skip to main content

Agenda item

 

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Dafydd Meurig


I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

*10.35 – 11.35

 

(amcangyfrif amseru)

Cofnod:

Adroddiad cyffredinol er gwybodaeth gan yr Aelod Cabinet, Oedolion, Iechyd a Llesiant. Cyflwynwyd yr adroddiad cyntaf yn Nhachwedd 2018 gan yr Uwch Reolwr Busnes yn amlygu canfyddiadau cychwynnol y gwaith a wnaethpwyd gan gwmni CELyn yn edrych ar recriwtio a chadw gofalwyr gofal cartref.

 

Yn ehangach wedyn mae ‘Y Gweithlu a Recriwtio o fewn y maes Gofal’ yn un o flaenoriaethau Strategol y Cyngor 2018-23 a phwrpas yr adroddiad yw cyflwyno rhaglen waith. 

 

Disgwylir derbyn sylwadau gan yr Aelodau i’w bwydo i’r pedwar ffrwd gwaith sef tâl ac amodau gwaith.  Edrych ar eu sgiliau arbenigol, a proffil y swydd, gan feddwl am y ffordd orau o gyfathrebu a marchnata recriwtio staff yn y dyfodol.

 

Mapio’r Gwaith

·         Nododd yr Aelod Cabinet i gwestiwn gan Aelod bod grŵp wedi ei sefydlu ac wedi dechrau ar y gwaith o fapio’r hyn sy’n digwydd yn barod er mwyn adnabod unrhyw fylchau sy’n bodoli.  Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion allweddol o’r Uned Datblygu’r Gweithlu, adnoddau Dynol a Darparu Mewnol.  Rhagwelid tynnu gwasanaethau eraill i mewn yn ystod y misoedd nesaf.

 

 

·         Nododd y Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu, gan fod y gwaith yma yn mynd ymlaen gan yr uned, daeth y pwyllgor i benderfyniad flwyddyn ddiwethaf oedi'r ymchwiliad craffu i’r pwnc Anawsterau Recriwtio ar hyn o bryd.  Un elfen o bwysigrwydd sydd angen ei gydnabod yn y gwaith mapio yw gwaith sylfaenol sydd wedi ei gomisiynu gan  Grŵp Iechyd Canolbarth Cymru.  Roedd dau Aelod o’r pwyllgor hwn wedi bod yn craffu ychydig ar y gwaith o fewn y grŵp, felly roedd gan y Cynghorwyr profiadol hyn gyfraniad pwysig i’w wneud o fewn gwaith mapio.

 

Camau Penodol:

Disgwylid cwblhau’r gwaith mapio erbyn mis Hydref 2019.

 

Tâl ac Amodau Gwaith

 

Cyflwynwyd y drafodaeth ddilynol gan yr Aelod Cabinet, gyda’r Uwch Reolwr Busnes, Oedolion Iechyd a Llesiant â Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyfrannu mewnbwn mwy manwl ar y rhaglen waith.

 

·         Nodwyd bod y gwasanaeth o’r farn bod anghysondeb yn amodau a thelerau gwaith y sector anibynnol a’r ddarpariaeth fewnol ar draws y maes. Nodwyd fod y gwaith trawsnewid gofal cartref yn anelu i gysoni’r amrwyaieth sy’n bodoli er lles y sector.

 

·         Eglurwyd fod y gwaith o drawsnewid gofal cartref yn rhoi’r ffocws ar dynnu gwastraff allan o’r system gyfredol. Mae’r gwasanaeth o’r farn fod modd ariannu gwellainau mewn amodau a thelerau gwaith trwy andabod yr elfennau hynny sydd ddim yn ychwanegu gwerth ac ail ail ddefnyddio’r arian. Yn ogystal a gwella amodau a thelerau gwaith dylai newid y ffordd fyddwn yn comisynu i’r dyfodol arwain at roi sicrwydd gwaith tymor hirach i staff a phatrymau gweithio sy’n rhoi balans bywyd a gwaith gwell. Nodwyd fod y gwaith ym maes gofal catref yn fwy aeddfed na meysydd eraill ond fod y ffrwd gwaith yma yn edrych hefyd ar draws y maes gofal megis Preswyl / Nyrio ac Anableddau Dysgu. Roedd cynabyddiaeth y ffrwd gwaith yn uchelgeisiol ac yn mynd i fod yn sialens.  

 

Camau Penodol:

Disgwylir cysoni lefelau cyflog  y gofalwyr cartref ar draws y sectorau erbyn Ebrill 2021.

 

Cynllunio’r Gweithle – Sgiliau Arbenigol

Cytunwyd yn y cyfarfod, bod angen llwybr gyrfaoedd da o fewn gofal gan ddarparu hyfforddiant a meithrin talent ein hunan, trwy gynlluniau hyfforddeion proffesiynol, prentisiaethau a phrofiadau gwaith gan weithio gyda cholegau a Phrifysgolion.  Roedd enghraifft o hyn yn bodoli yng Ngwynedd i fyfyrwyr cwrs MA Gwaith cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol.

 

·         Mynegodd Aelod bod angen marchnata'r gyrfaoedd hyn i dynnu mewn dynion a marched.  Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o swyddi y maes gofal yn cael eu cyflawni gan ferched.

 

·         Roedd yr Aelodau yn gweld hefyd bod anghysondeb rhwng Gogledd a De Gwynedd o ran darpariaeth recriwtio staff.

 

·         Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o drosglwyddo'r negeseuon cywir i’r staff, wrth adlewyrchu'r newidiadau sydd ar y trothwy, gan ddatblygu adnoddau cyfathrebu a marchnata da, a bod yr egwyddorion yn ddealladwy.

 

·         Nododd y Swyddogion bod amser wedi ei ddyrannu i’r Aelodau fynegi eu pryder o fewn sesiynau gweithdy ar y pwnc, gan annog bob Aelod i fod yn bresennol.

 

·         Cytunwyd bod rhaid edrych ar y ffordd o dargedu'r swyddi wrth farchnata gan edrych ar bwrpas y swydd a pham bod ei hangen.

 

Camau Penodol:

Nodwyd rhagweld bydd y gwaith yma yn dechrau yn ystod Gorffennaf ac Awst 2019.

 

Statws, Delwedd a phroffil y Swydd

Nodwyd bod gofyn cyfreithiol i staff rheng flaen y maes gofal ar draws Cymru fod yn gofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Roedd y staff yn gweld bod mwy o ddisgwyliadau a chyfrifoldebau arnynt ond dim chydnabyddiaeth ariannol yn dilyn. Er hyn nodwyd fod manteision i’r newid ac fod hyn yn gallu cyfrannu tuag at godi statws swyddi yn y maes.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau amlygu pryderon y staff i’r gwasanaeth er mwyn edrych i mewn i’w pryderon ac ymateb yn ôl.  Yn dilyn i bryder gael ei fynegi am allanoli y ddarpariaeth gofal catref yn benodol, eglurodd yr Uwch Reolwr Busnes, Oedolion Iechyd a Llesiant nad yw’r newid sydd ar droed yn golwyg newid y balans sydd mewn lle ar hyn o bryd o ran canran y farchnad sy’n fewnol ac anibynnol.  

 

·         Nodwyd y byddai fod polisi iaith y Cyngor yn berthnasol o ran y ddarpariaeth fewnol, a fydd disgyliadau ieithyddol ar y sector anibynnol yn cael eu gosod a’u monitro trwy gytundebau.

 

·         Nododd Aelod bod recriwtio yn y maes dementia yn broblem yn Ne Gwynedd.  Cadarnhawyd bod fforymau ar draws Gwynedd gydag iechyd mewn trafodaeth ynglŷn â hyn. Ychwanegodd yr Aelod bod angen edrych i mewn ar gyfer system hyfforddi well i ofalwyr cartref i’w addysgu ar wahanol sgiliau proffesiynol yn y maes.

 

Camau Penodol:

Gofalwyr Cartref yn gorfod bod yn gofrestredig erbyn Mawrth 2020.  Gweithwyr Gofal Preswyl yn gofrestredig erbyn Mawrth 2022.

 

 

Yn ogystal ag adrodd yn gyson i’r Cyfarfod Monitro Perfformiad mae angen monitro cynnydd y rhaglen waith trwy adroddiadau perfformiad yr Aelod Cabinet.  Mi fydd yr Aelod Cabinet yn defnyddio'r Pwyllgor Craffu i adrodd ar lwyddiant y gwaith ond hefyd ar gyfer amlygu unrhyw rwystrau sy’n atal y gwasanaeth i gyflawni'r camau yma.  Ni fydd y mater yma yn dod yn ôl i’w graffu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r gwasanaeth am y cyflwyniad a bod angen cyfleu yn ôl i’r Pwyllgor Craffu cyn mynd i’r Cabinet am y rhesymau a godwyd gan yr Aelodau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet y gellid cyfarfod yn anffurfiol gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i drafod y sylwadau.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Aelod Cabinet i gyflwyno sylwadau’r Pwyllog i’r Cyfarfod Monitro Perfformiad.

 

·         Derbyniwyd yr adroddiad. 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 y.b. a daeth i ben am  12.05 y.p.

 

 

 

Dogfennau ategol: