Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn
amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 19 adroddiad am archwiliadau
o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw o ran archwiliadau
dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 94.48% o’r camau cytunedig, sef 154 allan o 163. Amlygwyd ni
dderbyniwyd ymateb i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth gan yr
Unedau/Gwasanaethau perthnasol ar gynnydd gweithrediadau ar gyfer yr
archwiliadau canlynol:
·
Manddaliadau
(3 gweithrediad)
·
Trefniadau
ar gyfer Plant yn Gadael Gofal (1 gweithrediad)
·
Targedau
Ailgylchu (5 gweithrediad)
Nodwyd yn dilyn derbyn gwybodaeth, roedd
adroddiadau'r archwiliadau isod wedi eu rhyddhau yn derfynol:
·
Cynlluniau
Gofal a Chymorth (Plant) o dan Rhan 4 DGC (Cymru) 2014 (Plant a Theuluoedd)
·
Rheoli
Llifogydd (Ymgynghoriaeth Gwynedd)
Cyfeiriodd aelod at y diffyg ymateb gan
Unedau/Gwasanaethau i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth. Nododd y
dylid un ai tynnu sylw’r Aelodau Cabinet perthnasol
neu fod y swyddogion perthnasol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno gellid galw’r
swyddogion perthnasol gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau. Cynigwyd i alw’r
swyddogion perthnasol i’r archwiliadau gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau.
Nododd aelod y dylid galw’r Aelodau Cabinet perthnasol gerbron y Gweithgor yn
ogystal. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio bod dyddiad wedi ei bennu ar gyfer
cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau lle trafodir archwiliadau a
gyfeiriwyd at y Gweithgor yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig,
pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol
ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol –
Polisi Chwythu’r
Chwiban – Ysgolion Gwynedd
Nododd nifer o aelodau eu siom bod 34% o’r
ysgolion heb ymateb i gadarnhau bod gan yr ysgolion bolisi cyfredol mewn lle
a’i fod wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Corff Llywodraethu, a bod gan bob
aelod o staff fynediad rhwydd at y polisi o ystyried pwysigrwydd y polisi.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod
canran yr ysgolion a oedd wedi ymateb yn eithaf da.
Nododd nid oedd y ffaith bod rhai ysgolion heb ymateb yn golygu nad oedd y polisi wedi ei fabwysiadu. Eglurodd bod yr Adran
Addysg wedi ymrwymo i ail anfon templed Polisi Chwythu’r Chwiban i’r ysgolion a oedd ddim yn defnyddio’r fersiwn gyfredol ac i’r rhai
wnaeth ddim ymateb. Nododd ers cwblhau’r archwiliad y derbyniwyd cadarnhad gan
ychwaneg o ysgolion bod y Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu’r polisi.
Nododd aelod bod y polisi yn hynod bwysig yng
nghyd-destun ysgolion ac er bod ysgolion wedi mabwysiadu’r polisi bod
dealltwriaeth staff o’r polisi yn fater pellach. Mewn ymateb, eglurodd y
Rheolwr Archwilio mai pwrpas yr archwiliad oedd sicrhau bod polisi cyfredol
wedi ei fabwysiadu gan Gyrff Llywodraethu ysgolion, nid oedd ymwybyddiaeth
staff o’r polisi o fewn cwmpas yr archwiliad ond ei fod yn fater i’w ystyried
yng nghyd-destun risg.
Pwysleisiodd aelod ei fod yn bwysig derbyn
cadarnhad gan yr holl ysgolion y mabwysiadwyd y polisi cyfredol pan gwblheir
gwaith dilyniant gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Statws Cyflogaeth –
GwE
Tynnodd aelod sylw bod GwE yn dilyn yr
archwiliad wedi adnabod 8 unigolyn o sampl o 12 lle'r oedd angen newid eu
statws cyflogaeth. Ychwanegodd ei fod yn ymddangos bod problem o ystyried maint
y sampl. Holodd os dylai’r Gweithgor Gwella Rheolaethau ystyried yr archwiliad.
Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod
holiadur ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i helpu cyflogwyr o ran adnabod
statws cyflogaeth unigolion fel cyflogedig neu hunangyflogedig yn unol â
rheolau trethu ‘IR35: Countering avoidance in the Provision
of Personal Services’.
Ymhelaethodd bod modd dehongli’r cwestiynau i roi ymatebion gwahanol a bod
trafodaethau wedi eu cynnal gyda GwE. Eglurodd bod y mater wedi derbyn sylw gan
Cyd-Bwyllgor GwE gyda swyddogion GwE yn gweithredu gyda chefnogaeth swyddogion
y Cyngor. Nododd bod y mater wedi derbyn ystyriaeth yn y fforwm priodol.
Nododd aelod ei fod yn fodlon bod y mater
wedi derbyn sylw yn y fforwm priodol ond bod angen i’r Pwyllgor dderbyn
gwybodaeth yn dilyn gwaith dilyniant y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio pe byddai diffyg gweithredu adroddir i’r
Pwyllgor ynghyd â chyfeirio’r mater i Gyd-bwyllgor GwE.
Amlygodd aelod bod statws cyflogaeth unigolyn
yn ddibynnol ar y gwaith a wneir a bod rheolau yn gallu bod yn fympwyol ac
anodd eu dehongli. Ychwanegodd aelod os oedd unigolyn yn gweithio yn barhaol i
sefydliad fe ddylent fod ar y gyflogres.
Prynu Cyfarpar drwy’r
Ysgol
Cyfeiriodd aelod at achos lle'r oedd ysgol
wedi prynu 3 iPhone ar ran aelodau staff drwy drefniant les gan nodi ei fod yn
achos o gymryd mantais o’r cynllun arbed TAW. Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr
Archwilio bod yr archwiliad yn archwiliad ymatebol yn dilyn cyfeiriad gan Uned
Gyllid yr Adran Addysg o ran achos mewn un ysgol a bod
yr archwiliad yn ceisio sefydlu pa mor eang oedd yr arferiad gan drafod gydag
arbenigwr Treth ar Werth. Ymhelaethodd bod canllawiau clir a’i fod yn briodol
i’r ysgol werthu nwyddau ymlaen i ddisgyblion er mwyn iddynt arbed yr elfen
TAW, ar yr amod bod y nwyddau i’w defnyddio yn y dosbarth yn rheolaidd a bod y
nwyddau yma yn cynnwys offerynnau cerdd cludadwy a dyfeisiadau megis iPads.
Nododd nid oedd gwerthiannau i athrawon a staff eraill yn cyd-fynd â rheolau
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Cadarnhaodd mai ond yr achos penodol yma yr
adnabuwyd ac nid oedd yn arferiad ar draws ysgolion Gwynedd.
Trefniadau Trwyddedu
Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio bod y
Datganiad Polisi Hapchwarae wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn ei
gyfarfod ar 7 Mawrth 2019.
Cynnal a Chadw Eiddo
Nododd aelod bod yr Uned Cynnal a Chadw Eiddo
wedi bod drwy broses Vanguard a’i fod
yn siomedig bod taliadau dyblyg wedi eu prosesu. Holodd a
oedd y taliadau yn rhai sylweddol.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio nid
oedd yn gallu cadarnhau’r union symiau. Eglurodd y codwyd pryder yn ystod yr
archwiliad o ran diffyg rhaniad mewn dyletswyddau o fewn prosesau ac y
derbyniwyd eglurhad bod yr Uned wedi penderfynu, yn sgil Ffordd Gwynedd, nad oeddynt am weithredu ar wahaniaethau mewn dyletswyddau o
fewn eu prosesau. Ymhelaethodd bod yr Uned yn ymdrechu i gyfyngu’r drefn o ran
prosesu a thalu anfonebau gan ddefnyddio rhyngwyneb Techforge yn unig yn
y dyfodol i osgoi’r risg o daliadau dyblyg. Nododd bod ychydig o wahaniad
dyletswyddau erbyn hyn, gydag unigolion gyda hawliau gweinyddwr yn unig gyda’r
hawl i sefydlu contractwyr newydd ar y system i’w talu.
Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed
dewis sampl, nododd y Rheolwr Archwilio bod y modd o ddewis sampl yn amrywio ar
gyfer archwiliadau. Ymhelaethodd o ran yr archwiliad dan sylw yr ystyriwyd
trafodion ac anfonebau, echdynnwyd gwybodaeth o’r cyfriflyfr ariannol a
rhoddwyd sylw i dueddiadau a thaliadau sylweddol.
Diogelwch Seiber
Holodd aelod a oedd
yr hyfforddiant ar ddiogelwch seiber yn berthnasol ar gyfer aelodau yn ogystal.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth
wedi cyhoeddi fideos a oedd yn amlygu risgiau seiber i
staff ar fewnrwyd y Cyngor. Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod o’r farn fod yr
hyfforddiant ar ddiogelwch seiber yn berthnasol ar gyfer aelodau, ac y byddai’n
edrych i mewn i’r mater gyda golwg ar gynnig mynediad i’r fideos.
Plant – Lleoliadau
All-Sirol
Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y
Rheolwr Archwilio bod Gweithwyr Cymdeithasol yn ymweld â phlant a oedd wedi eu lleoli’n all-sirol gyda chynlluniau gofal,
asesiadau risg a chefnogaeth yn ei le.
Amlygodd aelod bod costau lleoliadau plant yn
parhau i fod yn uchel. Holodd o ran gweithrediad i leihau’r costau. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod gwariant ar leoliadau all-sirol yn
cyfrannu at y gorwariant yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ymhelaethodd nad oedd gorwariant yn y maes yma yn unigryw i Wynedd.
Eglurodd yr amlygwyd fel rhan o’r archwiliad bod y maes
yn gymwys i fod ar gofrestr risg yr Adran, a chofrestr risg corfforaethol y
Cyngor. Nododd y derbyniwyd cadarnhad fod y maes
bellach wedi ei gynnwys ar y gofrestr risg.
Gorfodaeth Stryd
Nododd aelod bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
wedi rhoi sylw i’r maes gorfodaeth gwastraff ac fe
ddylid ystyried cyfeirio’r archwiliad i sylw’r Pwyllgor Craffu. Mewn ymateb,
nododd y Pennaeth Cyllid y gellir cyfeirio’r archwiliad at y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ond mai mater i’r Pwyllgor Craffu oedd ei raglen waith a’r materion a
rhoddir ystyriaeth iddynt.
PENDERFYNWYD:
(i) derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 4 Chwefror
2019 hyd at 31 Mawrth 2019 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd
eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol;
(ii) galw’r swyddogion a’r Aelodau Cabinet perthnasol ynghlwm â’r archwiliadau
dilyniant, a rhestrwyd isod, gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau:
Ø
Manddaliadau
Ø
Trefniadau ar gyfer Plant
yn Gadael Gofal
Ø
Targedau Ailgylchu
(iii) bod yr aelodau a benodwyd
ar y Gweithgor Gwella Rheolaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Chwefror ynghyd
â’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones a Sharon Warnes (eilydd) yn gwasanaethu ar y
Gweithgor;
(iv) cyfeirio’r archwiliad Gorfodaeth
Stryd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau er ystyriaeth.
Dogfennau ategol: