Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal cyhoeddus agored
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Garlick
Cofnod:
Cais llawn i godi 29 uned
breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus
agored
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
29.4.19 er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth / cynlluniau diwygiedig fyddai’n
cyfarch pryderon y Pwyllgor.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref
Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol fel safle ar gyfer codi tai newydd yng
Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL). Er gwybodaeth, rhoddwyd caniatâd blaenorol ar gyfer
codi 26 tŷ ar y safle ac fe
ystyriwyd fod cychwyn materol wedi digwydd i’r caniatâd hwn oedd yn golygu ei
fod yn parhau yn ‘fyw’ gyda hawl cyfreithiol yn bodoli ar gyfer codi 26 tŷ
newydd ar y safle. Erbyn hyn mae’n gais llawn ar gyfer 29 tŷ newydd.
Adroddodd y Rheolwr
Cynllunio bod holl fanylion y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond
cyfeiriwyd yn benodol at ymatebion i bryderon oedd wedi eu codi gan yr aelodau
yn ystod y Pwyllgor blaenorol yn ogystal a phryderon oedd wedi eu codi gan
berchennog tŷ cyfagos. Cyfeirwyd hefyd at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn.
Un o’r pryderon hynny oedd gosodiad plotiau 14, 15 ac 16 gyda chais i’r
ymgeisydd ystyried newidiadau addas i’r rhan yma o’r safle er mwyn lleihau’r
effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfochrog (Tywyn) ar sail gor-edrych yn
bennaf. Mewn ymateb i’r pryderon hyn derbyniwyd cynlluniau diwygiedig parthed y
tri eiddo arfaethedig ac adroddwyd
bod yr ymgeisydd wedi datgan ei
fod wedi trafod y diwygiadau gyda pherchennog yr eiddo. Amlygwyd bod y cynllun
diwygiedig yn dangos y pellteroedd a’r ffiniau rhwng y tai ac adeilad Tywyn a’r
llinell gwelededd yn deillio o ffenestri cefn plotiau 14, 15 ac 16 tuag at
Tywyn. Amlygwyd ac eglurwyd y newidiadau i ddyluniad y tai ar y plotiau yma er
mwyn lleihau y nifer o agoriadau ar loriau cyntaf y tai er mwyn goresgyn pryderon.
Ystyriwyd fod y diwygiadau yn gwneud y datblygiad yn fwy derbyniol ac yn
cyfarch pryderon y cymydog a’r Pwyllgor o safbwynt effaith ar fwynderau’r eiddo
cyfochrog.
Nodwyd bod y swyddogion
cynllunio wedi ail ymgynghori ynglŷn â’r diwygiadau gyda’r cymydog, ac fe
gyfeiriwyd at ei sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd nad oedd y
cymydog yn fodlon gyda’r addasiadau ac yn parhau i fynegi pryderon ynglŷn
â goredrych. Roedd y swyddogion o’r farn na ellid ystyried unrhyw sail resymol a fyddai’n cyfiawnhau
unrhyw bryderon pellach am effaith annerbyniol ar fwynderau’r eiddo cyfochrog o
ganlyniad i ddyluniad diwygiedig a lleoliad plotiau 14, 15 ac 16.
Mewn ymateb i bryderon
llifogydd yn lleol ac effaith posib y datblygiad ar y gymdogaeth o gofio fod yr
ardal wedi dioddef effaith llifogydd yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth
drylwyr i’r elfen yma er mwyn asesu yn llawn unrhyw effaith posib. Amlygwyd nad
oedd unrhyw ran o safle’r cais ei hun wedi ei gynnwys o fewn y parth llifogydd
ac felly nid oedd gofyn am Asesiad Effaith Llifogydd ffurfiol ar gyfer y safle
yn yr achos yma. Er hynny, roedd trigolion lleol wedi amlygu pryder am effaith
unrhyw rediad dwr ychwanegol yn yr ardal gan y bydd yn y pen draw yn arwain i
mewn i Afon Beuno. Ategwyd y bydd angen sicrhau yn glir trwy wybodaeth a
mesurau rheoli penodol na fydd y datblygiad yn amharu ar drigolion lleol o
safbwynt effaith materion yn ymwneud â draenio’r safle. Yn dilyn trafodaethau
gyda Phrif Beiriannydd Uned Draenio’r Cyngor adroddwyd y byddai gofod storio a
threfn ddigonol ar gyfer gwaredu dŵr wyneb yn cael ei adeiladu.
Cadarnhawyd na fydd y datblygiad yn cynyddu risg llifogydd i lawr yr afon cyn
belled â’i fod yn cael ei adeiladu a’i gynnal yn unol â’r manylion a gytunwyd.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â niferoedd
tai ar y safle, ynghyd a’r gymysgedd a’r dwysedd, cynhaliwyd trafodaethau
pellach gyda’r Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd a’r Uned Strategol Tai.
Derbyniwyd ymateb yn cadarnhau’r angen presennol am unedau fforddiadwy yn ogystal
â dwysedd a chymysgedd y datblygiad.
Mewn ymateb i bryder am
y llecyn agored, adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y datblygwr
a’r Cyngor Cymuned i drafod opsiynau posib ar gyfer y safle. Nodwyd bod y datblygwr bellach yn cynnig gosod offer llai
ymwthiol ar y safle ac y bydd yn trefnu gwaith cynnal a chadw’r safle trwy
gytundeb rheoli. Cefnogwyd y cynnig gan y Cyngor Cymuned ac fe gadarnhawyd hyn
trwy lythyr ffurfiol.
Yn ychwanegol, derbyniwyd
cynllun yn dangos lleoliad presennol ac arfaethedig y bibell nwy ar y safle
ynghyd a chadarnhad y bydd gwaith i newid ac ail leoli’r bibell oherwydd ei
chyflwr presennol gwael. Ategwyd bod bwriad i’r clawdd sydd o amgylch y safle
gael ei warchod ac y gellid sicrhau hyn drwy amod. Tynnwyd sylw hefyd at
sylwadau'r Uned Iaith.
Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, gan gynnwys gwrthwynebiadau,
ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i gael tai newydd ym Montnewydd
·
Bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwelliannau
positif
·
Trigolion lleol angen tawelwch
meddwl ynglŷn â dŵr wyneb a chynllun atal llifogydd
·
Yn siarad ar ran y cymydog, er bod y cynlluniau diwygiedig yn nodi
ail-leoli plotiau 14, 15 a 16 i geisio goroesi pryderon preifatrwydd, nid oedd
y cymydog yn ystyried bod hyn yn ddigonol. Awgrymodd, petai y beipen nwy yn
cael ei hail leoli, byddai modd symud y tai ymlaen rhyw 2m pellach ac yn ymateb
i bryder y cymydog.
(a) Mewn ymateb i
sylwadau yr aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod Dŵr Cymrua chyrff
perthnasol eraill yn fodlon gyda datrysiad y dŵr wyneb ac yng nghyd-destun
y bibell nwy, er yr angen i uwchraddio'r beipen ni fyddai hyn yn ychwanegu
llawer o hyblygrwydd i ail-leoli tai os yn ei symud. Ategwyd bod y pryderon
wedi eu cyfarch ac nad oedd sail resymol bellach i wrthwynebu y cais o ran
goredrych.
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(b) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
· Enghraifft dda bod trafodaethau yn arwain
at welliannau
· Balch bod y Cyngor Cymuned wedi
cael trafod y llecyn chwarae a chyrraedd cytundeb
(dd) Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chyfnewid tŷ 13 ac 18 o ran maint er mwyn rhyddhau ychydig
mwy o ofod i leihau pryderon goredrych, nodwyd bod angen ystyried llefydd pario
a llefydd troi ac nad yw tŷ rhif 13 mewn gwirionedd llawer llai na
thŷ 18.
PENDERFYNWYD caniatáu yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r holl adroddiadau
3. Deunyddiau/llechi
4. Tirlunio a ffiniau'r safle
5. Priffyrdd
6. Draenio
7. Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol
8. Archaeoleg
9. Cynllun Rheolaeth Adeiladu
10. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y
tai fforddiadwy
11. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar
blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod ffenestri ychwanegol a ffenestri to)
12. Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd
ar gefn plot 14 a chytuno dull agor
13. Enw Cymraeg i’r stad a’r tai
14. Manylion ac amserlen gosod offer o fewn y
llecyn agored.
15. Cytuno ar drefniadau sicrhau tai
fforddiadwy
16. Amseroedd gweithio ar y
safle
Dogfennau ategol: