y gallwn ei wneud.  Rydym ni’n croesawu pobl ond mae yna ffordd iawn o ddelio â hyn.  Ond fel rwy’n dweud, mae’n bwysig i ni i gyd.  Rydym ni i gyd yn cael ein heffeithio gan hyn ac mae’n bwysig i ni eistedd i lawr gyda’n gilydd a symud ymlaen gyda hyn.  Mi wnes i sôn wrth rywun fore heddiw am ystyried mynd â’r mater i’w graffu.  Nid wy’n siŵr os ydi o wedi bod i’w graffu, ond heb ei symud yn ei flaen, ond bosib’ bod yna ddarn o waith fel yna i’w wneud fel bod ni’n cael cynghorwyr yn rhannu eu problemau o’u hardaloedd hwy.  Rwy’n derbyn y pwynt yn llwyr, ond credaf fod angen mwy o drafodaeth.”

 

(4)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

“Rydym yn byw mewn cyfnod ble mae cynhesu byd eang yn fater argyfyngus, a dirfawr angen arnom leihau ein defnydd o allyriadau carbon.

 

Mae Gwynedd hefyd yn ardal ddaearyddol eang a gwledig, ac mae teithio o fan i fan i fynychu cyfarfodydd yn ddrud, yn ychwanegu at allyriadau carbon, yn wastraff amser ac adnoddau.

 

Sylweddolwn yn ogystal ei bod hi’n gallu bod yn anodd cyfuno gwaith, cyfrifoldebau teulu a mynychu cyfarfodydd. Rydym yn awyddus i ddenu aelodau newydd o gefndiroedd mwy amrywiol nag sydd gennym ar hyn o bryd, er mwyn hyrwyddo cynrychiolaeth gynhwysol ac ehangu gwir ddemocratiaeth.

 

Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif.  Er enghraifft, gall fideo gynadledda hwyluso cyfranogiad pobl mewn cyfarfodydd ar draws y Sir, ac yn wir, Cymru gyfan.

 

Mae modd i ferched neu ddynion sy’n gofalu am blant ymuno mewn cyfarfodydd yn yr hwyr o bell.

 

Onid yw hi’n ddyletswydd arnom felly i greu strwythurau i hwyluso cymryd rhan mewn cyfarfodydd gan ddefnyddio technoleg, a lleihau’r pwysau ar yr amgylchedd, lleihau’r defnydd o geir, lleihau’r angen i deithio i gyfarfodydd a chynyddu’r potensial am gyfranogiad ystyrlon gan ein haelodau, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i fod yn fwy cynhwysol?  Pa ddefnydd mae’r Cyngor yn wneud o dechnoleg ym maes democratiaeth a sut fedrwn ni ehangu hyn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch yn fawr iawn i’r Cynghorydd Elin Walker Jones am ei sylwadau.

 

Rwy’n cytuno yn llwyr gyda hi fod buddion amgylcheddol o ddefnyddio technoleg fodern ac o fod yn fwy cynhwysol, cynyddu’r potensial am gyfranogiad a denu mwy o unigolion o wahanol gefndiroedd i Lywodraeth Leol, ac i arbed arian hefyd.

 

Nodaf fod y Cyngor wedi cynyddu ei ddefnydd o dechnoleg, ond mae cyfle i ehangu hynny a byddaf yn parhau i bwysleisio hyn yn ein cyfarfodydd herio perfformiad ac yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r Pennaeth Adran.

 

Mae’r mwyafrif ohonom yma heddiw yn darllen ein dogfennau pwyllgor yn electroneg, rhywbeth yr ydym yn arfer ei wneud bellach heb feddwl llawer amdano.

Rydym yn tueddu i fod yn cyfathrebu gydag etholwyr trwy gyfrwng electroneg (e-bost, cyfryngau cymdeithasol, ac yn y blaen). 

Mae darpariaeth “Skype” ar gael i bob aelod fod yn cysylltu yn electroneg gyda’i gilydd a hefyd cofiwch fod modd i gael sesiwn hyfforddiant byr ar ddefnyddio Skype os ydych eisiau dysgu mwy.

Mae’r Cyngor hefyd yn defnyddio cyfleusterau fideo gynhadledd ar gyfer cyfarfodydd llai.  Hoffwn hefyd weld hyn yn cael ei ehangu dros y misoedd nesaf a byddaf yn trafod hyn gyda’r Pennaeth Adran.

 

Ond mae lle i wella ac mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar ddatblygiadau yn y maes.  

 

Rwy’n deall fod rhaid rhoi ystyriaeth deg i faterion megis cyfieithu ar y pryd, pa mor hawdd yw’r dechnoleg i’w defnyddio, cadeirio cyfarfodydd aml-leoliad gan sicrhau tegwch i bawb a phrotocol ynghylch beth sy’n digwydd pan fo unrhyw ddiffyg yn y dechnoleg - ond yn fy marn i, tydi’r ystyriaethau yma ddim yn rhwystr i’r Cyngor a Chynghorwyr fanteisio yn llawn ar y dechnoleg sydd ar gael yng Nghyngor Gwynedd, ac sydd yn gyffredin erbyn hyn mewn llawer i le gwaith.

 

Mae cyfleoedd i ni drio gwahanol ddulliau, efallai na fydd popeth yn llwyddiannus bob tro, ond mae yna gyfleoedd i ni drio pethau yn y dyfodol. 

 

Ar y llaw arall hefyd, mae gennym, un ac oll, gyfrifoldeb i ystyried yr amgylchedd wrth i ni drefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd, ac rwy’n annog ni i gyd i feddwl cyn teithio.  Yn y cyfamser byddaf yn dal i bwyso ar y gwasanaeth i symud ymlaen gyda threfniadau i’w gwneud mor hawdd â phosib i Gynghorwyr fanteisio ar dechnoleg fodern yn eu gwaith.

 

Gobeithiaf weld cynnydd gwirioneddol mewn defnydd technoleg yn y Cyngor dros y flwyddyn nesaf ac edrychaf ymlaen at ddiweddaru’r Cynghorydd Walker Jones ar y datblygiadau.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

“Oes amserlen benodol ar gyfer hyn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Na, nid oes yna amserlen benodol, ond mae hynny’n syniad gwych, felly mi wnâi gymryd hynny ymlaen.”

 

(5)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Gwyddom fod bwriad i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Gwynedd yn 2021 ac felly pa fewnbwn mae’r Cyngor wedi ei gael hyd yma yn y broses o adnabod lleoliad addas i’w chynnal?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn,

 

“Derbyniodd y Cyngor gais y llynedd gan yr Eisteddfod i roi help llaw iddynt i adnabod safleoedd, ac mae ein hadran Eiddo wedi bod yn brysur yn teithio’r sir i weld pa safleoedd sy’n addas i gartrefu’r Eisteddfod.  Coeliwch chi fi, mae’r rheoliadau o ran canfod safleoedd addas i’r Eisteddfod yn y ganrif hon yn rhai sylweddol iawn, lle mae yna bob math o ofynion ar yr Eisteddfod.  Fel y gwelwch, ni chafwyd cais gan yr Eisteddfod i edrych am lefydd ym Meirionnydd.  Wn i ddim os yw hynny i’w wneud â’r ffaith bod yr eisteddfod wedi bod tu hwnt o lwyddiannus ym Meirionnydd sawl gwaith, ac rydym ni’n falch iawn o hynny - fe gofiwch y bu yn Y Bala, wrth gwrs, yn 2009.  Un o’r ffactorau a ystyriwyd, fel y gwelwch yn yr ateb ysgrifenedig, oedd arwynebedd y tir sydd i’w gael.  Credaf ein bod yn sôn am tua 150 o aceri o dir gwastad.  Mae materion trafnidiaeth yn ystyriaeth, argaeledd trydan a dŵr a risg llifogydd, ac o’r 30 o safleoedd a ystyriwyd, tynnwyd rhestr fer o 4 safle am drafodaeth bellach.  Mae astudiaethau technegol manwl wedi eu comisiynu ac mae trafodaethau ar y gweill gyda pherchnogion y safleoedd hynny.  I gadarnhau felly, rôl gefnogol yn unig sydd gan y Cyngor yn y broses yma a bydd y penderfyniad terfynol yn nwylo’r Eisteddfod ei hun.  Yn dilyn ystyriaeth o’r holl wybodaeth berthnasol gan eu Pwyllgor Technegol, Bwrdd a Chyngor yr Eisteddfod, deallaf y bydd cyhoeddiad ar ddydd Gwener yr eisteddfod ynglŷn â lleoliad yr Eisteddfod yng Ngwynedd, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw ac yn croesawu’r Eisteddfod i ble bynnag y bydd yn dod.”