Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Cofnod:

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 21 Mai 2019. Diolchodd i’r Cynghorydd Peredur Jenkins, y cyn Aelod Cabinet Cyllid, am ei waith a’i ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor mewn adeg anodd. Pwysleisiodd bod yr Aelodau Cabinet yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gadw at y gyllideb. Nododd nad ellid parhau i orwario ar Wasanaethau Plant ac yn y maes cludiant ysgolion.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad. Nododd yn gyffredinol, bu rheolaeth ariannol effeithiol, yn wyneb y gofynion i gyflawni arbedion.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

1.1   Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19.

 

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

15

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

100

Economi a Chymuned

28

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(59)

Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(76)

Cyllid

(59)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(61)

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2)

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.

·         Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.

·         Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:

                    - (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w

                      ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

·         Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

1.4   Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:

·                     Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.

·                     Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·                     Trosglwyddo £1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·                     Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa

Bensiwn.”

 

Nododd bod yr Adran Gyllid wedi cynhyrchu datganiadau ariannol statudol 2018/19 cyn 31 Mai a bod y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan yr Archwilwyr Allanol. Cadarnhaodd y cyflwynir y cyfrifon gerbron y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf yn dilyn yr archwiliad. Ymhelaethodd y byddai’r holl broses o gau’r cyfrifon, cynhyrchu’r datganiad a’r archwiliad allanol wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf yn hytrach na diwedd mis Medi mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Bod gorwariant yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd cyfystyr ac oddeutu 15% o gyllideb yr Adran. Roedd yr Adran yn derbyn canmoliaeth am eu gwaith ac fe allai adrannau eraill wneud gwaith canmoladwy pe byddent hwythau yn gorwario. Yn rhagweld sefyllfa gorwario debyg gan y Cyngor yn 2019/20, er rhoddir sylw i’r gorwariant. Parthed sefyllfa ariannol Storiel, a oedd y sefyllfa wedi gwaethygu ers i’r Cyngor gymryd rheolaeth o’r caffi yn dilyn darparwr preifat yn ildio rheolaeth?

·         A oedd y gyllideb yn realistig o ystyried bod rhai meysydd yn gorwario yn flynyddol?

·         Bod angen bod yn gadarn gyda’r gwasanaethau a oedd yn gorwario, er bod y gorwariant yn deillio o faterion sensitif nid oedd y sefyllfa yn deg ar y rhai yn darparu o fewn eu cyllideb. Roedd angen atal y gorwario os yn bosib.

·         Bod amgylchiadau allan o reolaeth y Cyngor yn effeithio ar berfformiad ariannol Adrannau gyda’r sefyllfa yn adlewyrchiad o gymdeithas. Ei fod yn sefyllfa anodd a oedd yn mynd i waethygu gan nad oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn rhoi rhagor o gyllid i Llywodraeth Leol.

·         Ei fod yn bwysig ystyried os oedd y gyllideb yn addas gan asesu sut roedd y Cyngor yn cymharu â chynghorau eraill wrth ystyried y gorwariant.

·         Bod angen edrych ar y rhesymau am y gorwariant gan ystyried os oedd y gorwariant yn angenrheidiol ac yn ymateb i ofynion statudol.

·         Yng nghyswllt lleoliadau all-sirol, a oedd yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ystyried darparu cyfleuster yng Ngwynedd?

 

Ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-

·         Bod diffyg yn sefyllfa ariannol Storiel yn deillio o ddarparwr preifat yn ildio rheolaeth o’r caffi a’r Cyngor yn mewnoli rheolaeth. Roedd diffyg o ganlyniad i gostau staffio ychwanegol.

·         Bod sefyllfa ariannol yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddim yn unigryw i Wynedd a bod y sefyllfa yn derbyn sylw gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Prydain i ariannu gofal cymdeithasol yn briodol. Nid oedd Llywodraeth Prydain wedi cychwyn ar ei adolygiad gwariant cynhwysfawr oherwydd y ffocws ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ac o ganlyniad disgwylir bydd yn heriol i  ariannu gwasanaethau erbyn 2020/21. Gosodwyd cyllideb yr Adran ar gyfer 2019/20 drwy roi ystyriaeth i dueddiadau, gyda lleoliadau plant wedi cynyddu yn sylweddol, a chynnydd mewn achosion dwys. Rhoddwyd sylw i sefyllfa ariannol yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Mai. Rhagwelwyd y byddai’r Adran yn gorwario yn 2019/20, a darparwyd cyllideb wrth gefn yn gyllideb y Cyngor ar gyfer sefyllfaoedd a allai godi.

·         Rhagwelwyd y byddai’r adrannau a oedd yn tanwario yn parhau i danwario yn 2019/20 gydag adrannau eraill yn gorwario mewn ymateb i argyfyngau. Roedd yn anodd cael cyllideb gytbwys oherwydd y gofynion gwario.

·         Bod prosiect ar y gweill gan Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cynghorau Gogledd Cymru o ran lleoliadau, ond nid oedd llawer o gynnydd.

·         Bod y gyllideb yn adlewyrchu’r galw am wasanaeth ar bwynt mewn amser, gyda chyllideb wrth gefn a fyddai ar gael i’w ddefnyddio yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

Dogfennau ategol: